| Amffetaminau |
|
| Beth yw amffetaminau? |
| Defnydd meddygol |
Yn y 1950au a'r 1960au roedd defnydd amffetaminau yn gyffredin iawn, yn enwedig i drin iselder ysbryd a cholli pwysau. Ond oherwydd eu sgîl-effeithiau ac am eu bod yn caethiwo, do'n nhw ddim yn boblogaidd a chliriwyd mwyafrif y brandiau o'r farchnad. Anaml erbyn hyn y bydd meddygon yn eu rhoi i gleifion ar bresgripsiwn.
Gyda defnydd priodol, gall amffetaminau gadw pobl yn fwy effro a gwella'u gallu corfforol. Maen nhw'n gallu gwella narcolepsi, anhwylder anarferol lle bydd cwsg yn goddiweddyd pobl yn ddirybudd, ac hefyd yn helpu plant sy'n dioddef ADHD (attention deficit hyperactivity disorder).
| Camddefnydd amffetaminau |
Amffetamin cyffredin iawn welir ar stryd yw'r powdwr gwyn Sylffad Amffetamin. Cynhyrchir hwn mewn labordai anghyfreithlon a'i amhuro wedyn nes bydd yn y diwedd yn ddim ond 6- 10% amffetamin. Bydd y 90% arall yn cynnwys unrhywbeth bron, powdwr coginio a ffisig gweithio corff. Mae Sylffad Amffetamin yn costio rhwng £5 a £10 y gram.
Gellir llyncu, anadlu drwy'r trwyn (snortio) neu chwistrellu Syllfad Amffetamin. Ei lys-enwau yw 'sulphate', 'wizz', 'speed', 'Billy Wiz' etc.
| Sut mae amffetaminau'n gweithio? |
Mewn rhyw ystyr, bydd amffetamin (drwy ollwng yr adrenalin) yn dynwared adwaith 'ymladd neu ddianc'. Dyma'r adwaith naturiol mewn sefyllfa beryglus - pan fydd llew yn ymosod (neu brifathro, swyddog heddlu, arolygydd treth y wlad etc - yn dibynnu ar y sefyllfa!). Ar adegau fel hyn, bydd y corff yn adweithio'n otomatig gan 'ymladd neu ddianc'. Bydd adrenalin yn ffrydio i'r system, a hyn yn cynyddu curiad y galon a'r anadl fel y gall gwaed yn llawn ocsigen ruthro i'r cyhyrau. Bydd rhywun yn fwy effro yn feddyliol. Bydd y system dreulio bwyd yn cau er mwyn i'r gwaed gyrraedd y cyhyrau a bydd rhywun yn barod i ymladd y llew neu ddianc rhagddo fel y gwynt!
| Beth yw effaith amffetaminau? |
Gall defnyddiwr/wraig amffetamin deimlo cynnydd hunan-hyder dros dro a bydd ganddo/ddi fwy o egni nag arfer. Mae'n arferol gweld pobl yn parablu llawer ac yn gweithredu'n gorfforol iawn - codi, cerdded o gwmpas, etc - dyma'r esboniad am yr enw 'speed' a 'speeding' am y cyffur a'i ddefnydd. Bydd dylanwad amffetamin yn ei gwneud yn anodd ymlacio a bydd yn rhwystro cwsg. Ni fydd archwaeth at fwyd, er mai gohirio'r angen am seibiant a bwyd y bydd y cyffur, nid cymryd ei le.
Bydd mislif llawer o fenywod wrth ddefnyddio amffetamin yn mynd yn afreolaidd neu'n peidio.
I gynnal effaith amffetamin, bydd rhywun sy'n ei ddefnyddio'n rheolaidd yn gorfod cymryd dogn fwy o faint. Wrth beidio'i gymryd yn gyfangwbl, ânt i deimlo'n isel iawn ac yn gysglyd. Gall dogn uchel, yn enwedig dogn aml, achosi deliriwm, panig, rhith-weledigaethau a pharanoia.
| Canlyniadau camddefnyddio amffetaminau |
Gall rhywun sy'n defnyddio dogn amffetamin uchel yn rheolaidd ddatblygu lledrithiau, rhith-weledigaethau a theimladau paranoia. Yn ogystal, gall defnydd trwm y cyffuriau hyn wneud niwed i'r gwaedlestri ac achosi i'r galon fethu, yn enwedig pobl sy'n dioddef pwysedd gwaed uchel eisoes neu drafferth gyda'r galon, neu bobl sy'n ymarfer corff yn ormodol tra'n defnyddio'r cyffur.