Diane

Athrawes 27 oed oedd Diane. Roedd dau blentyn ifanc 5 a 3 oed ganddi. Roedd hi wedi ysgaru oddi wrth dad y plant. Roedd hwnnw'n gweithio ac yn byw tramor, ac ychydig o gyswllt a gai ā 'r plant.

Weithiau, byddai Diane yn teimlo'n ddig ac yn chwerw bod yn rhaid iddi hi ofalu am ei phlant heb ddim neu ychydig iawn o gefnogaeth eu tad. Weithiau, pan fyddai'n flinedig, byddai'n fyr ei hamynedd gyda'r plant, yn eu dwrdio am bethau a allai eu goddef fel arfer. Wedyn, cāi deimladau drwg amdani'i hunan, euogrwydd a chywilydd. Teimlai'n unig yn aml.

Roedd yn anodd i Diane fagu dau blentyn ar ei phen ei hun. Anaml y byddai hi'n mynd allan, roedd mor anodd cael rhywun i warchod. Roedd un neu ddwy ffrind ganddi a fyddai'n galw heibio weithiau i godi ei chalon. Weithiau, teimlai'n eiddigeddus ohonyn nhw; roedd y ddwy yn sengl ac yn ddi-blant.

Pan deimlai Diane yn eiddigeddus o'i ffrindiau, teimlai'n euog yr un pryd. Meddylai'n aml, "Ddylwn i ddim teimlo fel hyn, rwy'n fam ddrwg." Gwyddai Diane bod hyn ddim yn wir, ond doedd gwybod ddim yn rhwystro'r teimladau.

Yn y diwedd, sylweddolodd Diane bod yn rhaid iddi siarad ā rhywun am ei theimladau. Gwelai bod ei hwyliau drwg gyda'r plant yn gwaethygu - ac roedd hi am osgoi hynny. Byddai'n annog ei dosbarth ysgol i siarad am emosiynau, felly penderfynodd bod yn rhaid iddi hithau hefyd siarad. Gwyddai am Siān - athrawes arall yn ei hysgol - roedd hithau hefyd yn rhiant sengl ac yn ferch garedig.

Gofynnodd Diane i Siān fynd am goffi a 'sgwrs' rywdro i drafod problemau rhieni sengl. Cytunoedd Siān yn eiddgar, "O, hoffwn i gael sgwrs am hynny ", meddai.

Wedi penderfynu siarad ā rhywun, teimlai Diane yn well. Wrth sgwrsio ā Siān, gwelodd ei bod yn help siarad am ei theimladau, gallai gael gwell golwg ar bethau. Nawr ac yn y man byddai Diane a Siān yn gwarchod i'w gilydd- roedd hyn yn help i'r ddwy ehangu eu bywyd cymdeithasol.