Siarad am sut y'n ni'n teimlo

Unwaith i ni fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd y tu fewn i ni - sut y'n ni'n teimlo - beth allwn ni wneud?

Wel, mae un peth yn siwr - wrth gloi ein teimladau y tu fewn i ni, gwadu eu bodolaeth neu esgus bod nhw'n cael dim effaith arnon ni, ry'n ni mewn trafferth.

Pam?
Wrth wneud hynny, bydd yr holl hen deimladau yn aros gyda ni.

Fyddan nhw ddim yn diflannu!

Heb roi llais iddyn nhw, bydd y teimladau cudd ry'n ni'n methu, neu'n anfodlon eu mynegi yn casglu ac yn cronni fel hen friw. Gallan nhw fod yn flynyddoedd oed.

Mae hyn yn brifo!
Mae hyn yn brifo ein bywyd emosiynol. Gall achosi i ni gamdrin cyffuriau neu alcohol er mwyn peidio teimlo poen mewnol.


FELLY - Rhaid i ni fynegi'n teimladau - yn briodol

Y ffordd orau o ryddhau teimladau anghysurus yw siarad yn onest amdanyn nhw. Yna dy'n nhw ddim yn ein gwenwyno y tu fewn - ond yn ein gwella'n naturiol.

Y geiriau allweddol fan yma yw:

YN BRIODOL

Does dim rhaid i ni rannu ein holl deimladau gyda phawb! Bydd dweud wrth berson arall sut ry'n ni'n gwir deimlo yn gofyn llawer o ymddiried o'n rhan ni - a pharch o ran y gwrandawr.

Efallai bydd un neu ddau ffrind agos iawn neu aelod o'n teulu y byddwn yn gyfforddus yn eu cwmni, a gallwn ddweud wrthyn nhw sut y'n ni'n teimlo heb ymatal dim.
Bydd ffrindiau eraill y gallwn rannu'n teimladau gyda nhw hefyd - ond heb ddatgelu cymaint. Mae hyn yn IAWN.

Gallwn ddysgu beth sy'n briodol i ni a beth sy'n briodol i eraill.

Mae YN briodol:
- Rhannu teimladau dwfn personol gyda ffrindiau a theulu agos.
- Dweud wrth rywun ein bod yn teimlo'n ddig, yn ofnus, yn cael ein bychanu.

Dyw hi DDIM yn briodol:
- Rhannu teimladau personol dwfn gyda rhywun dy'n ni ddim yn eu nabod yn dda.
- Beio rhywun arall am ein teimladau. Er enghraifft "Ry'ch chi wedi 'ngwneud i'n ddig". Dyw hyn ddim yn wir - o'r tu fewn i ni y daw'n teimladau - nid o'r tu allan i ni. Yn lle hynny, gallwn ddweud "Rwy'n teimlo'n ddig - rwy'n teimlo bod eich ymddygiad yn fy mygwth/yn fy sarhau/yn ffiaidd ... (beth bynnag"


Weithiau, bydd teimladau o ddicter, eiddigedd, gweld chwith, etc yn cael eu mynegi mewn dulliau hollol amhriodol. Glywsoch chi rywun erioed yn GWEIDDI, yn torri pethau, yn brifo rhywun pan oedden nhw'n teimlo'n ddig neu'n eiddigeddus? Wnaethoch chi hynny erioed?

Wel, dyw'r dulliau hyn -

DDIM YN DDULLIAU PRIODOL I FYNEGI EIN TEIMLADAU

- maen nhw'n brifo
- maen nhw'n distrywio
- maen nhw'n bygwth

Siarad yn onest am sut ry'n ni'n teimlo yw'r ffordd orau ymlaen  .  .  .

 
NESAFNESAF