Rhithbeiriau

 
Rhithbeiriau - neu gyffuriau seicedelig - yw cyffuriau sy'n dylanwadu ar ddealltwriaeth rhywun o'r hyn mae'n ei weld, ei glywed, ei gyffwrdd, ei aroglu etc. Gall rhai o'r rhithbeiriau cryfaf ddylanwadu'n eithafol ar allu person i feddwl ac i fod yn hunan-ymwybodol.

Ffynonellau naturiol sydd i rai rhithbeiriau, e.e. mescalin o'r cactws peyote a psilocybin, y rhithbair mewn 'madarch hud'. Mae eraill, LSD a MDA (methylenedioxyamphetamin) ac Ecstasi (methylenedioxymethamphetamin - neu MDMA) naill ai yn hollol synthetig neu'n rhannol-synthetig. e.e. daw LSD o ffwng sy'n tyfu ar rawn rhyg ond bod angen proses gemegol sylweddol i'w gynhyrchu.


Pa rithbeiriau a gamddefnyddir?

Does dim defnydd meddygol cyfreithlon i unrhyw rithbair, felly maen nhw i gyd yn y dosbarth cyffuriau sy'n cael eu camdrin. Y mwyaf cyffredin yw LSD, Ecstasi a psilocybin (madarch hud). Rhithbeiriau eraill yw mescalin a DMT ond maen nhw'n anodd eu cael ym marchnad anghyfreithlon Prydain.

Sut mae'n nhw'n ymddangos?

Bydd y sylweddau mwyaf cyffredin naturiol naill ai yn cael eu gweld yn eu hymddangosiad naturiol neu wedi eu prosesu ychydig, eu sychu efallai. Mae hyn yn cynnwys pob math o ffwng rhithbeiriol.

Os bydd y sylweddau naturiol wedi cael eu puro lawer iawn, e.e. wrth gynhyrchu mescaline, bydd y cynnyrch mewn ffurfiau amrywiol, gan gynnwys hylif, tabled neu gapsiwl.

Bydd rhithbeiriau synthetig ar ffurf tabledi, capsiwlau neu hylifau (a'i arllwys i bapur sugno, lympiau siwgwr neu gelatin). Ar ffurf tabledi y bydd LSD - ac yn enwedig Ecstasi - yn aml mewn ffurfiau gyda logo lliwgar arnyn nhw neu wedi'i wasgu iddyn nhw.

Beth yw effeithiau rhithbeiriau?

Bydd effaith rhithbeiriau yn amrywio yn ôl eu cryfder, e.e. rhithbair gweddol ddiniwed yw psilocybin gydag effaith ymlaciol yn unig fel arfer, synnwyr o fyw yn dda ac effaith gwyrdroad gweledol o ran lliw a phellter.

Ond mae LSD yn llawer cryfach (gymaint ganwaith) a gall ei effeithiau gynnwys rhithweledigaethau disglair, gweledol neu glywedol - ymdeimlad o fod y tu allan i'r corff bron - ynghyd â gwyrdroad o ran amser, pellter a gonestrwydd personol. Gall hyn fod yn brofiad dychrynllyd, a gall rhywun golli rheolaeth ar brosesu meddyliau a gall agweddau amhleserus y 'trip' arwain at ofn enbyd, pryder a hyd yn oed seicosis.

Mae'r rhithbeiriau MDA neu MDMA (Ecstasi) rywle rhwng y ddau begwn uchod o ran cryfder. Bydd rhywfaint o wyrdroad gweledol a dealltwriaeth yn digwydd, ond nid mor ddwys ac afreolus ag LSD.


Cliciwch ar y dolenni hyn i weld gwybodaeth penodol am Ecstasi, LSD neu fadarch hud.