| Anadlyddion |
|
| Beth yw anadlyddion? |
| Defnydd meddygol |
Does unrhyw ddefnydd meddygol i'r anadlyddion cyffredin eraill a gamddefnyddir, e.e. y rhestr uchod.
| Camddefnyddio anadlyddion |
Gellir anadlu neu sugno anwedd anadlyddion o lestr agored neu erosol, neu o hances wedi ei gwlychu â'r sylwedd a'i dal at yr wyneb. Neu gall y llestr, y sylwedd neu'r hances gael eu rhoi mewn cwdyn papur neu blastig a'i hanadlu o hwnnw.
Bydd rhai yn cryfhau'r effaith drwy anadlu'r nwy o fag plastig wedi ei ddodi dros eu pennau. Mae hyn yn beryglus iawn am y gall y person fygu a mynd yn anymwybodol neu hyd yn oed farw.
Wedi ei anadlu, bydd arwynebedd mawr haenau'r ysgyfaint yn caniatau i'r anwedd gael ei amsugno'n gyflym i'r llif gwaed. Bydd effaith anadlyddion ar yr ymennydd yn digwydd mor gyflym nes gall anadlu'r sylweddau hyn roi 'uchelfan ar amrant' - tebyg i'r un wrth chwistrellu cyffuriau eraill.
Nodyn am nitradau
Rhoddwyd amyl nitrite ar bresgripsiwn am y tro cyntaf mewn ampoules bychain wedi'u selio. Wrth eu torri, byddent yn gwneud swn snapio, a'u llysenwau oedd 'snappers' neu 'poppers'. Defnyddir y llysenwau hyn yn aml heddiw.
Camddefnyddir amyl a butyl nitrite weithiau gan gwsmeriaid clybiau nos sy'n anadlu'r anweddau er mwyn y 'rhuthr' tra'n dawnsio. Maen nhw'n boblogaidd yn gyffur rhyw, oherwydd eu defnydd i ymlacio'r cyhyrau, ond yn amlach er mwyn ysgogiad ychwanegol wrth gyrraedd anterth orgasm. Mae rheolaeth ar bryniant amyl nitrite ond gellir prynu butyl nitrite mewn siopau rhyw neu glybiau.
| Sut maen nhw'n gweithio? |
Yr eithriad i hyn yw amyl a butyl nitrite. Bydd rhain yn lledu'r gwaedlestri ac yn gwneud i'r galon guro'n gyflymach. Effaith ysgogol byr-ei-barhad yw hyn.
| Beth yw eu heffeithiau? |
Bydd effeithiau anadlyddion yn digwydd yn sydyn ac yn diflannu wedi byr-amser - rhyw 15 - 30 munud. Golyga hyn bod rhywun sy'n camddefnyddio anadlyddion yn debyg o ail-ddogni mewn ymdrech i gynnal 'uchelfan'. Gall hyn arwain at ddefnydd parhaus bron, a phosibilrwydd peryglu iechyd neu fywyd yn ddifrifol.
Mae anadlyddion yn achosi gwyrdroi dealltwriaeth amser a lle. Bydd llawer yn cael cur pen, cyfog neu chwydu, lleferydd llusg, diffyg cydlyniant corfforol a phroblemau wrth anadlu.
Bydd'brech sugno glud' yn gyffredin o gwmpas trwyn a cheg pobl sy'n camddefnyddio anadlyddion. Gall eu dillad, eu croen a'u hanadl aroglu o baent neu doddyddion.
Nitradau
Gall anadlu nitradau achosi penysgafnder a phendro a theimlad bod y gwaed yn rhuthro i'r pen, rhuthr o deimlad cynnes ac ymwybyddiaeth nwydus uwch. Dim ond am funud y bydd eu heffaith yn para. Am y rheswm hwnnw, bydd amyl a butyl nitrites yn cael eu hystyried yn gyffuriau parti neu glwb nos, yn hytrach na rhai i'w camddefnyddio yn ystod y dydd.
Bydd rhai yn dioddef cur pen ofnadwy wedi defnyddio nitradau. Bydd eu harogleuo drosodd a throsodd yn gwneud i rywun fynd yn benysgafn neu'n anymwybodol. Sgîl-effeithiau yw cur pen, cyfog, pesychu a phendro.
| Canlyniadau camddefnyddio anadlyddion |
Tymor-byr
Gall anadlu toddyddion neu erosolau achosi methiant y galon a marwolaeth disyfyd. Gall eu hanadlu am y tro cyntaf neu rywdro arall achosi marwolaeth. Gall anadlyddion achosi marwolaeth hefyd drwy fygu oherwydd ocsigen o'r ysgyfaint yn dadleoli. Gall anadlyddion hefyd achosi marwolaeth drwy lonyddu'r system nerfol ganolog gymaint nes i'r anadl arafu a pheidio'n gyfangwbl.
Bydd marwolaeth oherwydd anadlyddion fel arfer yn digwydd yn dilyn anadlu anweddau cryf iawn, h.y o fag lle mae'r anwedd wedi casglu. Bydd anadlu'n fwriadol o fag papur yn cynyddu perygl mygu.
Dan ddylanwad anadlyddion, gall unrhyw ymdrech gorfforol achosi plwc yng nghyhyrau'r llwnc neu'r galon. Gall hyn achosi marwolaeth.
Bydd anadlu nwyon yn uniongyrchol o ganiau erosol yn gallu rhewi cefn y llwnc gan achosi marwolaeth drwy fygu. Gall y nwyon hefyd fod yn wenwynig. Yn 1995, digwyddodd 68 marwolaeth oherwydd camddefnydd sylweddau taniol - o'r rhain roedd 40 yn dilyn camddefnyddio nwy llenwi tanwyr sigarets.
Tymor-hir
Gall camddefnydd tymor-hir anadlyddion achosi colli pwysau, problemau gyda'r croen, bronceitis, blinder llwyr y cyhyrau, niwed i'r cof, hwyliau amrywiol a methu canolbwyntio.
Bydd camddefnydd aml anadlyddion dros nifer o flynyddoedd yn achosi niwed parhaol i'r system nerfol. Yn ychwanegol, gall niweidio'r afu, yr arennau, y gwaed a mêr yr esgyrn. Mae glud a theneuwyr paent yn benodol yn niweidio'r arennau, tra bod toddyddion toluene a trichloroethylene yn niweidio'r afu.
Mae dod i'w goddef, sef bod angen mwy a mwy ohonyn nhw bob tro i gael yr un effaith, yn debyg o ddatblygu wrth ddefnyddio anadlyddion yn rheolaidd.
Mae butyl nitrite a'r holl anadlyddion eraill yn y rhestr uchod - glud, teneuydd paent, erosolau etc yn gyffredin ar gael ar werth i oedolion. Ond mae'n drosedd gwerthu ambell sylwedd ym Mhrydain a all gael ei gamddefnyddio - toddydd, glud etc - i bobl ifanc dan 18.
Bydd siopwyr/wragedd etc yn cael eu gwahardd rhag cadw cynhyrchion y mae'n bosibl eu camddefnyddio wrth eu hanadlu, er mwyn arbed pobl ifanc rhag eu prynu. Nid yw'r rheolau hyn yn hawdd eu gorfodi ac mae llawer o'r cynhyrchion ar gael mewn cartrefi.
Nid yw'n drosedd i unrhyw un - unrhyw oed - fod ym meddiant anadlyddion.