Os ych chi'n darllen hwn, dyw'ch chwilotwr ddim yn cynnal fframiau. Gallwch symud o'r fan hyn yn iawn ond bydd yn rhaid i chi ddefnyddio botwm NÔL eich chwilotwr i ddychwelyd bob tro y byddwch yn clicio ar un o'r dolenni cyswllt isod. Mae'n ddrwg gen i am hynny.
Byw Heb Gyffuriau
Mae'r rhan hon o'r wefan yn cael cip ar rai sgiliau emosiynol all wella ansawdd ein bywydau. Maen nhw'n sgiliau defnyddiol beth bynnag, hyd yn oed os na fuoch chi'n camdrin cyffuriau erioed. Os buoch chi'n eu camdrin, gall y sgiliau hyn chwarae rhan i'ch helpu chi i ostwng neu i ymwrthod rhag eich defnydd o gyffuriau - os ych chi am wneud hynny.
Bydd amryw yn camdrin cyffuriau am y gallan nhw newid teimladau pobl. Mae camdrin cyffuriau (gan gynnwys alcohol) yn ffordd o osgoi emosiynau anghysurus.
Os gallwn ni dderbyn ein holl emosiynau yn rhan normal o fywyd bob dydd - ac os gwyddon ni sut i'w mynegi yn briodol - yna does dim rhaid i ni eu hosgoi drwy gamdrin cyffuriau neu alcohol. Wrth rywun sy'n credu bod hyn yn swnio'n ffôl, gallwn ddweud yn onest, dyw hyn ddim yn ffôl - mae hyn yn real.
Gall sgiliau emosiynol wella bywyd unrhywun. Os buoch chi'n camdrin cyffuriau/alcohol neu beidio, rhowch gip drwy'r adran hon beth bynnag. Byddwch yn siwr o elwa. Cliciwch ar y penawdau uchod - o'r CHWITH i'r DDE, er mwyn gweithio drwy'r adran hon.
