Achos wrth fynegi ein teimladau yn agored, ry'n ni'n dal yn driw i ni'n hunain. Dy'n ni'n cuddio dim, dy'n ni ddim yn dweud anwiredd. Ry'n ni'n onest.
Ystyr hyn yw y gallwn ni barchu'n hunain - gallwn ni deimlo'n dda am ein bod ni'n onest â ni'n hunain ac â phobl eraill.
Fel arfer, bydd pobl eraill yn gwerthfawrogi'n hymdrech i fynegi'r hyn ry'n ni'n deimlo, yn parchu'n gonestrwydd a'n gallu i ymddired ynddyn nhw.
Ac yn eu tro, gallan nhwythau ymddiried ynddon ninnau a dweud yn union sut maen nhw'n teimlo - amdanyn nhw'u hunain, amdanon ni, am fywyd, am ryw sefyllfa arbennig - ac yn y blaen.
Bydd hyn yn gwella ansawdd y berthynas. Ry'n ni'n REAL â'n gilydd.
1 - Cydnabod a derbyn ein holl deimladau, a -
2 - Dod â nhw i'r amlwg, lle gallan nhw gael gwellhad.
Dyma rai cwestiynau i chi -
Deimloch chi erioed:
- Gynnwrf yn eich stumog (DICTER, CHWITHDOD) - ry'ch chi eisiau SGRECHIAN!
- Densiwn yn codi yn eich corff (GWYLLTINEB) - ry'ch chi eisiau CURO RHYWBETH!
- Eich wyneb a'ch gwddf yn cochi (CAEL EICH BYCHANU) - ry'ch chi eisiau RHEDEG I FFWRDD!
- Deimlad gwag yn eich stumog (GALAR, COLLED, UNIGRWYDD) - ry'ch chi eisiau MARW!
Be' wnaethoch chi? . . . Dim byd?
Mae'r teimladau yna yn dal ynoch chi. Yn sefyll y tu fewn i chi. Yn gwneud niwed efallai.
Dyma'r math o deimladau anghysurus y bydd rhywun yn ceisio eu hosgoi, efallai drwy gamdrin cyffuriau neu alcohol. Efallai i chithau geisio gwneud hynny.
Mae enghreifftiau ar y dudalen nesaf, enghreifftiau sut i ddelio â'r teimladau hyn . . .
|
NESAF |