Cannabis
Cannabis
 
Beth yw cannabis?
Tawelydd y System Nerfol Ganolog yw Cannabis. Daw o'r planhigyn Cannabis sativa, sy'n tyfu mewn llawer rhan o'r byd. Defnyddir y cyffur cannabis ar dri gwahanol ffurf - y dail a'r blagur, a elwir yn 'grass' neu 'marijuana'; y resin solid (hashish neu hash) a gesglir o'r blagur a'r blodyn; ac mewn hylif trwchus a ddarperir o'r blodau neu o'r resin (olew hash).
Prif gynhwysyn cannabis all ddylanwadu ar yr ymennydd (seico-weithredu) yw THC (delta-9-tetrahydrocannabinol), ond mae mwy na 400 o gemegau eraill hefyd yn bresennol yn y planhigyn.

Cynhyrchir Hashish drwy gymryd y resin a wneir o ddail a blodau'r planhigyn a'i wasgu yn gacennau neu'n slabiau. Mae hwn yn gryfach fel arfer na'r cannabis o'r planhigyn a gall gynnwys cymaint â phum i 10 gwaith cymaint o THC.
Daw'r resin cannabis sydd ym Mhrydain o amrywiol ffynonellau. Resin brown tywyll neu ddu yw'r slabiau hashish o'r India, Pacistan, Afganistan a Nepal, tra bod hashish traddodiadol Morocco a Libanus yn slabiau lliw gwyrdd/brown neu frown/ddu sy'n sych ac yn frau. Ond yn y blynyddoedd diwethaf, ymddangosodd mathau newydd, yn arbennig o Morocco, lle mae'r slabiau resin yn lliw brown tywyll neu ddu ac yn llai o faint nag o'r blaen.
Llygrir Hashish yn aml yn y gwledydd lle caiff ei gynhyrchu ac yn Ewrop hefyd.

Daeth cannabis llysieuol yn fwy poblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Caiff ei fewnforio o amryw wledydd Affrica, Asia, De America a'r Caribi. Mae'r cannabis llysieuol ar werth ym Mhrydain yn cynnwys pob rhan o'r planhigyn bron (y coesyn, y dail, yr hadau, y blodau) wedi'u sychu ac wedi cael eu torri neu eu malu. Daw i Brydain mewn 'bales' neu flociau o wahanol feintiau.
Cannabis - y dailYn y blynyddoedd diwethaf, tyfir 'grass' cartre' yn fwy cyffredin ym Mhrydain ac yn Ewrop, yn rhannol oherwydd bod offer soffistigedig ar gael i'w dyfu a chynhyrchwyr anghyfreithlon ac, yn rhannol, oherwydd bod mathau cryfach y planhigyn C. sativa wedi ei ddatblygu i'w dyfu gartre'.
Mae mathau cryfach 'grass' i'w cael erbyn hyn, sydd yn cynnwys llawer mwy o THC nag oedd ym mathau'r 1960au a'r 1970au. Bydd cannabis llysieuol a dyfir yn y wlad hon fel arfer yn ddail a choesyn y planhigyn C. sativa wedi ei falu a'i werthu'n rhydd, yn hytrach nag wedi'i wasgu.

Tynnir olew cannabis o flodau'r C. sativa neu o'r resin drwy ddefnyddio rhyw fath o doddydd (acetone, alcohol neu betrol). Bydd y toddydd wedyn yn troi'n anwedd, a'r hylif trwchus fydd ar ôl yw'r olew hashish. Mae ynddo THC uchel ac fe'i ysmygir fel y resin. Nid yw olew hashish yn gyffredin iawn ym Mhrydain, yn bennaf am ei bod yn anodd ei bwyso a'i gario, mae'n ffwdanus i'w baratoi ar gyfer ei ysmygu ac mae'n ddrutach na'r cannabis llysieuol a'r resin.

 
Defnydd meddygol
Defnyddiwyd cannabis yn foddion llysieuol yn llawer o wledydd y byd ers amser maith. Defnyddiwyd cannabis yn dawelydd cymhedrol neu i ladd poen ac i drin diffyg cwsg a phoen stumog. Gellid ei gael ar bresgripsiwn ym Mhrydain hyd 1928.
Caiff effeithiau manteisiol cannabis, lladd poen, tawelu a lleddfu symtomau multiple sclerosis, hypoglycaemia ac anhwylderau eraill, eu canmol yn eang. Mewn ambell achos, defnyddiwyd cannabis yn foddion i bobl yn dioddef salwch terfynol, lle methai triniaethau eraill leddfu eu poen. Ond mae unrhywun â cannabis yn eu meddiant yn torri'r gyfraith ym Mhrydain ar hyn o bryd, ac ni all meddygon roi unrhyw ffurf ohono i neb ar bresgripsiwn.

 
Defnyddio cannabis
 
Mewn papur rholio sigarets ac mewn 'joint' cannabis llysieuol y mae'n cael ei ddefnyddio
Cannabis yw'r cyffur mwyaf cyffredin anghyfreithlon ym Mhrydain a defnyddir gan hyd at 3 miliwn o bobl bob blwyddyn. Ei ysmygu sydd fwyaf cyffredin, yn gymysg â thybaco a'i rolio mewn papur sigarets (ffurfio 'spliff', 'joint', 'jay' etc) Ond gellir ei ysmygu hefyd gyda - neu heb - dybaco mewn pibelli neu mewn offer, 'bong' neu 'bibelli dwr'. Wrth ei smocio, daw ei effaith bron ar unwaith a bydd yn para rhwng awr a theirawr, yn dibynnu ar gryfder y cyffur a faint ohono a ddefnyddir.

Gellir llyncu cannabis hefyd, ar ei ben ei hun neu mewn bwydydd, cacennau, bisgedi ('hash cookies') neu ddiodydd poeth. Wrth ei lyncu, caiff ei amsugno'n araf i'r gwaedlif a chymer awr neu ddwy i'w effaith pennaf gyrraedd ond gall hwnnw bara rhwng 2 a 6 awr, eto'n dibynnu ar faint a chryfder y ddogn.

 
Beth yw ei effaith?
Mae effaith cannabis yn dibynnu ar faint a ddefnyddir, cryfder y ddogn, yr amgylchiadau, a disgwyliadau a hwyliau'r sawl sy'n ei ddefnyddio.
Yr effeithiau mwyaf cyffredin (ac a ddymunir) yw siarad yn rhydd, teimlo'n hapus, ymlacio a gwerthfawrogi swn a lliw yn amgenach. Bydd y rhai sy'n defnyddio cannabis yn adrodd am eu gallu i berfformio tasgau creadigol yn well (celf, cerdd etc) er nad oes prawf gwyddonol bod y cyffur yn gwella'r clyw, y golwg na sensitifrwydd y croen. Bydd rhai pobl yn bwyta'n ormodol (y 'munchies').

Rhai o effeithiau corfforol sydyn defnyddio cannabis yw curiad cyflymach y galon a'r pyls, llygaid gwaedlyd, ceg a llwnc sych. Dangosodd astudio'r cyffur fod ei effeithiau ymenyddol yn gallu niweidio'r cof byr-dymor, newid ymdeimlad amser a gostwng y gallu i wneud pethau sydd angen canolbwyntio arnyn nhw, adweithio'n gyflym a/neu gydlynu'r corff yn effeithiol.

Adwaith drwg ond cyffredin wedi cymryd marijuana yw cael pwl o bryder sydyn, eithafol. Bydd rhai yn disgrifio'r adwaith hwn yn ofn enbyd colli rheolaeth yn achosi panig. Bydd y symtomau fel arfer yn diflannu ymhen ychydig oriau.

Gall dognau uchel achosi rhithweledigaethau a gwyrdroi'r synhwyrau, a gall hyn ddychryn rhywun yn enbyd. Gall rhai sy'n bryderus neu'n isel-ysbryd eisoes, wrth ddefnyddio'r cyffur hwn, ffeindio bod y teimladau hyn yn gwaethygu. Gall panig neu paranoia ddilyn.

 
Defnyddwyr ifanc cannabis
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'n ymddangos bod cynnydd mewn defnydd cannabis ymhlith pobl ifanc. Mae amryw ffactorau yn gyfrifol am hyn:

 
Canlyniadau defnyddio cannabis

Canlyniadau iechyd

Does dim tystiolaeth derfynol ar hyn o bryd bod defnydd hir-dymor cannabis yn achosi niwed i iechyd corfforol na meddyliol parhaus. Ond mewn rhai astudiaethau diweddar, casglwyd bod defnyddio cannabis yn drwm am amser hir yn achosi niwed ffisegol i'r ymennydd ac mewn sawl ymholiad, trafodwyd angof tymor-byr.

Mae perygl hir-dymor yn codi oherwydd un dull cyffredin o ddefnyddio cannabis. Mae ysmygu unrhyw sylwedd dros amser hir yn syniad drwg a gall anadlu mwg cannabis arwain yn aml at bronceitis neu anhwylderau eraill y frest, a gall achosi cancr yr ysgyfaint.

Darganfyddodd rhai menywod bod defnyddio cannabis yn drwm yn gwneud eu mislif yn afreolaidd, tra bo ysmygu cannabis gyda thybaco tra'n feichiog yn cynhyrchu'r un perygl i'r fam a'r plentyn ag yw ysmygu sigarets.

Dyw'r ffaith bod cannabis ddim yn achosi perygl difrifol i iechyd rhywun ar unwaith, ddim yn ei wneud yn gyffur diniwed, ac nid yw'r niwed a all ddeillio o'i ddefnydd yn llai sylweddol na'r niwed o ganlyniad i gyffuriau anghyfreithlon eraill:

Mae cannabis yn gyffur sydd yn gwneud niwed:

Dibyniaeth

Nid yw cannabis yn achosi dibyniaeth corfforol, ond yn debyg i amryw gyffuriau eraill, bydd rhai yn datblygu dibyniaeth seicolegol ar y cyffur - yn cael anhawster defnyddio llai ohono, neu'n defnyddio mwy er mwyn cael yr un effaith. Gall y bobl hyn ddatblygu problemau yn eu gwaith neu yn eu perthynas bersonol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'u defnydd o'r cyffur. Bydd chwilio amdano a defnyddio'r cyffur yn mynd yn ganolbwynt eu bywydau.

Gall defnydd cannabis arwain at ddefnydd cyffuriau eraill, gan gynnwys rhai sy'n denu dibyniaeth.

Diogelwch corfforol

Dangosodd profion yn glir bod pobl dan ddylanwad cannabis yn methu cyflawni tasgau sy'n gofyn am ganolbwyntio a bod yn ddeheuig - gyrru car, e.e. - na chyflawni tasgau normal chwaith. Mae gyrru dan ddylanwad cannabis yn beryglus, nid yn unig i'r unigolyn hwnnw ond i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd. Dangosodd tystiolaeth ddiweddar bod 20% o yrrwyr/wragedd a leddir mewn damweiniau ffyrdd ym Mhrydain dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon. Cannabis yw'r cyffur anghyfreithlon a ddefnyddir fynychaf o bell ffordd; rhaid felly ei fod yn chwarae rhan yn y marwolaethau hyn.
Awgrymodd rhai amcangyfrifon bod cannabis yn gyfrifol, yn fwy nag alcohol, am ddamweiniau ffyrdd.

Canlyniadau cyfreithiol

Cyffur Dosbarth B yw cannabis erbyn hyn. Cafodd ei ail-ddosbarthu fis Ionawr 2009.

Mae'n anghyfreithlon tyfu, cynhyrchu, cyflenwi a bod ym meddiant cannabis, heblaw dan drwydded arbennig Swyddfa Gartref Prydain. Mae'n drosedd hefyd caniatau i unrhyw le gael ei ddefnyddio ar gyfer tyfu, cynhyrchu, cyflenwi neu ddefnyddio cannabis. Er bod trosedd gyntaf meddiannu ychydig bach o'r cyffur yn denu dim ond rhybudd gan yr heddlu y dyddiau hyn, mae'n dal yn drosedd.

Yn achos oedolion - bydd trosedd meddiannu cannabis yn debyg o ennill rhybudd a dygir y cyffur ymaith - onibai fod yna ffactorau ychwanegol gwaeth, sef ysmygu mewn lle cyhoeddus neu ail-droseddu, a all arwain at arestio ac erlynu.
Yn achos pobl ifanc dan 18 - bydd arestio yn dilyn trosedd meddiannu cannabis, dygir y person i swyddfa'r heddlu a chaiff rybudd ffurfiol neu gerydd. Bydd ail-droseddu yn arwain at rybudd terfynol neu gyhuddiad o drosedd/charge.

Bydd cyflenwi cannabis - dim mwy na rhoi'r cyffur i ffrind efallai - yn drosedd fwy difrifol. Y gosb waethaf am hyn yw 14 mlynedd o garchar a/neu ddirwy.


 
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am ddibyniaeth gemegol, gan gynnwys dibyniaeth ar cannabis.