Cyffuriau lliniaru/lladd poen

 
Dyma'r sylweddau sy'n lliniaru neu'n lladd poen. Mae rhai, aspirin neu paracetamol, yn weddol ddiniwed. Ond mae'r rhai a gamddefnyddir yn llawer cryfach ac yn lladd poen yn bwerus. Bydd rhai'n cael eu puro o'r pabi opiwm (Papaver somniferum) a'u dosbarthu yn gyffuriau cysgu/"opiates". Bydd rhai hefyd yn cael eu cynhyrchu drwy syntheseiddiad cemegol.

Mae'r Cyffuriau Cysgu yn cynnwys Opiwm, sef resin ddaw o hedyn y pabi opiwm, ynghyd â morffin, heroin a codin. Cynhyrchir nhw i gyd o'r opiwm crai drwy broses gemegol weddol syml.

Bydd cyffuriau lliniaru/lladd poen synthetig ar ffurf powdwr, tabledi neu hylif, yn cynnwys Methadon (mewn syrup fel arfer), Physeptone (methadon mewn tabled), Pethidin, Diconal a Palffiwm.


Pa rai sy'n cael eu camddefnyddio?

Gyda'r cyffuriau lliniaru/lladd poen, yn enwedig y cyffuriau cysgu, mae posibilrwydd mawr eu camdrin. Heroin yw'r mwyaf amlwg, ond hefyd morffin, paregoric (yn cynnwys opiwm) a moddion peswch (yn cynnwys codin).

Camddefnyddir nifer o'r cyffuriau synthetig yn lle heroin gan ddefnyddwyr hwnnw. Cafodd methadon - ar bresgripsiwn yn lle heroin - ei gamddefnyddio yn y blynyddoedd diwethaf ac mae'n gyfrifol am llawer o farwolaethau yng ngwledydd Prydain.
Gellir malu Diconal, Physeptone, Pethidin a thabledi palffiwm gan gamddefnyddwyr cyffuriau.er mwyn eu chwistrellu. Mae'r tabledi hyn yn cynnwys deunyddiau solid eraill, e.e. sialc, a all lenwi'r gwythiennau ac arwain at gangrin neu strôc.

Sut maen nhw'n ymddangos?

Resin brown tywyll a gludiog braidd yw Opiwm. Mae'n ymddangos fel pwti; a chaiff ei ysmygu neu ei fwyta. Powdwr gwyn neu frown yw heroin, wedi'i doddi fynychaf mewn dwr a'i chwistrellu, er y gellir ei ysmygu. Mae'r heroin a welir ar y stryd gan amlaf wedi ei wanhau neu ei 'dorri' gyda sylweddau eraill, lactos neu quinine.

Bydd cyffuriau lliniaru/lladd poen eraill, gan gynnwys y rhai synthetig, yn amrywio o ran golwg, mewn capsiwl, tabled, syrup, cymysgeddau a thawddgyffuriau/suppositories.

Beth yw effeithiau cyffuriau lliniaru/lladd poen?

Bydd y rhai cysgu/opiates a'r rhai synthetig yn tueddu tawelu pobl. Wedi eu chwistrellu, teimlir rhuthr/'rush' ar unwaith - h.y. ton enfawr ymlaciol yn dod dros rywun a rhyddid rhag pryder. Gall yr effeithiau drwg gynnwys aniddigrwydd, teimlo angen taflu i fyny a thaflu i fyny'n wirioneddol. Gall y person fynd 'on the nod' - sef amrywio rhwng teimlo ar ddihun a theimlo'n gysglyd. Gyda dogn enfawr, ni ellir deffro'r person, a bydd y croen yn mynd yn oer, yn wlyb ac yn las. Bydd yr anadl yn arafu a gall marwolaeth ddigwydd.

Pan gymerir y cyffuriau hyn mewn syrup, tabled neu gapsiwl, etc, mae'r effeithiau yn debyg i'r un wrth eu chwistrellu, ond nid cynddrwg, ac ni theimlir y rhuthr/'rush' ar unwaith.


Cliciwch ar y dolenni cyswllt i gael gwybodaeth penodol am heroin neu methadon.