GHB
GHB
 
Beth yw GHB?
Effaith anesthetydd sydd gan GHB neu 'GBH' fel y'i gelwir yn aml. Ei enw cemegol yw Gamma Hydroxybutyrate. Fel arfer, mae'n hylif di-liw, di-arogl a blas halen arno.

 
Defnydd meddygol
Defnyddiwyd GHB yn Ewrop yn anesthetydd cyffredinol, i drin diffyg cwsg a narcolepsi (anhwylder cysgu yn ystod y dydd), yn gymorth geni plant (gan gryfhau'r cyfangiadau/contractions, leddfu poen a lledu'r serfics), ac i drin alcoholiaeth a syndrom ymwrthod ag alcohol.
Cyn 1990, gallai pobl yn America gael GHB mewn pilsen neu gapsiwl dros y cownter, ac roedd ar gael mewn siopau bwyd iach. Cafodd ei wahardd yn 1990 gan yr FDA oherwydd marwolaethau a salwch difrifol yn dilyn ei ddefnydd, ac mae'n anghyfreithlon i neb ei gynhyrchu na'i werthu yn America erbyn hyn.

 
Sut mae GHB yn gweithio?
Mae GHB yn bodoli'n naturiol ymhob cell yn y corff dynol. Cred rhai gwyddonwyr ei fod yn gweithredu yn niwro-drosglwyddydd, ond does neb yn bendant am hynny eto. Mae'n debyg iawn i gemegyn naturiol arall yn yr ymennydd o'r enw Asid Gamma Amino Butyric, neu GABA. Niwro-drosglwyddydd yr ymennydd yw GABA sy'n arafu neu'n rhwystro gweithrediadau penodol. Cred rhai bod GHB yn gweithredu fel GABA, ac efallai'n effeithio'n anuniongyrchol ar yr un derbynyddion.

 
Camddefnydd GHB
Gellir cynhyrchu GHB yn hawdd o gemegau gweddol gyffredin a chaiff ei wneud mewn labordai 'sinc cegin'. Mae cryfder hwn yn amrywio, am iddo gael ei wenud gartref. Bydd weithiau yn bowdwr mewn capsiwl, ond yn fwy cyffredin mewn hylif. Mewn hylif caiff ei werthu mewn poteli bychain (30-40ml), digon i ddwy neu dair dogn. Bydd y poteli hyn yn costio rhwng £10 a £15. Ei yfed a wneir fel arfer, anaml y'i chwistrellir.

Ymddangosodd GHB am y tro cyntaf ar sîn y clybiau ym Mhrydain yn 1994, mewn llefydd ar gyfer hoywon yn Llundain i gychwyn, ond erbyn hyn mae'n fwy cyffredin mewn discos, raves etc.

Bydd adeiladwyr-cyhyrau weithiau'n ei ddefnyddio, am ei fod yn helpu cynhyrchu hormonau cryfder cyhyrau yn y corff mae'n debyg, ond does dim tystiolaeth i gefnogi'r honiad.

 
Beth yw ei effaith?
Gellir teimlo effeithiau GHB o fewn 5 - 20 munud wedi ei gymryd. Fyddan nhw ddim yn para mwy na rhyw awr i deirawr, er y gellir parhau'r effaith drwy ddogni mwy. Mae effeithiau GNB yn ddibynnol iawn ar faint y ddogn. Bydd cynnydd bychan yn y ddogn yn gallu arwain at effaith fwy o faint o lawer.

Mae effaith dogn isel GHB yn debyg i un y gymysgedd alcohol a'r tawelydd Methaqualone Hydrocsid (mandrax) a oedd yn boblogaidd yn y 1970au ond na roir ar bresgripsiwn bellach. Bydd diffyg ymatal, tebyg i gymryd dognau cymedrol o alcohol, yn digwydd.
Bydd mwyafrif y defnyddwyr/wragedd yn teimlo bod dognau isel GHB yn achosi ymlacio pleserus a thawelwch. Teimladau eraill yw diddigrwydd, cnawdolrwydd, ewfforia cymedrol a thuedd i fod yn siaradus. Bydd pryderu ac ymatal yn tueddu mynd yn ymdeimlad cynnes emosiynol bod bywyd yn dda a mynd i deimlo'n gysglyd. Dyw effeithiau 'bore trannoeth' GHB ddim cynddrwg â'r rhai amhleserus gydag alcohol a'r cyffuriau ymdawelu eraill.

Gyda dognau uwch, mae'r effaith ymdawelu yn mynd yn effaith anestheteiddio a theimlo penysgafnder, colli rheolaeth emosiynol a methu symud na siarad yn synhwyrol.

 
Canlyniadau defnyddio GHB

Canlyniadau iechyd

Y prif berygl i iechyd wrth ddefnyddio'r cyffur hwn yw na wyr neb beth fyddan nhw'n ei dderbyn. Gall gormod o GHB gael effatih marwol. Bydd y mwyafrif ohono'n cael ei wneud gartref gan gemegyddion amatur ac ni fydd y cyffur bob amser yn bur. Gall cyfuniad gwenwynig yn dilyn cemeg-sinc-cegin losgi'r geg a'r llwnc - a gwaeth.

Er mai anesthetydd yw, gyda dognau isel neu gymedrol, bydd GHB yn gweithio i dawelu rhywun yn hytrach nag i ladd poen. Yr effaith tawelu hwn y mae camddefnyddwyr cyffuriau yn chwilio amdano. Ond y broblem yw bod swm y GHB sydd ei angen i deimlo effaith tawelu yn agos iawn at y swm sydd ei angen yn anesthetydd - ac mae hwn yn agos at y swm a all achosi trawiad neu coma. Hefyd, am ei fod yn gyffur-cartref, bydd ei burdeb yn amrywio a gall rhywun yn hawdd or-ddogni'n anfwriadol. Peth peryglus.

Gall sgîl-effeithiau corfforol a niwed posibl i iechyd ddigwydd yn bennaf wrth gymryd GHB mewn dogn sy'n ddigon i gychwyn anestheteiddio rhywun. Gall hyn achosi cyfog, bod yn gysglyd, amnesia, chwydu, diffyg cydlyniant, problemau anadlu ac weithiau, mynd yn anymwybodol. Wedi cymryd gormod, gall trawiadau a coma ddigwydd.

Nid yw'n glir hyd yn hyn a all defnyddwyr ddod i oddef GHB neu ddod i ddibynnu arno naill ai'n gorfforol neu'n seicolegol. Ond mae'n debyg iawn bod dod i'w oddef neu/a dibynnu arno'n gallu digwydd gydag ambell un ac adroddwyd am syndrom wrth ymwrthod a all bara rhwng 3-12 diwrnod gan gynnwys diffyg cwsg, pryder a chryndod. Ychydig a wyddon ni am effaith hir-dymor y cyffur ar iechyd corfforol nac emosiynol.

Mae perygl difrifol iawn gor-ddogni neu niweidio'r iechyd os cymerir GHB yn gyffur tawelu gyda thawelyddion eraill - e.e. alcohol. Gall yfed alcohol gyda GHB arwain yn hawdd at fethu anadlu neu coma.

Canlyniadau cyfreithiol

Fis Gorffennaf 2003, rheolwyd GHB yn gyffur Dosbarth C yn y Ddeddf Camdriniaeth Cyffuriau (1971). Mwyafswm y ddirwy am fod yn ei feddiant yw dwy flynedd o garchar. Mwyafswm y ddirwy am ei feddu gyda bwriad i'w gyflenwi (i eraill) yw 14 blynedd o garchar.