Dyma SGILIAU BYWYD go-iawn.
Maen nhw'n seiliedig ar fod yn onest â ni'n hunain ac â phobl eraill am sut ry'n ni'n teimlo.
Wrth ddefnyddio'r sgiliau hyn, gallwn fyw bywyd emosiynol iach. Gallwn barchu ein hunain ac adeiladu perthynas dda â 'n teulu a'n ffrindiau, ar sail cyfathrebu gonest.
Bydd gonestrwydd am ein teimladau ddim yn golygu y bydd popeth yn ein bywyd yn serennu. Ond bydd yn golygu bod gennym well sgiliau i ddelio â sefyllfaoedd lle teimlwn ein bod yn cael ein bychanu, lle teimlwn yn ddig neu lle cawn ein camdrin . . etc.
Gallwn fod yn gyfrifol am ein teimladau ac - os bydd raid - gallwn weithredu'n gadarnhaol i ddelio â sefyllfaoedd poenus. Dyma beth yw RHYDDID. Bod yn gyfrifol am ein bywydau ein hunain.
Ond beth am ryddid rhag cyffuriau?
Bydd nifer yn camdrin cyffuriau am y gall cyffuriau newid teimladau pobl. Gall rhywun ddefnyddio cyffur neu alcohol i osgoi teimladau anghysurus, ofn, unigrwydd, dicter, cael eu bychanu etc
Wrth dderbyn ein teimladau a'u dwyn i'r amlwg, ry'n ni'n dwyn y grym oddi arnyn nhw.
Does dim rhaid i ni ddianc ragor. Doed dim i redeg oddi wrtho!
Wrth ddelio'n onest â'n teimladau -
Does dim angen i ni gamdrin cyffuriau.
Os peidiwn gymryd cyffuriau -
Yna - RY'N NI'N RHYDD.
Ry'n ni'n rhydd i wneud beth bynnag a ddewiswn - heb gael ein dal yn y trap creulon hwnnw o orfod cuddio teimladau diflas neu ddig etc. Chwilio am y cyffur nesaf bob amser - y ddiod nesaf. Bob amser yn chwilio am rywbeth sydd ar goll o'n bywydau. A methu ei ennill byth.
Ceisio dianc rhag ni ein hunain yw hynny!
Ac yn ddwfn yn ein hymwybod, ry'n ni'n gwybod - pa mor bell a pha mor gyflym bynnag y rhedwn - allwn ni fyth ddianc rhag ni ein hunain.
Felly - gadewch i ni eu hwynebu - wynebu'r teimladau - eu derbyn - a dod yn rhydd.