Dyma restr ein HAWLIAU personol. Bydd eu cofio yn help mawr i ddelio â'n teimladau, i ddatblygu hunan-ddelwedd, ac yn ein perthynas â phobl eraill.
Efallai bod y rhestr braidd yn hir, ond mae'n werth cymryd amser i ddarllen drwyddi yn ofalus.

RHESTR HAWLIAU PERSONOL

 
Mae gen i ddewisiadau lu yn fy mywyd heblaw dim ond byw.
Mae gen i hawl darganfod ac adnabod y Plentyn o'm Mewn.
Mae gen i hawl galaru am rywbeth oeddwn i angen ond na chefais - neu am beth a gefais nad oedd angen arnaf neu nad oeddwn yn ei ddymuno.
Mae gen i hawl dilyn fy ngwerthoedd a'm safonau.
Mae gen i hawl cydnabod a derbyn fy sustem gwerthoedd, fel bo'n briodol.
Mae gen i hawl dweud "NA" i unrhywbeth os rwy'n teimlo 'mod i ddim yn barod amdano, nad yw'n ddiogel neu ei fod yn gwrthwynebu fy ngwerthoedd.
Mae gen i hawl i barch ac urddas.
Mae gen i hawl gwneud penderfyniadau.
Mae gen i hawl penderfynu a pharchu fy mlaenoriaethau.
Mae gen i hawl bod eraill yn parchu fy anghenion a'm dymuniadau.
Mae gen i hawl terfynu sgyrsiau gydag eraill os bydda' i'n teimlo 'mod i'n cael fy mychanu.
Mae gen i hawl peidio bod yn gyfrifol am ymddygiad, gweithredoedd, teimladau na phroblemau pobl eraill.
Mae gen i hawl gwneud camgymeriadau a does dim rhaid i mi fod yn berffaith.
Mae gen i hawl disgwyl gonestrwydd gan eraill.
Mae gen i hawl i'm holl deimladau.
Mae gen i hawl bod yn ddig wrth rywun rwy'n ei garu.
Mae gen i hawl bod yn fi fy hun, heb deimlo mod i ddim yn ddigon da.
Mae gen i hawl teimlo ofn a dweud "Rwy'n ofnus".
Mae gen i hawl teimlo ofn, euogrwydd a gwarth ac yna eu gwaredu.
Mae gen i hawl gwneud penderfyniadau ar sail fy nheimladau, fy marn neu unrhyw reswm a ddewisaf.
Mae gen i hawl newid fy meddwl unrhyw adeg.
Mae gen i hawl bod yn hapus.
Mae gen i hawl bod yn sefydlog - h.y. cael 'gwreiddiau' a pherthynas iach o'm dewis i.
Mae gen i hawl i'r angen am le ac amser i fi fy hun.
Does dim rhaid i mi wenu wrth grio.
Mae'n IAWN ymlacio, bod yn chwareus ac yn ysgafn.
Mae gen i hawl bod yn hyblyg ac yn gyfforddus wrth wneud hynny.
Mae gen i hawl newid a thyfu.
Mae gen i hawl cyfathrebu'n well fel y gall eraill fy neall.
Mae gen i hawl gwneud ffrindiau a bod yn gyfforddus ymysg pobl.
Mae gen i hawl bod mewn amgylchedd di-drais.
Gallaf fod yn iachach na phobl o'm cwmpas.
Gallaf ofalu amdanaf fy hunan, doed a ddelo.
Mae gen i hawl galaru am golledion gwirioneddol neu ddarpar-golledion.
Mae gen i hawl ymddiried yn eraill sy'n ennill fy ymddiredaeth innau.
Mae gen i hawl maddau i eraill a maddau i fi fy hunan.
Mae gen i hawl rhoi a derbyn cariad di-amod.


 
NESAFNESAF