Mae teimladau (emosiynau) yn wahanol i feddyliau - er bod rhai yn eu cymysgu wrth siarad.
Felly - os bydd rhywun yn dweud "Rwy'n teimlo bod cyffuriau yn beryglus i 'mhlant i", dy'n nhw ddim yn sôn am sut maen nhw'n teimlo - ond am eu meddyliau. Maen nhw'n meddwl neu'n credu bod cyffuriau yn beryglus.
IAWN - beth yw teimladau felly?
Teimladau yw'r pethau sy'n rhoi sylfaen y cymhelliad i fyw. Cymerwch, er enghraifft, ein bod ni'n teimlo:
OFN, DICTER, TRISTWCH, UNIGRWYDD, GWARTH neu ANSICRWYDD - bydd hyn yn dweud bod yn rhaid i ni weithredu mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Mae'n teimladau ni'n dweud ein bod ni'n brifo.
Os y'n ni'n teimlo'n:
FODLON, HAPUS, DDIOGEL, GARIADUS - mae'r teimladau hyn yn dweud y dylen ni barhau i wneud yr hyn ry'n ni yn ei wneud.
Mae rhai o'r teimladau hyn yn rhai cyfrwys ac anodd eu 'nabod, am fod ein meddyliau a'n gweithredoedd yn eu concro nhw ar y pryd.
Sut y gallwn ni eu 'nabod nhw felly?
Gallwn ni ddod i'w 'nabod drwy ymarfer, a dyw hyn ddim yn anodd. Y peth mwyaf hanfodol er mwyn 'nabod teimladau yw GONESTRWYDD - bod yn onest â ni'n hunain.
Swnio'n od?
Wel, dyw hyn ddim yn od. Mae'n hawdd twyllo'n hunain - a phobl eraill - ein bod ni'n teimlo'n IAWN tra'n bod ni'n crio y tu fewn. Mae'n debyg eich bod chi'n gyfarwydd â hyn:
"Helo 'na! Mae'n dda cwrdd â chi eto. Sut ych chi?"
"O iawn diolch"
Pwy rwy'n dwyllo? Rwy' mewn poen! Rwy'n brifo!
Ond d'w i ddim am gyfaddef - hyd yn oed wrtha' i fy hun. Mae hynny'n dweud mod i'n fethiant.
Dyma lle daw GONESTRWYDD iddi. Gonestrwydd â ni'n hunain.
Beth am gymryd dipyn o amser i ofyn sut y'n ni'n teimlo. Beth am ymgom â ni'n hunain (yn dawel bach!) - i weld beth sy'n digwydd y tu fewn.
Gall hyn fod yn syml, ymdawelu am dipyn a gofyn i ni'n hunain sut y'n ni.
- "Sut ydw i heddiw?"
- "Beth sy'n digwydd i mi?"
- "Sut 'dw i'n teimlo am hyn?"
Gallwn ni wrando ar ateb y llais tawel y tu fewn i ni.
Nid yn ein pennau ni mae'r llais. Ond yn ein calonnau. Caiff ei alw'n 'gut feeling' yn Saesneg weithiau, achos ei fod yn dod o'r dyfnder y tu fewn i ni.
Yna -
Eu teimlo'n wirioneddol am ychydig - eu profi. Hyd yn oed teimladau diflas neu boenus.
Achos mae hynny'n iawn.
Mae'n IAWN teimlo'n unig. Mae'n IAWN teimlo'n ansicr. Mae'n IAWN teimlo'n ddig.
Mae'n IAWN hefyd teimlo'n hapus, yn fodlon, yn dawel.
Dyma emosiynau iach, normal - does dim rhaid i ni ddianc rhagddyn nhw. Mae'n teimladau ni'n rhan fawr o pwy y'n ni; 'dyw eu gwadu ddim yn syniad da.
Byddai hynny yn gwadu pwy y'n ni.
IAWN - rwy'n dechrau deall sut rwy'n teimlo - beth wedyn?
Er lles ein iechyd emosiynol, mae'n bwysig dod â'n teimladau i'r amlwg a pheidio â'u cloi yn rhyw fath o seler y tu fewn i ni. Rhaid i ni eu mynegi - yn briodol.
|
NESAF |