Enghreifftiau sut gallwn ni ddelio â'n teimladau

Dyma rai enghreifftiau o ffyrdd iachus y gall rhywun ddelio ag emosiynau a fydd efallai yn codi oherwydd sefyllfaoedd anodd mewn bywyd. Bydd medru gwneud hyn yn rhywbeth all helpu osgoi trap camdrin alcohol neu gyffuriau er mwyn 'cuddio' teimladau anghysurus mewn bywyd - a'r llu peryglon sydd wrth wneud hynny.

Cliciwch ar y dolenni cyswllt ar y chwith i weld yr enghreifftiau.

Dychmygwch rai o'r teimladau sy'n codi yn y sefyllfaoedd hyn. Dicter efallai, ofn, neu unigrwydd. Sut gallwch chi ddelio â nhw'n briodol - heb iddyn nhw wneud niwed i chi - neu i'r bobl o'ch cwmpas.

Os na fedrwch chi uniaethu â'r sefyllfaoedd hyn yn hollol, beth am ddychmygu enghreifftiau o ryw sefyllfa sy'n fwy addas i chi. Meddyliwch sut fyddech chi'n ymateb i'r sefyllfa, a sut gallech chi ddelio â'ch teimladau.

NESAFNESAF