| Heroin |
|
| Beth yw heroin? |
Cyffur cysgu yw heroin. Powdwr gwyn yw heroin pur gyda blas sur arno. Daw o 'nodd' llaethog y pabi opiwm (edrychwch ar y dde). Tyfir y planhigyn hwn yn anghyfreithlon mewn gwledydd ar draws y Dwyrain Canol, Asia a De America.
Mae heroin yn lladdwr poen pwerus sy'n llonyddu'r System Nerfol Ganolog. Mae hyn yn achosi ymdeimlad ymlaciol, un o ddiogelwch a bod popeth yn dda.
| Defnydd meddygol |
Ni chafodd heroin ei ddefnyddio'n gyffredin iawn mewn meddygaeth hyd tua canol y ganrif ddiwethaf. Bryd hynny cafodd ei dderbyn yn eang gan feddygon yn dawelydd ac yn anesthetydd, fel y gwelir yn y poster ar y dde. Roedd ffisigwyr yn dal heb sylweddoli ei botensial i gaethiwo pobl iddo.
Pan sylweddolwyd peryglon heroin, ceisiodd llywodraethau ledled y byd reoli ei weithgynhyrchiad a dodwyd ei ddefnydd ar bresgripsiwn dan reolaeth dynn iawn.
Heddiw, does dim llawer o ddefnydd cyfreithlon i heroin, am fod tawelyddion synthetig ac anesthetyddion wedi goddiweddyd y cyfuniadau a arferai gael eu defnyddio, yn seiliedig ar opiwm.
| Camddefnydd heroin |
Bydd heroin y stryd fel arfer yn gymysg â sylweddau eraill -yn amrywio o lactos i paracetamol. Ond bydd swm sylweddau eraill pan 'dorrir/cut' y cyffur yn amrywio wrth ei brynu ac o ddydd i ddydd, felly gall ei burdeb yn unrhyw ardal amrywio'n eang hefyd - yn dibynnu ar hwyliau pwy bynnag sy'n ei ddelio. Bu amryw o farwolaethau yn dilyn gor-ddogni ar heroin pur, peth anarferol iawn i'w gael.
Ychydig flynyddoedd yn ôl byddai heroin anghyfreithlon yn cynnwys dim ond rhwng 1 a 10 y cant y cyffur mewn gwirionedd. Yn fwy diweddar, aeth heroin y stryd yn gryfach, ac ar gyfartaledd ym Mhrydain, mae purdeb heroin erbyn hyn tua 40 y cant, er y gall amrywio rhwng 1 a 98 y cant (rheswm y gor-ddogni ar ddamwain).
Ynghyd â chynnydd yn ei burdeb, disgynnodd cost heroin. Cost gram o gyffur y stryd erbyn hyn yw tua £60.
Hyd yn ddiweddar, byddai mwyafrif defnyddwyr heroin yn chwistrellu'r cyffur - naill ai i wythien, dan y croen, neu i'r cyhyrau. Dyma'r dull mwyaf ymarferol ac 'effeithlon' o gymryd heroin amhur.
Gyda chaffaeliad heroin purach, gall mwy o'r rhai sy'n ei ddefnyddio ei gymryd drwy'r ffroenau neu ei ysmygu bellach gan ddal i ennill ei effaith. Mae'r ddau ddull hwn ar gynnydd ym Mhrydain.
Er bod hyn yn ymddangos yn 'newyddion da' am fod y ddau ddull hwn yn lleihau peryglon iechyd gyda'i chwistrellu, mae yna ochr waeth. Bydd amryw ceisio'i gymryd drwy'r ffroenau neu ei ysmygu efallai, na fyddai wedi cymryd y cyffur petae'n rhaid iddyn nhw ei chwistrellu.
Mae ei gymryd drwy'r ffroenau neu ei ysmygu yn debyg o apelio'n fwy at ei ddefnyddwyr newydd, am ei fod yn osgoi ofn yr heintiau wrth chwistrellu, HIV/AIDS a hepatitis, ac osgoi hunan-chwistrellu.
Byddai'n achos pryder petae cost is heroin a chynnydd yn ei burdeb yn arwain at iddo fod yn fwy derbyniol i bobl ifanc.
| Beth yw effaith heroin? |
Bydd yn anodd i rywun sydd heb ddefnyddio cyffuriau erioed ddeall sut gall cyffuriau ddenu rhywun - yn enwedig heroin - ond y prif reswm bod rhywun yn cael ei ddenu i ddefnyddio heroin eilwaith ar ôl y profiad cyntaf yw ei fod yn cynhyrchu'r fath ymdeimlad pwerus o ddiogelwch a llonyddwch. Mae'n achosi stad o feddwl lle bydd pob gofal a phryder wedi pellhau. Does dim byd yn poeni rhywun. Mae'n debyg i fod yn y groth efallai.
Y disgrifiad gorau y daeth yr ysgrifennydd hwn ar ei draws oedd:
"But with heroin, ahhh. You can just sit in a sewer all day and be soooo happy and feel soooo good"
("Junk" - Melvin Burgess, 1996 Penguin Books)
Wrth gwrs, does a wnelo'r teimladau cynnes hyn ddim â realaeth. Waeth pa mor dda yw'r teimlad, y gwirionedd yw'r 'gwter' - neu unrhyw sefyllfa arall y mae'r person ynddi - sefyllfa eithaf amhleserus - dyma'r rheswm am geisio dianc rhagddi.
Sgîl-effeithiau defnyddio heroin - yn enwedig i ddechreuwyr/wragedd ei ddefnyddio - yw anniddigrwydd, cyfog a chwydu. Gall rhywun fynd 'on the nod'/'i gysgu' neu 'gouch out' - mynd nôl a 'mlaen rhwng bod yn weddol effro i fod bron cysgu, a channwyll y llygaid yn fychain fel pinnau.
| Canlyniadau defnyddio heroin |
Bydd peryglon eraill iechyd corfforol wrth ddefnyddio heroin ym null cymryd y cyffur. Bydd ei chwistrellu yn gofyn am nodwydd neu chwistrell, rheiny'n amhur yn aml. Gall hyn arwain at wenwyno'r gwaed yn ddifrifol a niweidio'r galon.
Rhag ofn bod rhywun yn meddwl mai jôc yw hyn, dyma sut y bu farw ffrind gorau ysgrifennydd y wefan hon. Cafodd Keith (fy ffrind) wenwyn yn y gwaed/septicaemia oherwydd nodwydd oedd wedi'i heintio. Gwnaeth hyn niwed i falfiau ei galon ac ychydig wedyn bu bron marw. Cafodd lawdriniaethau i osod falfiau plastig yn ei galon a 'pacemaker'. Bu fyw am rai blynyddoedd wedi hyn ond methodd ei galon yn y diwedd.
Dyna'r realiti.
Mae chwistrellu heroin - neu unrhyw gyffur - mewn sefyllfa lle rhennir nodwyddau, efallai ar ddamwain, yn rhoi defnyddwyr mewn perygl o gael eu heintio gan y firws HIV sy'n achosi AIDS. Gellir gwasgar Hepatitis B neu C, y ddau yn heintiau difrifol, yn y dull yma ac mae'r heintiau hyn yn gyffredin ymhlith pobl sy'n chwistrellu heroin i'w gwythiennau.
Perygl arall amlwg i'r corff wrth ddefnyddio heroin yw wrth gyfuno'r cyffur gyda sylweddau eraill. Mae cyffuriau tawelu eraill, alcohol, benzodiazepinau a barbitwradau, yn eithriadol beryglus am eu bod i gyd yn tawelu'r System Nerfol Ganolog. Yn gymysg â heroin, tawelydd pwerus arall y SNG, gall rhain arafu'r anadl neu guriad y galon i'r fath raddau nes i'r anadl neu'r galon fethu.
Gall defnyddio heroin arwain at gaethiwed corfforol pwerus.
Bydd ymwrthod â'r cyffur yn anodd iawn oherwydd y symtomau cysylltiol - er nad yw rhain yn para mwy nag ychydig ddyddiau, maen nhw'n rhai go ddifrifol. Gall llwyrymwrthod achosi symtomau dolur rhydd cronig, cramp yn y cyhyrau, chwydu, diffyg cwsg, chwysu, pryder a chryndod. Mae meddwl am fynd drwy boen ymwrthod yn gwneud i lawer roi'r gorau i geisio.
Unwaith bod yr effeithiau ymwrthod corfforol drosodd, gall crefu am y cyffur barhau am amser hir ac mae'n gyffredin i bobl fethu dal ati. Yn gyffredinol, bydd defnyddiwr/wraig heroin sy'n dymuno peidio angen rhwydwaith gefnogaeth gref i'w helpu i goncro'r ysfa am y cyffur.
(Mae cyffuriau cyffelyb i heroin, sef morffin, opiwm, methadon, dipapanon a pethidin yn gyffuriau Dosbarth A hefyd. Cyffuriau dosbarth B yw codin a dihydrocodin (DF 118) ond wrth eu chwistrellu, rhai Dosbarth A).