Ecstasi Ecstasi
 
Beth yw Ecstasi?
Ysgogydd rhithbeiriol/Hallucinogenic stimulant yw ecstasi. Cyffur yw wedi ei wneud gan ddynion ag elfennau rhithweledigaethol iddo ac yn debyg ei ddylanwad i amffetaminau. Ei enw cemegol yw 3,4 Methylenedioxymethylamphetamine - ffurf fer yr enw yw MDMA. Mae'n debyg yn gemegol i ddau gyffur arall, sef MDA a methamffetamin.

 
Defnydd meddygol
Dim.

 
Defnydd Ecstasi
Dim ond ers y 1980au y cafodd ecstasi ei gamddefnyddio ym Mhrydain. Mae'n gyffredin iawn erbyn hyn a bydd miloedd yn ei gymryd yn rheolaidd. Mae ganddo gyswllt â'r diwylliant dawns neu ddawnsio disco, ac mae'n cael ei ystyried yn gyffur 'parti' neu gyffur 'penwythnos' yn unig, yn wahanol i heroin neu amffetamin gaiff eu cymryd yn amlach.
Mae'r syniad hwn am ecstasi yn peri camddealltwriaeth ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio. Ond d'yw hyn ddim yn wir; a does neb yn gwybod beth fydd ei effeithiau tymor-hir.

Daw ecstasi mewn tabled neu gapsiwl, ac yn anaml, mewn powdwr. Enwau slang arno yw 'E', 'Eccies', 'Love Doves', 'Disco biscuits' etc. a gwerthir y tabledi dan 'frandiau' gwahanol a logo arnyn nhw. Bydd un ddogn yn costio £10-15.

Mae mathau gwahanol y tabledi yn amrywio'n wythnosol, ac mae ffug-dabledi yn gyffredin. Yn ôl dadansoddiad yr heddlu, bydd hanner tabledi ecstasi a ddaw i'w dwylo nhw ddim yn cynnwys MDMA (y sylwedd gweithredol). Roedd rhai tabledi yn cynnwys LSD, amffetaminau, MDA a Ketamin; eraill heb unrhyw gyffur o gwbl ynddyn nhw.

 
Sut mae ecstasi yn gweithio?
Bydd ecstasi yn ymyrryd yng nghryfder a gweithrediad serotonin yn yr ymennydd. Sylwedd cario negesau yw serotonin, niwro-drosglwyddydd sy'n effeithio ar y systemau nerfol canolog ac ymylol. Mae'n gweithredu drwy gysylltu â derbynyddion ar furiau allanol y celloedd. Ymysg pethau eraill, mae'n rheoli hwyl, cwsg, ymddygiad rhywiol, tymheredd ac archwaeth at fwyd.
Bydd ecstasi yn cynyddu lefel naturiol serotonin. Y canlyniad yw newid yn yr hwyl, llai o archwaeth at fwyd a rhyw, ysgogiad ymenyddol a chynnydd yn nhymheredd y corff.

 
Beth yw ei effaith?
Bydd ecstasi yn creu teimlad ymlaciol ac ewfforig heb achosi rhithweledigaethau rhyw lawer.

Sgîl-effeithiau

Mae sgîl-effeithiau ecstasi yn debyg i'r rhai wrth ddefnyddio amffetaminau a cocaine. Maen nhw'n cynnwys cynnydd yng nghuriad y galon a phwysedd y gwaed, teimlo angen taflu i fyny, y golwg yn mynd yn niwlog, bron llewygu, oeri a chwysu. Problemau seicolegol posibl yw mynd yn gymysglyd, teimlo iselder, diffyg cwsg, pryder enbyd, paranoia a seicosis.

 
Canlyniadau defnyddio ecstasi

Canlyniadau iechyd

'Dyw ecstasi ddim yn achosi dibyniaeth corfforol na seicolegol. Ond gall y cyffur ennill lle pwysig iawn ym mywydau'r rhai sy'n ei ddefnyddio.

Perygl difrifol i'r iechyd o gymryd ecstasi yw hyperthermia - neu or-gynhesu. Bu rhai pobl farw ar ôl cymryd y cyffur am fod eu cyrff wedi gor-gynhesu. Gall ecstasi achosi methiant organau hanfodol y corff.
Mae'r gor-gynhesu yn debyg o ddigwydd yn enwedig pan gymerir y cyffur mewn man lle chwaraeir cerddoriaeth neu mewn disco lle bydd dawnsio. Bydd effaith ysgogol ecstasi yn galluogi pobl i ddawnsio am amser hir iawn, a gall hyn arwain at or-flinder a gor-gynhesu. Os bydd rhythm y ddawns yn ail-adroddus, gall rhywun gael ei 'gloi/chloi' ynddo wrth i'r ddawns ail-adrodd drosodd a throsodd am oriau. Tebyg iawn yw hyn i gi Pavlov, bydddai hwnnw'n ymateb yn adweithiol ddi-feddwl. Mae hyn yn arbennig o beryglus am na fydd pobl yn ymwybodol bod eu corff ar fin gor-gynhesu.

Er bod llawer o fannau cynnal disco yn paratoi stafelloedd 'chill-out' i ddawnswyr gael oeri ynddyn nhw, dyw hyn ddim yn gwneud defnyddio ecstasi yn beth diogel. Wedi ei ddefnyddio, bu rhai farw am iddyn nhw yfed gormod mewn ymgais i ymladd y gor-gynhesu wedi'r gor-ddawnsio.

Bu rhai pobl a ddefnyddiodd ecstasi farw o waedlif yr ymennydd, oherwydd cynnydd pwysedd y gwaed a churiad y galon. Bu eraill hefyd farw,wedi cymryd ecstasi ond roedd y rhesymau yn aneglur.


 
Ni wyddom beth yw effeithiau tymor-hir ecstasi. Mae perthynas clos ecstasi, sef MDA, yn distrywio celloedd yr ymennydd sy'n cynhyrchu serotonin. Y celloedd hyn sy'n rheoli dicter, hwyl, gweithgaredd rhywiol, cwsg, a medru goddef poen. Bydd methamffetamin, sydd hefyd yn debyg i ecstasi, yn niweidio celloedd yr ymennydd sy'n cynhyrchu dopamin. Mae'n bosib iawn bod ecstasi hefyd yn gallu gwneud niwed i gelloedd yr ymennydd.

Canfyddodd gwyddonwyr bod ecstasi yn gallu distrywio canghennau nerfau'r ymennydd a'u gwaelodion. Mae ecstasi hefyd yn achosi i'r nerfau dyfu'n afreolaidd - gan fethu ail-gysylltu â rhai mannau yn yr ymennydd ond cysylltu â mannau amhriodol eraill. Gall y cam-gysylltiadau hyn fod yn barhaol, gan achosi niwed i amrywiol weithgaredd yr ymennydd, newid emosiwn, dysgu neu gofio.

Canlyniadau cyfreithiol

Cyffur Dosbarth A yw ecstasi yn y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Mae'n anghyfreithlon cynhyrchu, cyflenwi neu feddiannu'r cyffur. Bydd rhoi dim ond un dabled i rywun yn ddigon i gyflawni trosedd cyflenwi, yn ôl y gyfraith. Mae'r dirwyon yn uchel.