Bu Siôn a Cath yn byw gyda'i gilydd ers blwyddyn neu ddwy. Roedd eu perthynas yn gariadus. Dwedodd Cath y byddai hi'n hoffi mynd ar wyliau at ei rhieni - i'r Alban. Cytunodd Siôn, am y gwyddai fod Cath eisiau gweld ei rhieni - ond doedd Siôn ddim am fynd mewn gwirionedd - roedd yn ofnus. Roedd gormod o ofn arno gwrdd â rhieni Cath, ac roedd yn gofidio eu bod nhw'n credu nad oedd yn ddigon da i'w merch.
Roedd yr ofn yn effeithio ar y berthynas. Cadwodd Siôn yn dawel am dipyn ond wedyn dwedodd bethau cas wrth Cath am ei rhieni. Doedd gan Cath ddim syniad beth oedd yn bod arno.
Roedd Siôn yn gwybod allai hyn ddim parhau - h.y. cadw'i deimladau iddo'i hunan - a mynd ar wyliau gyda Cath gan obeithio rywsut y byddai pethau yn troi allan yn iawn.
Ond roedd hefyd yn gwybod, wrth wneud hynny, fyddai ei ofnau ddim yn diflannu. Tebyg y bydden nhw'n cryfhau. Er mwyn cuddio'i ofn - oddiwrtho'i hunan ac oddiwrth Cath - gallai fod wedi camdrin cyffuriau neu alcohol - er mwyn peidio teimlo'r ofn. Ond doedd Siôn ddim am wneud hynny - byddai hynny'n gwneud pethau'n waeth.
Felly penderfynodd Siôn bod yn rhaid iddo gydnabod ei ofn a dweud wrth Cath amdano.
Dwedodd:
"Cath, rhaid i fi rannu 'nheimladau gyda ti am ein gwyliau. Rwy' ofn cwrdd â'th rieni. Rwy'n nerfus rhag ofn iddyn nhw gredu mod i ddim yn ddigon da i ti."
"Rwy am fynd ar wyliau achos dy fod ti am fynd. Ond rwy' angen dy gefnogaeth di i goncro'r ofn."