Bydd amryw yn camdrin cyffuriau am y gallan nhw newid teimladau pobl. Mae camdrin cyffuriau (gan gynnwys alcohol) yn ffordd o osgoi emosiynau anghysurus.
Os gallwn ni dderbyn ein holl emosiynau yn rhan normal o fywyd bob dydd - ac os gwyddon ni sut i'w mynegi yn briodol - yna does dim rhaid i ni eu hosgoi drwy gamdrin cyffuriau neu alcohol. Wrth rywun sy'n credu bod hyn yn swnio'n ffôl, gallwn ddweud yn onest, dyw hyn ddim yn ffôl - mae hyn yn real.
Gall sgiliau emosiynol wella bywyd unrhywun. Os buoch chi'n camdrin cyffuriau/alcohol neu beidio, rhowch gip drwy'r adran hon beth bynnag. Byddwch yn siwr o elwa. Cliciwch ar y penawdau uchod - o'r CHWITH i'r DDE, er mwyn gweithio drwy'r adran hon.