Alcohol yw'r enw cyffredin ar ethyl alcohol. Mae'n Tawelu'r System Nerfol Ganolog ac yn un o'r cyffuriau a ddefnyddir (ac a gam-ddefnyddir) amlaf yn ein cymdeithas. Fe'i cynhyrchir drwy eplesu ffrwythau, llysiau neu rawn gan lefeiniau/yeasts sy'n trawsnewid carbohydradau (siwgr) y planhigion yn ethyl alcohol. Mae diodydd alcoholig yn bennaf yn cynnwys cymysgedd o ddwr ac ethyl alcohol.sy'n amrywio o ran eu cryfder.
Defnyddir alcohol weithiau yn anesthetydd ac i ddiheintio rhannau allanol y corff.
| Sut bydd alcohol yn gweithio? |
Bydd alcohol yn llonyddu rhannau'r system nerfol ganolog - yn arafu rhai gweithrediadau'r ymennydd. Pan fydd ambell ran o'r system nerfol ganolog yn llonyddu o dan ddylanwad alcohol, bydd canlyniadau o bob math yn digwydd. Er enghraifft, pan fydd canolfannau'r ymennydd sy'n rheoli lleferydd yn cael eu llonyddu, bydd pobl yn llusgo-siarad; pan effeithir ar y canolfannau gweledol, bydd y golwg yn gwyrdroi; pan fydd y canolfannau cydlyniant yn llonyddu, bydd pobl yn colli balans a rheolaeth ar aelodau'r corff.
Bydd effaith llonyddu cryf alcohol yn para rhai oriau wedi ei yfed, ond bydd hefyd yn atal cyffroad (neu aflonyddiad) y system nerfol fydd yn para llawer mwy. Dyna sy'n achosi'r effaith sigledig 'bore trannoeth', canlyniad aflonyddiad y system nerfol gan alcohol a yfwyd oriau ynghynt.
Yn aml mae'r effaith hwn yn arwain pobl sy'n yfed yn drwm fin nos i yfed wedyn bore trannoeth, oherwydd gall y teimladau cyffroad neu aflonyddiad gael eu concro drwy yfed rhagor o alcohol. Fel hyn y bydd cylch cythreulig yn sefydlu a hwnnw all chwarae rhan yn y patrymau gor-yfed.
| Beth yw effeithiau alcohol? |
Mae dylanwad yfed alcohol yn dibynnu ar gyflwr yr ymennydd ar y pryd; a hyn yn ei dro yn dibynnu ar lle bydd yr yfed yn digwydd.
Yn rhywle tawel (gydag ychydig yn digwydd yn yr ymennydd), gartref mewn cadair freichiau efallai, bydd yfwr/wraig yn ymlacio neu'n mynd yn gysglyd wedi yfed dim ond ychydig neu'n gymedrol.
Yn rhywle cymdeithasol lle bydd llawer yn digwydd yn weledol ac yn glywedol (ac yn yr ymennydd) gall yfed ychydig o alcohol ysgogi rhywun. Mae hyn oherwydd bod uwch-ganolfannau'r ymennydd yn llonyddu, ond yn ymddangos yn ysgogi gan leihau pryder a hunan-ymwybyddiaeth. Gall yfwr/wraig fynd yn fwy siaradus nag arfer gan ddangos mwy o hunan-hyder a diffyg hunan-reolaeth. Er bod alcohol yn teimlo fel pe bae'n ysgogi - effeithiau diffyg gweithgarwch arferol yr ymennydd yw hyn.
Wrth gynyddu dogn yr alcohol, bydd gweithgarwch yr ymennydd yn lleihau yn sylweddol a gall y lleferydd fynd yn aneglur, cydlyniant aelodau'r corff waethygu a cholli rheolaeth emosiynol. Gall dognau mawr alcohol rwystro gweithgarwch hanfodol yr ymennydd - gan achosi llonyddu dwfn ac arafu'r anadl, nes achosi coma neu farwolaeth.
Mesurir alcohol mewn unedau. Mae uned gyfwerth â hanner peint o gwrw/lager/seidir cryfder normal, gwydraid o win neu fesur gwirod ddefnyddir mewn tafarn. Mae'r rhestr isod yn dangos effeithiau yfed unedau gwahanol ac yn dangos hefyd faint o alcohol sydd yn y gwaed (mg alcohol fesul 100ml o waed). Hyn sy'n penderfynu a yw rhywun yn troseddu wrth yrru car dan ddylanwad alcohol. Uchafbwynt presennol alcohol yn y gwaed i fedru gyrru'n ddiogel ym Mhrydain yw 80mg/100ml.
Mae'n bwysig cofio bod alcohol yn y gwaed a'i effeithiau yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys pwysau'r corff, math o ddiod, lle bydd yr yfed yn digwydd, faint o alcohol fydd rhywun yn arfer yfed, cynnwys y stumog ac ai gwryw neu fenyw yw'r person.
Mae effaith alcohol yn gryfach ar fenywod am eu bod fel arfer yn pwyso llai (yn cyfateb i faint a yfir), am fod mwy o alcohol fesul pwys yn eu cyrff. Hefyd, am fod llai o waed yn y corff benywaidd, bydd yfed yr un faint yn achosi dwysedd gwaed/alcohol uwch mewn menyw nac mewn gwryw.
- Wedi yfed 1 i 2 uned (0.5 i 1 peint o gwrw - neu 20-50mg/100ml) does fawr effaith o gwbl, heblaw bod yr hwyl yn gwella rhywfaint.
- Wedi yfed 3 i 4 uned (1.5 i 2 beint o gwrw - neu 50-80mg/100ml) daw ymdeimlad ymlaciol a chysglyd. Gall y symudiadau fod yn sigledig. Dyma derfyn cyfreithiol gyrru cerbyd a gallai 4 uned wthio rhai pobl dros uchafbwynt yr alcohol yn y gwaed sef 80 mg/100ml i fedru gyrru'n ddiogel.
- Wedi yfed 5 i 6 uned (2.5 i 3 peint o gwrw - neu 80-100mg/100ml) bydd peth diffyg cydlyniant y corff a'r meddwl fel arfer. Effeithir ar fedru barnu a chofio, ac yn enwedig canolbwyntio.
- Wedi yfed 7 i 8 uned (3.5 i 4 peint o gwrw - neu 120-200mg/100ml) bydd lleferydd y mwyafrif yn llusgo a bydd peth trafferth wrth sefyll neu gerdded. Gall achosi ymddygiad anghyfrifol ac ewfforia.
- Wedi yfed 15 i 20 uned (7 i 10 peint o gwrw - neu 200-300mg/100ml) bydd y mwyafrif yn llewygu.
| Canlyniadau camddefnyddio alcohol |
Bydd gan fwyafrif pobl rywfaint o brofiad gydag alcohol. Bydd llawer yn arbrofi ac yn stopio, neu weithiau'n parhau i yfed heb effeithiau sylweddol difrifol. Bydd rhai yn defnyddio alcohol yn rheolaidd, ac yn cael amryw broblemau corfforol, emosiynol neu gymdeithasol. Bydd eraill yn datblygu dibyniaeth ar alcohol a distryw iddyn nhw'u hunain ac eraill dros nifer o flynyddoedd. Bydd rhai yn marw - a rhai yn achosi marwolaeth pobl eraill.
Am nad oes modd pendant rhagweld pwy fydd yn datblygu problemau difrifol, rhaid ystyried y gall defnydd alcohol o bosibl fod yn beryglus.
Dibyniaeth ar Alcohol
Gall pobl sy'n yfed alcohol fynd yn ddibynnol arno yn gorfforol neu'n seicolegol. Gall hyn wneud niwed mawr i'r yfwr/wraig, i iechyd corff a meddwl, problemau ariannol, anhawster mewn gwaith etc. Yn ychwanegol, mae dibyniaeth ar alcohol yn debyg o achosi pryder mawr i bartneriaid, i blant neu i aelodau eraill teuluoedd sy'n caesl eu heffeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan ganlyniadau yfed alcohol oherwydd gorfodaeth.
Bydd dibyniaeth corfforol yn digwydd yn dilyn yfed yn drwm yn barhaus ac yn aml. Daw pobl sy'n yfed yn rheolaidd i oddef llawer o effeithiau anghysurus alcohol gan fedru yfed mwy cyn dioddef yr effeithiau. Bydd llawer sy'n yfed yn drwm ddim yn ymddangos yn feddw. Am eu bod nhw'n gallu parhau i weithio a chymdeithasu'n weddol dda, ni all y niwed i'w iechyd corfforol gael ei gydnabod nes iddo fynd yn ddifrifol - neu nes bydd rhywun am ryw reswm yn methu yfed ac yn sydyn yn dioddef symtomau ymatal rhag alcohol. Gall y symtomau hyn amrywio - aniddigrwydd, methu cysgu, chwysu, diffyg archwaeth at fwyd, cryndod (y 'shakes'), confylsiwn, rhithweledigaeth ac ar adegau, marwolaeth.
Mae marwolaeth drwy hunanladdiad, damweiniau neu sirosis yr afu yn gyffredin iawn ymhlith pobl sy'n yfed yn drwm.
Gall dibyniaeth seicolegol ar alcohol ddigwydd gydag ychydig ddefnyddd yn unig bob dydd, er enghraifft, gwydraid neu ddau o sieri. Gall hefyd ddigwydd gyda phobl sy'n yfed alcohol dim ond mewn amgylchiadau penodol, cyn neu ar ôl digwyddiadau cymdeithasol efallai. Mae'r ddibyniaeth oherwydd awch am effeithiau seicolegol alcohol, gollyngdod rhag pryder er enghraifft, er na fydd rhywun yn yfed digon i achosi meddwdod difrifol. Bydd rhai sy'n ddibynnol yn seicolegol ar alcohol, wrth ei hepgor, yn tueddu pryderu a dioddef o banig.
Niwed i iechyd
Y terfynau a argymhellir gan Lywodraeth Prydain ar hyn o bryd yw 21 uned yr wythnos i ddynion (10.5 peint o gwrw) ac 14 uned yr wythnos i fenywod (7 peint o gwrw). Bydd yfed parhaus yn uwch na'r lefel hon yn cynyddu posibilrwydd gwneud niwed i iechyd. Y niwed posibl fyddai clefyd yr afu/iau, wlser y stumog, anhwylderau'r galon a chylchrediad y gwaed - ac mewn achosion eithafol, niwed i'r ymennydd.
Mae 25,000 o bobl yn marw ym Mhrydain bob blwyddyn oherwydd salwch cysylltiedig ag alcohol - 50 gwaith cymaint ag sy'n marw oherwydd cyfanswm cyffuriau anghyfreithlon!
Camdriniaeth teuluoedd
Rhoir gor-yfed alcohol yn rheswm cyffredin am anhawsterau mewn teuluoedd neu briodasau, bydd y rhesymau'n amrywio; achosi trais i wraig/partner neu blant wedi yfed gormod, problemau ariannol oherwydd gorfodaeth i brynu alcohol neu rhyw reswm arall yn ymwneud â hynny.
Mae'n anodd gor-bwysleisioi cymaint o ofid fydd rhywun sy'n camdrin alcohol yn gallu ei achosi i'w d/theulu. Os bydd person yn parhau i gamddefnyddio alcohol dros gyfnod, bydd ei h/ymddygiad yn debyg o achosi i berthnasau chwerwi a digio. Er yn caru'r person sy'n eu camdrin, maen nhw'n debyg o gasau'r ymddygiad.
Yn y pen draw - bydd eu cariad yn diffodd.
Damweiniau
Bydd rhywun dan ddylanwad alcohol yn llawer tebycach o gael damwain na rhywun sobor oherwydd bod alcohol yn cael effaith niweidiol ar allu rhywun i farnu a thybio. Canfyddwyd bod 30 y cant o yrrwyr/wragedd Prydain sy'n cael eu lladd ar y ffyrdd wedi bod yn yfed alcohol cyn iddo ddigwydd. Roedd llawer fu farw yn debyg o achosi marwolaeth defnyddwyr/wragedd eraill y ffyrdd hefyd. Dyna wastraff!
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddibyniaeth cemegol, gan gynnwys dibynaieth ar alcohol.