Barbitwradau
Barbitwradau
 
 
Beth yw barbitwradau?
Tawelyddion y system nerfol ganolog yw barbitwradau. Maen nhw'n gweithio'n debyg iawn i alcohol ac yn arafu sawl rhan yn yr ymennydd. Gelwir cyffuriau'r dosbarth hwn yn rhai tawelu/hypnoteiddio; gallan nhw gael eu defnyddio i dawelu pobl ac hefyd cynorthwyo pobl i gysgu (gyda dogn fwy o faint).

 
Defnydd meddygol
Gydol y 1900au cynnar, rhoddwyd barbitwradau ar bresgripsiwn i bobl oedd yn bryderus ac yn methu cysgu a gydag amffetaminau i drin iselder ysbryd. Cynyddwyd nifer presgripsiynau yn y 1950au hwyr a'r 1960au, pryd yr amcangyfrifwyd bod 500,000 o bobl ym Mhrydain yn eu cymryd a chwarter ohonyn nhw'n dibynnu arnyn nhw. Am eu bod mor gyffredin, bu llawer o farwolaethau drwy or-ddogni'n ddamweiniol, ac roedd eu defnyddio i gyflawni hunanladdiad yn gyffredin.

Arweiniodd pryder ei bod yn bosibl mynd yn gaeth iddyn nhw, a chynnydd yn nifer y marwolaethau oherwydd eu defnydd, at ddatblygu meddyginiaethau amgenach. Gyda darganfod y benzodiazepinau mwy 'diogel' (gweler adran Tawelyddion), gostyngwyd defnydd meddygol barbitwradau ar gyfer trin pryder a diffyg cwsg yn sylweddol ers y 1970au. Er hynny, defnyddir ffenobarbitol o hyd i reoli dirdyniadau epilepsi a barbitwradau eraill weithiau i drin iselder ysbryd.

 
Camdrin barbitwradau
Yn wahanol i gyffuriau eraill sy'n cael eu camdrin, ni fydd barbitwradau yn cael eu cynhyrchu rhyw lawer mewn labordai anghyfreithlon. Yn y farchnad gudd y byddan nhw fel arfer, rhai cyfreithlon ond a gafodd eu ffugio ar bresgripsiwn, er y daw llawer hefyd o dramor.

Llys-enwir barbitwradau yn gyffredinol yn "barbs" neu "downers" gan bobl sy'n eu camddefnyddio - neu wrth lys-enwau eraill yn ôl lliw'r capsiwl, yn "reds" neu "yellows". Barbitwradau a arferai gael eu camddefnyddio oedd amobarbital (Amytal), pentobarbital (Nembutal), a secobarbital (Seconal). Ni welir rhain ar bresgripsiwn rhyw lawer erbyn hyn, felly dim ond ychydig sydd yn y farchnad gudd, weithiau mewn capsiwlau neu dabledi, mewn hylif neu dawddfeddyginiaethau.

Y camddefnydd amlaf, oherwydd eu heffaith, yw tabledi cysgu sy'n cynnwys barbitwradau. Bydd pobl yn eu llyncu'n aml gydag alcohol i gynyddu'r effaith ac yn eu chwistrellu hefyd weithiau drwy agor y capsiwl a thoddi'r cynnwys mewn dwr. Bydd darnau bychain ohonyn nhw (y 'bulk') yn gwrthod toddi a gall rhain niweidio'r gwythiennau.

 
Sut maen nhw'n gweithio?
Mae barbitwradau'n gweithio drwy gynyddu gweithrediad newro-drosglwyddydd (negesydd cemegol) sydd ar adegau yn rhwystro gweithrediad yr ymennydd. Er enghraifft, pan awn i gysgu, bydd ambell ran o'r ymennydd yn cau lawr, am nad oes ei angen. Oherwydd bod barbitwradau yn cynyddu gweithrediad un o'r newro-drosglwyddyddion hyn sy'n cau lawr (Gamma ammino butyric acid - GABA), maen nhw'n dylanwadu ar agweddau o'r corff gan gynnwys yr hwyliau, symudiad, cydlyniant a hyd yn oed yr anadl.

 
Beth yw effeithiau barbitwradau?
Mewn llawer ffordd mae effeithiau barbitwradau yn debyg i effeithiau alcohol. Bydd symiau bychain yn tawelu ac yn ymlacio'r cyhyrau. Y cyfuniad hwn o dawelu ac achosi llai o bryder a wnaeth y math hwn o gyffur mor boblogaidd i'w gamdrin.

Canlyniadau dogn gymedrol fydd mynd yn gysglyd, yn gymysglyd, methu canolbwyntio, colli cydlyniant, cryndod a lleferydd aneglur. Mae'r effeithiau hyn yn ei gwneud yn rhy beryglus i yrru car neu weithredu offer oherwydd bod y ddogn yn cael effaith ddifrifol ar allu rhywun i fffurfio barn.

Bydd dogn fawr o farbitwrad yn gostwng graddfa curiad y galon, yn achosi i gannwyll y llygaid fynd yn fwy, ac i'r anadl fyrhau. Oherwydd bod prosesau hanfodol bywyd yn cael eu rhwystro (curiad y galon a'r ysgyfaint), gall dogn fawr yn hawdd achosi anymwybyddiaeth a marwolaeth.

 
Canlyniadau camdrin barbitwradau

Canlyniadau iechyd

Bydd defnyddio barbitwradau gyda chyffuriau eraill sy'n arafu'r corff, alcohol efallai, yn lluosi eu heffeithiau ac yn cynyddu perygl marwolaeth yn enbyd. Gall marwolaeth ddigwydd gyda'r cyfuniad hwn yn dilyn gor-ddogni, naill ai'n bwrpasol neu'n ddamweiniol.

Yn dibynnu ar y ddogn, amlder a hyd y defnydd, bydd goddef a/neu d/dibyniaeth gorfforol a seicolegol ar farbitwradau yn gallu datblygu'n gyflym iawn.
Wrth i rywun ddod i oddef barbitwradau, bydd ffin diogelwch rhwng dogn effeithiol a dogn farwol yn un denau iawn. I gael yr un lefel o ddylanwad, bydd rhywun sy'n camddefnyddio barbitwradau ac yn dod i arfer â nhw, yn cynyddu'r ddogn i lefel a all achosi coma neu farwolaeth.
Gall dibyniaeth ar (neu gaethiwed i) farbitwradau ddigwydd mewn byr amser, a bydd yn rhaid i ysbyty drin effeithiau ymatal yn ddiogel rhag y cyffuriau hyn.

Mae gor-ddogni barbitwradau yn achosi bron draean y marwolaethau a gofnodir o ganlyniad i ddefnydd cyffuriau. Mae rhain yn cynnwys hunanladdiad a gwenwyno drwy ddamwain. Gall marwolaeth ddamweiniol ddigwydd weithiau pan fydd rhywun yn cymryd un ddogn, mynd yn gymysglyd, a chymryd dogn arall neu ddogn fwy o faint. Gyda barbitwradau, mae llai o wahaniaeth rhwng dogn all achosi cwsg a dogn all achosi marwolaeth. Ymhellach, gall ymatal rhag barbitwradau fod yn broblem fwy difrifol nag ymatal rhag heroin.

Canlyniadau cyfreithiol

Cyffuriau Dosbarth B yw barbitwradau o dan y Ddeddf Camddefnyddio Sylweddau. Mae'n anghyfreithlon eu cynhyrchu, eu cyflenwi a bod yn eu meddiant.


 
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddibyniaeth gemegol, gan gynnwys ar y barbitwradau