Y Gyfraith

Rheolir y gyfraith cyffuriau ym Mhrydain gan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, er i'r ffordd y cafodd ei defnyddio gael ei gwella nifer o weithiau oherwydd amgylchiadau newidiol, e.e. cyffuriau camddefnydd newydd yn dod i'r amlwg.

Mae'r Ddeddf yn enwi tri Dosbarth cyffuriau dan reolaeth. Mae'r mwyaf peryglus yn Nosbarth A a'r llai peryglus yn Nosbarth B neu Ddosbarth C.

Nid yw'n glir sut yr amcangyfrifwyd bod cyffur yn 'beryglus' pan osodwyd y cyffuriau yn y dosbarthiadau hyn a rhaid i ni gymryd yn ganiataol i'r Llywodraeth weithredu wedi derbyn y cyngor meddygol gorau.

Ond rhaid nodi nad yw'r tebygrwydd y bydd rhywun farw, yn dioddef niwed, afiechyd meddyliol neu ddibyniaeth yn llai o reidrwydd i ddefnyddwyr cyffuriau Dosbarthiadau C neu B nag yw i ddefnyddwyr cyffuriau dosbarth A.

 


 

Dosbarthiadau cyffuriau dan reolaeth
Cyffuriau Dosbarth A

Cocaine (yn cynnwys Crac)
Ecstasi
Heroin
LSD
Methadon
Methylamffetamin
Morffin
Opiwm
Psilocin (madarch hud) - sych neu wedi'u stiwio

Hefyd:
Dail Coca
Dextromoramid (Palffiwm)
Dipipanon
Ffentanyl
Mescalin
Pethidin

Unrhyw ran o 'ben' neu gapsiwl hadau'r pabi opiwm

Unrhyw gyffur Dosbarth B wedi'i baratoi i'w chwistrellu

Cyffuriau Dosbarth B

Amphetamin
Barbitwradau

Hefyd:
Codin
Dexamffetamin
Dihydrocodin (DF-118)
Methaqualon
Methylffenidad (Ritalin)

Nodyn: Bydd cyffuriau Dosbarth B, e.e. codin, a dihydrocodin (DF118), wedi'u paratoi ar gyfer eu chwistrellu, yn cael eu cyfrif yn Nosbarth A.

Cyffuriau Dosbarth C

Steroidau Anabolig
(mae bod yn eu meddiant at ddefnydd personol yn gyfreithlon dan rai amgylchiadau)

Benzodiazepinau llonyddu
(e.e. Temazepam - ond yn Nosbarth A wedi'u paratoi ar gyfer eu chwistrellu)

Resin Cannabis
Cannabis llysieuol

Dextropropozyphene
(Distalgesic)

GHB

Ysgogyddion cymedrol eraill tebyg i amffetaminau

 


Troseddau y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau

Bod yn eu meddiant
Os bydd gan rywun gyffur o dan reolaeth yn eu meddiant yn gorfforol - neu os bydd yn eu rheoli - heb hawl i wneud hynny (e.e. heb bresgripsiwn) yna gallan nhw gael eu cyhuddo o'r drosedd hon yn y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Y cyhuddiad fydd:

Cyflawnir trosedd hyd yn oed gyda gronyn lleiaf cyffur, heb ystyried a yw'n ddigon i wneud effaiith.

Elfennau allweddol unrhyw drosedd yw:
- bod y sylwedd ym meddiant rhywun neu bod rhywun yn ei reoli;
- ei fod yn gyffur dan reolaeth;
- bod y person yn gwybod bod y cyffur yn ei m/feddiant.

Cyflenwi
Y drosedd fwyaf cyffredin tb y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yw lle mae rhywun yn cyflenwi cyffuriau dan reolaeth i rywun arall.
Os bydd rhywun yn dosbarthu cyffur dan reolaeth i berson arall, bydd yn cyflenwi'r sylwedd hwnnw i'r person a gall gael ei c/gyhuddo o'r drosedd. Does dim rhaid i arian gyfnewid dwylo - gall fod yn anrheg - does dim rhaid i gyffuriau gael eu gwerthu cyn cyflawni trosedd.
Dyw swm y cyffur ddim yn berthnasol chwaith - h.y. bydd cyflenwi hyd yn oed gronyn lleiaf cyffur dan reolaeth yn drosedd.

Dyma'r troseddau eraill am gyflenwi sylweddau dan reolaeth:

Meddiant gyda'r bwriad i gyflenwi:
Nid yw'r swm dan sylw yn berthnasol iawn, er y bydd meddiant swm enfawr o gyffur dan reolaeth yn cael ei ystyried o bosibl yn dystiolaeth o'r bwriad i'w gyflenwi. Hefyd, mae bod ym meddiant unrhyw swm o gyffur a rannwyd yn symiau llai, yn cael ei ystyried o bosibl yn dystiolaeth o'r bwriad i'w gyflenwi.

Cynnig cyflenwi cyffur dan reolaeth:
Cyflawnir y drosedd hon os cynigir cyflenwi cyffur dan reolaeth; does dim rhaid i'r cynnig hwnnw fod wedi cael ei dderbyn.
Bydd yn drosedd hyd yn oed - wrth ei dadansoddi - y gellir dangos nad yw'r sylwedd yn gyffur dan reolaeth.

Cynhyrchu cyffur dan reolaeth:
Bydd gweithgynhyrchu unrhyw gyffur dan reolaeth heb drwydded yn drosedd o dan Ddeddf 1971, e.e. gweithgynnyrchu powdwr amffetamin neu crac yn anghyfreithlon. Bydd tyfu planhigion cannabis hefyd yn golygu cynhyrchu cyffur dan reolaeth yng ngolwg y gyfraith.
Bydd caniatau i unrhywle gael ei ddefnyddio i bwrpas cynhyrchu cyffuriau dan reolaeth hefyd yn drosedd.

 


 

Dirwyon wedi dedfryd euog y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau

Dirwyon uchaf: Cyffuriau Dosbarth A

Y Llys Ynadon:
Meddiant - 6 mis o garchar neu ddirwy £5,000 - neu'r ddau.
Cyflenwi - 6 mis o garchar neu ddirwy £5,000 - neu'r ddau.

Llys y Goron:
Meddiant - 6 mis o garchar neu ddirwy £5,000 - neu'r ddau.
Cyflenwi (neu feddiant gyda bwriad i gyflenwi) - Carchar am oes neu ddirwy heb gyfyngiad arni - neu'r ddau.

 

Dirwyon Uchaf: Cyffuriau Dosbarth B

Y Llys Ynadon:
Meddiant - 3 mis o garchar neu ddirwy £2,500 - neu'r ddau.
Cyflenwi - 6 mis o garchar neu ddirwy £5,000 - neu'r ddau.

Llys y Goron:
Meddiant - 5 mlynedd o garchar neu ddirwy heb gyfyngiad arni - neu'r ddau.
Cyflenwi (neu feddiant gyda bwriad i gyflenwi) - 14 mlynedd o garchar neu ddirwy heb gyfyngiad arni - neu'r ddau.

 

Dirwyon Uchaf: Cyffuriau Dosbarth C

Y Llys Ynadon:
Meddiant - 3 mis o garchar neu ddirwy £500 - neu'r ddau.
Cyflenwi - 3 mis o garchar neu ddirwy £2,000 - neu'r ddau.

Llys y Goron:
Meddiant - 2 flynedd o garchar neu ddirwy heb gyfyngiad arni - neu'r ddau.
Cyflenwi (neu feddiant gyda bwriad i gyflenwi) - 14 mlynedd o garchar neu ddirwy heb gyfyngiad arni - neu'r ddau.
Cynhyrchu (gan gynnwys tyfu - e.e. cannabis) - 14 mlynedd o garchar neu ddirwy heb gyfyngiad arni - neu'r ddau.

(£ yw punnoedd sterling)