Roedd Paul yn 16 oed, ac ar fin eistedd arholiadau TGAU. Teimlai'n isel-ei-ysbryd. Roedd trafferth ym mhriodas ei rieni a llawer o ddadlau rhyngddyn nhw â'i gilydd. Teimlai Paul bod ei rieni ddim yn ei gefnogi o gwbl. Teimlai'n drist a chymysglyd.
Siaradodd unwaith â'i chwaer am sut roedd yn teimlo pan fyddai eu rhieni yn dadlau â'i gilydd. Ond roedd ei chwaer wedi mynd i brifysgol erbyn hyn - ac roedd Paul yn gweld ei cholli yn enbyd.
Dwedodd Paul sawl gwaith wrth ei rieni am ei deimladau pan fydden nhw'n cweryla cymaint. Byddai pethau'n gwella am ychydig, ond wedyn byddai'r dadleuon yn ail-gychwyn ac eto teimlai Paul yn unig iawn.
Yna soniodd Paul wrth rai o'i ffrindiau ei fod yn isel-ei-ysbryd. Dyma nhw'n cynnig cyffuriau iddo, ac yn dweud wrtho y byddai'n teimlo'n well wedi eu cymryd. Ond doedd Paul ddim am gychwyn ar gyffuriau. Roedd wedi gweld eu heffaith ar bobl - doedd dim awydd arno fynd yn debyg iddyn nhw.
Erbyn hyn, roedd Paul yn ei chael yn anodd cysgu. Roedd yn teimlo anobaith. Roedd yn rhaid iddo siarad â rhywun. Roedd cadw'i emosiynau iddo'i hunan yn ei wneud yn sobor o ddiflas. Yna cofiodd bod cwnselwraig yn yr ysgol a phenderfynodd siarad â hi.
Unwaith y dechreuodd Paul siarad â chwnselwraig yr ysgol am ei deimladau, dechreuodd pethau wella. Doedd problemau ei rieni ddim yn wahanol, ond roedd yn help siarad o ddifri' â rhywun am ei deimladau poenus. Roedd yn dda cael rhywun yn barod i wrando arno. Ymhen ychydig, teimlai'n llai isel-ei-ysbryd, ac yn fwy cadarnhaol ynddo'i hunan..