Ysgogydd i'r System Nerfol Ganolog pwerus yw cocaine, cemegyn deilen planhigyn o'r enw Erythroxylon coca, sy'n tyfu yn bennaf yn Colombia, Periw a Bolifia.
Cynhyrchwyd cocaine yn y lle cyntaf ynghanol y 19ed ganrif, a'i ddefnyddio mewn moddion a tonig i drin amrywiol symtomau - real neu ddychmygol. Am ei fod yn eu hysgogi, roedd llawer yn ei gymryd erbyn diwedd y ganrif, er i feddygon ddeall y gallai pobl fynd i ddibynnu arno'n gyflym. Defnyddid cocaine yn ddiweddarach yn anesthetig lleol ar gyfer llawdriniaethau bychain, ond cyfyng yw'r defnydd hwnnw ohono erbyn heddiw, am fod anesthetig synthetig yn fwy cyffredin. Does unrhyw ddefnydd meddygol arall iddo.
Yn y 1970au a'r 1980au roedd cost uchel cocaine a'i brinder yn y farchnad anghyfreithlon yn achosi iddo gael ei ystyried yn gyffur pobl gyfoethog, sêr roc neu ffilmiau. Yn y 1990au, aeth yn weddol rhad a haws ei brynu. Pris cocaine ar y stryd ym Mhrydain (yn 1999) oedd £40 y gram ac mae'r ffaith ei fod yn rhad, yn hawdd ei gael, ac wedi ennill bri am nad oedd yn achosi dibyniaeth (sy'n anghywir), wedi arwain at ddefnydd eang ymhlith pobl ifanc, gyda 9% yn yr oed 20-24 yn 1998, pan ofynnwyd iddyn nhw, yn dweud eu bod wedi ei gymryd.
Ar ffurf cocaine hydroclorid y mae'r cocaine a werthir ar y stryd - powdwr gwyn crisialog, all doddi mewn dwr; a'i lys-enw yw "coke", "C", "Charlie" etc. Bydd yn aml wedi ei lygru gan sylweddau diniwed megis powdwr talcum, neu siwgr mâl, ynghyd ag anesthetig o fath arall, procaine neu benzocaine, neu ysgogyddion eraill, amffetaminau efallai. Er hynny, aeth cocaine y stryd yn burach yn y blynyddoedd diwethaf ac erbyn heddiw, mae gymaint â 60% neu ragor yn burach nag oedd.
Anadlir powdwr cocaine drwy'r trwyn, ei 'snortio' o nodyn banc neu diwb o ryw fath, wedi gosod 'lein' ohono (trwch matsien fawr) ar arwynebedd llyfn, drych e.e.. I deimlo effeithiau cocaine ynghynt ac i'w gryfhau, bydd rhai yn chwistrelli'r cyffur i'w gwythiennau.
Crack cocaine
 Crack cocaine
|
|
 Mae pibelli ar gyfer ysmygu crack cocaine
|
'Sylfaen' cemegol yw cocaine pur. Gellir ei gyfuno ag asid - asid hidroclorid - i ffurfio halen. Halen cocaine yw cocaine hidroclorid. Gellir toddi'r powdwr cocaine hwn mewn dwr a'i gymryd drwy'r trwyn, lle bydd yn toddi yng nghylchrediad y gwaed drwy'r mân-wythiennau yn y trwyn neu drwy ei chwistrellu i'r gwythiennau.
Gellir newid halen cocaine hydroclorid yn ôl i'w ffurf sylfaenol drwy broses weddol syml. 'Free basing' yw hyn ac mae'n bosib iddo fod yn beryglus am fod y toddyddion a ddefnyddir yn debyg o danio. Y ffurf wedyn yw 'free base' neu 'crack' ac mae'r crisialau yn fwy o faint. Cocaine pur yw hwn (h.y. heb yr hidroclorid) ac ni ellir ei doddi mewn dwr. Felly rhaid ei ysmygu; a bryd hynny bydd yn gwneud y swn 'crack'.
Amsugnir 'crack' i'r corff yn llawer cyflymach nag wrth ei gymryd yn bowdwr drwy'r trwyn ac mae'r effaith yn lawer cynt hefyd. Mae'n ffurf bwerus iawn ac yn achosi dibyniaeth mawr. Daeth yn gyffredin ym Mhrydain ers canol y 1980au.
| Sut mae cocaine yn gweithio? |
Bydd cocaine - a mwyafrif cyffuriau - yn dylanwadu ar niwro-drosglwyddyddion y corff. Danfon negesau cemegol o un gell nerfol i'r gell nesaf ati yw eu gwaith. Bydd rhai niwro-drosglwyddyddion yn troi'r celloedd ymlaen - neu'n eu cyflymu; eraill yn eu troi i ffwrdd - neu'n eu harafu. Pan fydd unrhyw gemegyn - megis cyffur - yn ymyrryd â'r niwro-drosglwyddyddion hyn, gall pob math o ganlyniadau ddigwydd.
Bydd cocaine yn ymyrryd â gweithrediad dau niwro-drosglwyddydd o leiaf: Serotonin yw un a Dopamin yw'r llall. Wrth gymryd cocaine - ar unrhyw ffurf - bydd gweithgaredd yr ymennydd, ynghyd â churiad y galon a'r ysgyfaint, yn cyflymu. Bydd pwysedd y gwaed a thymheredd y corff yn codi. Gall symtomau defnyddio cocaine gynnwys poen yn y frest, teimlo eisiau taflu i fyny, y golwg yn niwlog, twymyn, a'r cyhyrau'n gwingo. Dyma symtomau'r galon yn gor-weithio a phwysedd gwaed uchel.
Yn gyffredinol, bydd cocaine yn creu teimladau meddyliol da a gorfoleddus. Bydd rhywun yn teimlo'n llawn egni, yn siaradus ac yn effro yn feddyliol - yn enwedig yr ymwybyddiaeth weledol, glywedol a theimladol. Ar yr un pryd, bydd cocaine yn lleihau'r archwaeth at fwyd a'r angen am gwsg. Mewn llawer ystyr, bydd effaith cocaine yn debyg iawn i effaith amffetaminau, ac yn debyg iddyn nhw, gall cocaine greu pryder a phanig. Ôl-effeithiau cocaine yw blinder ac iselder. Gall gor-ddogni achosi marwolaeth weithiau oherwydd bod y galon yn methu.
Effeithiau tymor-byr
Wrth gymryd cocaine drwy'r trwyn, bydd effeithiau ewfforig yn cyrraedd yn gyflym, yn eu huchelfannau ymhen 15-30 munud ac yn diflannu'n gyfangwbl ymhen hanner awr i ddwyawr. Mae'r 'uchelfan' yn fyr ei barhad, a bydd hyn yn annog pobl i ail-ddogni er mwyn cynnal yr effaith. Peth cyffredin yw ei gymryd eilwaith ymhen hanner awr. Gall aml-ddogni dros gyfnod byr arwain at stadau cynhyrfus eithriadol, pryderon neu paranoia.
Bydd yr orfodaeth i ail-ddogni yn fwy amlwg fyth pan gymeir ffurf 'crack' cocaine. Mae effaith hwn yn digwydd ac yn cyrraedd uchelfan ar unwaith wrth ei ysmygu ac yn diflannu'n fuan wedyn. Bydd pobl yn gyffredin yn ail-ddogni mewn ymgais i gynnal yr 'uchelfan'.
Wrth gymryd dognau mawrion (nifer o gannoedd mg neu fwy), bydd yr 'uchelfan' i raddau yn rymusach, ond gall dognau mawrion hefyd arwain at ymddygiad bizarre, afreolus-ddiofal a threisiol. Bydd ei ddefnyddiwr/wraig yn crynu'n ofnadwy, yn methu rheoli'r cyhyrau, yn dioddef fertigo a paranoia.
Effeithiau hir-dymor
Wrth gymryd cocaine dros gyfnod o amser, bydd pobl yn teimlo effeithiau hir-dymor y cyffur. Gostyngir ewfforia'r 'uchelfan' gan anniddigrwydd, cyffro mawr, diffyg cwsg a paranoia - ac yn y pen draw profir rhithweledigaethau a lledrithiau, symtomau tebyg i rai seicosis oherwydd amffetaminau a paranoid schizophrenia, er iddyn nhw ddiflannu fel arfer wedi gorffen defnyddio'r cocaine.
Er bod effeithiau corfforol defnydd trwm parhaus cocaine yr un fath yn eu hanfod â'r defnydd byr-dymor, gall rhywun sy'n ei ddefnyddio'n drwm hefyd ddioddef hwyliau amrywiol, diffyg diddordeb mewn rhyw, colli pwysau a diffyg cwsg.
Dod i oddef y cyffur
Dod i oddef unrhyw gyffur yw'r amser pan fydd rhywun angen cynyddu'r ddogn i gael yr un effaith â chynt. Ar hyn o bryd, does dim tystiolaeth gallu dod i oddef effeithiau ysgogol cocaine. Gall y sawl sy'n ei ddefnyddio ddal i ddefnyddio'r swm cychwynnol dros gyfnod o amser a dal i brofi'r un effeithiau ewfforig. Ond bydd rhai yn cynyddu'r ddogn mewn ymgais i gynyddu'r effeithiau a'u parhad.
| Canlyniadau defnyddio cocaine |
Dibyniaeth corfforol
Ar hyn o bryd, mae'n aneglur a all dibyniaeth gorfforol ar cocaine hydroclorid ddigwydd. Ond wrth stopio defnyddio cocaine yn rheolaidd a thrwm, bydd rhywun yn cael profiad negyddol pwerus a allai awgrymu eu bod yn gorfforol-ddibynnol arno.
Bydd 'crack cocaine' yn cynhyrchu dibyniaeth corfforol cryf. Wrth ei ddefnyddio'n rheolaidd a thrwm, bydd symtomau amhleserus yn cynyddu. Yn lle ewfforia, daw anniddigrwydd, gor-gyffro a theimlo eisiau taflu i fyny. Gall parhau i'w ddefnyddio fel hyn arwain at seicosis paranoia. Bydd y sawl sy'n ei ddefnyddio'n rheolaidd yn ymddangos yn nerfus bob amseer, yn gyffrous ac yn paranoid. Mae cymysgwch yn gyffredin,yn dilyn gor-flinder wedi diffyg cwsg.
Dibyniaeth seicolegol
Bydd dibyniaeth seicolegol ar y cyffur yn digwydd pan fydd mor ganolog ym meddyliau, emosiynau a gweithgareddau rhywun nes mynd yn grefu neu'n orfodaeth. Ymhlith defnyddwyr/wragedd trwm cocaine, gall dibyniaeth seicolegol ddigwydd, dioddef iselder enbyd pan fydd y cocaine ar ben na ellir ei wella nes cymryd dogn arall. Awgrymodd arbrofion gydag anifeiliaid mai cocaine hwyrach yw'r cyffur mwyaf pwerus o'r cwbl am achosi dibyniaeth seicolegol.
Pan na fydd defnyddwyr/wragedd rheolaidd cocaine yn ei gymryd, bydd amryw ohonyn nhw'n cwyno am fethu cysgu, dioddef anhwylderau bwyta, iselder a phryder, ac am eu bod yn crefu am y cyffur, yn ei gymryd eto.
Canlyniadau iechyd
- Gall marwolaeth ddilyn defnyddio cocaine oherwydd confylsiwn, methiant y galon neu'r effaith ar ganolfannau'r ymennydd sy'n rheoli'r anadl.
- Bydd defnydd cronig cocaine drwy'r trwyn yn peri i hwnnw naill ai fod yn llawn - neu'n rhedeg, eczema iddo a bydd yn niweidio pilennau tu fewn y trwyn yn ogystal â strwythur gwahanu'r ffroenau.
- Nodwyd bod defnyddwyr/wragedd trwm crack cocaine yn dioddef cythruddo'r system anadlu.
- Mae rhywun sy'n ei chwistrellu nid yn unig mewn perygl gor-ddogni ond hefyd, oherwydd nodwyddau aflan, dioddef hepatitis neu AIDS wrth rannu nodwyddau gydag eraill.
- Mae perygl mawr afiechyd meddwl yn dilyn defnyddio cocaine. Fel y soniwyd uchod, bydd defnydd rheolaidd yn achosi pryder, paranoia a seicosis - ac weithiau broblemau afiechyd meddwl parhaol.
Canlyniadau cyfreithiol
Cyffur Dosbarth A yw cocaine yn ei holl ffurfiau. Mae'n anghyfreithlon ei gynhyrchu, ei gyflenwi a'i feddiannu. Mae'n anghyfreithlon hefyd caniatau i unrhyw le gael ei ddefnyddio i'w gyflenwi, ei gynhyrchu neu ei gymryd. Mae'r dirwyon yn uchel.
Nid yw cocaine yn gyffur rhad ac mae'n ddrud parhau i'w ddefnyddio. Bydd defnyddwyr/wragedd rheolaidd yn cyflawni troseddau amrywiol er mwyn talu amdano. Mae'n amlwg bod ymddygiad felly yn debyg o ddenu cofnod troseddau neu garchar.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth ar ddibyniaeth gemegol, gan gynnwys dibyniaeth ar cocaine