Mae'n werth cofio, er bod alcohol yn gyffur cyfreithiol ac y gall unrhywun dros 18 oed ei brynu, y gall fod yn gyffur peryglus, yn enwedig wrth ei gamddefnyddio.
Barbitwradau a benzodiazepinau yw'r ddau brif fath o gyffuriau sy'n llonyddu ac a ddefnyddir yn foddion. Cyfeirir atyn nhw'n aml yn dabledi cysgu a thawelydddion. Barbitwradau enwog yw secobarbital (Seconal), pentobarbital (Nembutal). Ymhlith y benzodiazepinau cyfarwydd mae Diazepam (Valium), chlordiazepoxide (Librium) Nitrazepam (Mogadon) a Temazepam.
Barbitwradau fyddai'n cael eu camddefnyddio amlaf yn y 1950au a'r 1960au, ond am eu bod yn denu dibyniaeth ac yn rheswm dros hunanladdiad a marwolaeth drwy ddamwain, mae eu defnydd mewn moddion wedi gostwng yn sylweddol ers y 1970au. Aeth marchnad gudd y cyffuriau hyn yn llai am fod llai ohonyn nhw ar gael.
Yn anffodus, mae'r benzodiazepinau - oedd yn wreiddiol yn ddarpariaeth well na barbitwradau i drin pryder a diffyg cwsg - erbyn hyn yn cael eu camddefnyddio'n aml. Valium, Librium a Temazepam yw'r tawelyddion hyn, a gydag alcohol, byddan nhw'n amlygu effaith ei gilydd.
Perygl defnyddio tawelyddion yn rheolaidd dros amser hir yw dod i'w goddef, a bydd rhaid cymryd dognau uwch ac uwch i gael yr un effaith. Mae hyn yr un mor wir am alcohol. Pan fydd rhywun sy'n defnyddio twelyddion yn rheolaidd yn ymatal rhag cymryd dognau mawrion yn sydyn, gall amrywiol symtomau corfforol yr ymatal ddigwydd, sef aflonyddwch, diffyg cwsg, pryder, neu gonfylsiwn a marwolaeth.
Cliciwch ar y dolenni cyswllt i gael gwybodaeth benodol am alcohol, barbitwradau neu dawelyddion.