Siān

Myfyrwaig oedd Siān, yn rhannu llety ā phump arall. Byddai pawb yn coginio'u bwyd eu hun ac yn glanhau ar eu hōl. Doedd Neil yn aml ddim yn trafferthu golchi'r llestri ac roedd rhaid i Siān wneud hyn drosto cyn y galli hi goginio. Teimlai'n ddig. Ond roedd Neil yn 6 troedfedd 2 fodfedd o daldra - roedd ei ofn ar Siān!

Tasech chi yn lle Siān, beth allech chi wneud?

Gallai Siān adael pethau fel maen nhw - dyw'r sefyllfa ddim mor ddifrifol ā hynny.
Ond wedyn byddai'n casglu mwy a mwy o ddicter a chwerwder am ymddygiad Neil. Byddai'n dechrau beio hi'i hunan am oddef y sefyllfa.
Ryw ddiwrnod, gallai'r teimladau cudd yma beri bod Siān yn camdrin cyffuriau neu alcohol - achos wrth wneud hynny, fyddai hi ddim yn teimlo cynddrwg. Ond 'dyw hi ddim am wneud hynny.

Penderfynodd Siān bod yn rhaid iddi fod yn onest am yr holl sefyllfa - rhaid iddi ddweud wrth Neil sut mae hi'n teimlo am ei ymddygiad. Heb neb arall yn clywed, dwedodd wrtho:
"Drycha Neil, rhaid i fi ddweud mod i'n teimlo'n ddig. Dy gyfrifoldeb di yw golchi'r llestri ar dy ōl, ond dwyt ti ddim yn gwneud hynny".

Wrth wneud hyn, roedd Siān yn perchnogi ei dicter - nid yn beio Neil amdano - ac yn tynnu sylw at y ffaith bod ymddygiad Neil yn annerbyniol.
Yna dwedodd hi:
Rwy'n gofyn i ti sicrhau dy fod ti'n golchi'r llestri ar dy ōl o hyn ymlaen - wnei di gytuno i hynny?"