Mae Sara yn 38 oed. Roedd hi'n briod â Marc. Roedd dau blentyn 14 ac 11 oed ganddyn nhw.
Collodd Marc ei swydd 18 mis yn ôl ac roedd yn methu cael swydd arall. Roedd Sara yn gofidio bod Marc yn yfed cymaint. Ers colli'i swydd, roedd Marc yn yfed bron bob dydd.
Roedd Sara'n teimlo'n ddig ac yn ddiymadferth. Roedd Marc yn gwario'r arian a gafodd pan gollodd ei swydd, yn gyflym aruthrol. Roedd biliau heb eu talu. Teimlai Sara'n rhwystredig am ei bod yn methu stopio Marc rhag yfed. Ceisiodd siarad ag ef sawl gwaith, ond byddai Marc yn digio ac yn gwrthod siarad.
Soniodd Sara wrth rai o'i pherthnasau bod Marc yn yfed - bu hynny'n dipyn o help iddi, ac roedden nhw'n rhoi cefnogaeth iddi. Ond roedd pwysau byw gyda rhywun â phroblem yfed ganddo yn dechrau dweud arni. Teimlai y dylai wneud rhywbeth yn fwy i helpu'i hunan, ond wyddai hi ddim beth.
Sylweddolai Sara bod angen iddi siarad â rhywun am ei theimladau, rhywun a fyddai'n deall ei sefyllfa, a fyddai'n ei helpu ar y ffordd orau ymlaen. Y cam gyntaf a gymerodd i gael help a chyngor oedd ffonio'r asiantaeth cyffuriau ac alcohol lleol. Eu hargymhelliad nhw oedd iddi fynd i gyfarfod Al-Anon neu ei debyg, a chychwyn cael cwnsela.
Roedd Sara'n mwynhau'r cyfarfodydd lleol. Gallai rannu ei theimladau gydag eraill yn yr un sefyllfa, roedd hynny'n help mawr. Gollyngdod iddi oedd sylweddoli nad hi oedd yr unig un. Daeth i ddeall bod llawer yn ymdrechu byw gyda phartneriaid â phroblem yfed ganddyn nhw - bydden nhw'n gallu cynghori a chefnogi ei gilydd.
Roedd gwasanaeth cwnsela yr asiantaeth cyffuriau ac alcohol lleol hefyd yn help mawr. Dysgodd Sara ffyrdd eraill o fyw gyda rhywun oedd yn gor-yfed. Daeth i wybod bod ganddi ddewis sut i ymateb i Marc yn yfed. Dechreuodd ad-ennill rheolaeth ar ei bywyd.