Gwr gweddw 67 oed oedd James. Bu farw ei wraig, Mair, yn sydyn 11 mis ynghynt.
Roedd yn anodd i James ddod i dermau â'r golled. Teimlai'n drist ac yn unig. Roedd yn gweld colli ei wraig yn enbyd. Ymwelai'n rheolaidd â'i blant, ac roedd yn gwerthfawrogi hynny. Ond teimlai weithiau ei fod yn fwrn ar ei blant. Ni fyddai James yn eu gwahodd i ymweld yn aml.
Ymhen tipyn, teimlai James yn fwyfwy isel-ei-ysbryd. Doedd dim awydd arno godi'r bore, na mynd allan i siopa.
Dechreuodd hefyd yfed mwy. Byddai'n hoffi diod neu ddwy o frandi wedi cinio, ond roedd hyn wedi cynyddu'n raddol. Roedd yn yfed yn araf drwy'r dydd.
Roedd ei blant a'i ffrindiau'n pryderu amdano. Roedden nhw'n sylwi ei fod yn yfed mwy. Bob tro y bydden nhw'n ei weld, byddai wedi meddwi rywfaint.
Gwyddai James bod angen iddo wneud rhywbeth am yr yfed ac am ei ddull o fyw. Awgrymodd ei fab iddo siarad ag asiantaeth cyffuriau ac alcohol, neu ffonio Alcoholigion Anhysbys. Chwiliodd James am y rhif mewn cyfeirlyfr. Penderfynodd ffonio.
Pan siaradodd â rhywun am yr yfed ac am ei deimladau, dechreuodd James deimlo ychydig yn well. Roedd siarad am ei deimladau ynghylch colli ei wraig yn help mawr iddo. Byddai mynd at AA yn help iddo ddeall pam roedd wedi bod yn yfed. Medrodd James stopio yfed, ac er ei fod yn dal i deimlo colled ei wraig yn ofnadwy o hyd, roedd yn dechrau mynd allan i weld ei ffrindiau unwaith eto.