LSD LSD LSD
 
Beth yw LSD?
Rhithbair pwerus yw LSD (Asid Lysergig Diethylamid). Mae'n gyffur sy'n newid dealltwriaeth rhywun wrth weld, clywed, cyffwrdd etc. i'r graddau lle gall rhithweledigaethau ddigwydd - h.y. lle mae rhywun yn gweld neu'n clywed pethau sydd mewn gwirionedd ddim yn bod.

Cyffur rhannol-synthetig yw LSD a ddaw o'r asid lysergic mewn ergot - ffwng sy'n tyfu ar ryg a grawniau eraill. Yn bur, powdwr gwyn di-arogl yw LSD sy'n toddi mewn dwr.

 
Defnydd meddygol
Does dim defnydd meddygol i LSD er yr awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol wrth drin ambell salwch meddwl.

 
Defnydd LSD
'Asid' yw'r enw cyffredin am LSD. Roedd yn boblogaidd ym Mhrydain yn ystod y 1960au hwyr a'r 1970au cynnar ac eto yn y 1980au hwyr mewn 'partïon acid house'. Nid oedd mor boblogaidd wedi i ecstasi ymddangos, a nifer gymharol fechan sy'n ei ddefnyddio erbyn hyn o'i gymharu ag ecstasi.
Fe'i cynhyrchir ar gyfer marchnad y stryd mewn labordai anghyfreithlon, y mwyafrif yn Ewrop a Gogledd America.

Mae LSD yn gyffur cryf anhygoel. Bydd dogn gyffredin a gymerir i gael 'trip' yn tua 200mcg, h.y. pumed ran milligram - neu bum mil rhan gram. Bydda'i llond llwy de LSD yn cynnwys tua 20-25,000 dogn!

Am fod un ddogn LSD mor fechan, bydd y cyffur pur yn cael ei wanhau yn enbyd ac yna rhoir un diferyn, digon am un ddogn, ar bapur sugno, ciwb siwgwr etc. Gellir torri'r papur sugno yn sgwariau bychain, eto cynnwys un ddogn, y gellir eu lliwio â chymeriadau cartwn etc (gweler y lluniau ar frig y dudalen). Fel arall, gall y cyffur gael ei ychwanegu ar leiniau gelatin neu yn gapsiwl neu dabled.
Gall tabledi LSD fod yn rhai bychain iawn. Un enghraifft yw'r math 'microdot', sydd ddim ond maint pen pin. Gall fod yn gryf iawn am ei fod yn anodd ei fesur yn gywir a pharatoi meintiau bychain iawn ar gyfer dognau effeithiol.

Bydd un ddogn - neu 'trip' - yn costio rhwng £3 a £5 (sterling).

 
Beth fydd ei effaith?
All neb ragweld effaith LSD. Fel unrhyw gyffur arall, bydd ei effaith yn dibynnu ar y ddogn a gymerir, ar bersonoliaeth y defnyddiwr/wraig, ar yr hwyl a'r disgwyliadau, ar brofiad blaenorol gyda'r cyffur, ac ar yr amgylchiadau. Mae'r ffactorau hyn yn arbennig o bwysig gydag LSD am y gall fod yn rhithbair cryf iawn. Os bydd unrhywbeth o gwmpas person - dyweder - yn fygythiol neu'n gwasgu arno/arni, dan ddylanwad LSD bydd adwaith 'normal' pryder yn gallu mynd yn ofn aruthrol.
Mae'n anodd - os nad yn amhosibl - rhagweld effeithiau LSD ar unrhywun, hyd yn oed os bydd wedi ei gymryd o'r blaen.

Fel arfer, bydd rhywun sy'n ei ddefnyddio yn teimlo'i effeithiau cyntaf rhwng 30 - 90 munud wedi ei gymryd. Bydd yr effaith rhithbeiriol yn cyrraedd ei uchafbwynt wedi 1-2 awr, ond yn amrywio yn ran pegwn ei gryfder.
Bydd LSD yn achosi newidiadau dramatig o ran dealltwriaeth, myfyrdod a hwyliau. Gall rhain gynnwys:

Bydd pobl sy'n defnyddio LSD yn rheolaidd yn profi adweithiau diflas yn y pen draw - neu gallan nhw ddigwydd tro cyntaf defnyddio'r cyffur. Gall 'tripiau drwg' ddigwydd unrhyw dro. Yn aml, maen nhw'n deimladau ofni'n ddwys iawn, pryderu neu iselder ysbryd. Bydd rhai pobl yn teimlo eu bod wedi colli hunaniaeth, eu lle yn y byd, heb unrhyw realiti y gallan nhw ddal gafael ynddo. Mae'n anodd i rywun sydd heb brofi hyn werthfawrogi pa mor ddychrynllyd y gall fod - bydd pob dirnadaeth yn eithafol.

Mewn 'trip drwg', gall y siwdo-rithweledigaethau ddatblygu'n rhithweledigaethau gwirioneddol, ac weithiau achosi ymddygiad rhyfedd iawn. Ambell dro, bydd y seicosis hwn yn para sawl diwrnod neu hyd yn oed fwy na hynny.

Effeithiau corfforol
Mae effeithiau corfforol LSD yn cynnwys cannwyll y llygaid yn ehangu, tymheredd y corff yn codi, curiad y galon a phwysedd y gwaed yn cynyddu, chwysu, colli archwaeth at fwyd, methu cysgu, y geg yn sych a chryndod. Ni fydd pwy bynnag sy'n defnyddio'r cyffur yn sylwi ar hyn am fod effeithiau meddyliol/emosiynol y cyffur yn llawer cryfach.

Goddef y cyffur
Bydd dod i oddef effeithiau LSD yn cynyddu'n gyflym, nes bydd angen mwy o'r cyffur i gael yr un effeithiau. Yn aml, o fewn ychydig ddyddiau o gymryd dognau dyddiol, bydd unrhyw swm o'r cyffur ddim yn ddigon i gynhyrchu'r effaith a ddymunir. Wedi dyddiau o lwyrymwrthod, teimlir yr effeithiau rhithweledigaethol wedyn.

 
Canlyniadau defnyddio LSD

Canlyniadau iechyd

Iechyd Corfforol
Mae'n ymddangos mai ychydig effeith uniongyrchol sydd gan LSD ar iechyd corfforol. Ni adroddwyd am farwolaethau oherwydd gor-ddogni ar LSD ac nid yw'n achosi dibyniaeth corfforol, am nad oes unrhyw symtomau ymwrthod yn digwydd wedi i rywun beidio'i gymryd.

Ond gall LSD ddylanwadu'n gryf yn anuniongyrchol ar iechyd corfforol. Bu achosion hunanladdiad wedi cymryd LSD, a gall y cyffur beri ymddygiad treisiol neu beryglus, a all achosi marwolaeth i'r defnyddiwr/wraig neu i eraill.
Gall gyrru cerbyd, cerdded mewn traffig neu fod yn agos i lefydd lle mae perygl cwympo tra dan ddylanwad LSD, i gyd achosi damweiniau difrifol neu farwol. Mae ymddygiad afresymol yn gyffredin dan ddylanwad y cyffur a gall rhywun redeg i ffordd brysur neu geisio hedfan etc. Hefyd bydd gwyrdroad dealltwriaeth am amser, pellter a rhithweledigaethau eraill tanbaid oherwydd LSD yn gwneud gyrru cerbyd yn beth gwallgof - ond eto, fyddai rhywun sy'n defnyddio LSD ddim yn gwerthfawrogi'r peryglon.

 
Iechyd Meddwl
Gall defnyddio LSD drosodd a throsodd achosi iselder a phryder am gyfnod maith. Gall y cyffur amlygu problemau meddyliol neu emosiynol dwfn nad oedd rhywun yn ymwybodol ohonyn nhw cynt.

Bydd pobl sy'n defnyddio LSD yn drwm weithiau'n datblygu arwyddion niwed organig i'r ymennydd, methu cofio a thalu sylw, cymysgwch meddyliol ac anhawster meddwl yn ddiriaethol. Does neb yn gwybod eto a yw newidiadau meddyliol felly yn rhai parhaol neu'n diflannu wedi peidio cymryd LSD.

Gall 'flashbacks' ddigwydd, lle bydd person yn profi effeithiau LSD am ychydig heb gymryd y cyffur. Gall rheiny ddigwydd hyd at ddwy flynedd wedi'r tro olaf cymryd LSD, a gall hyn beri dychryn.

Bydd nifer bychan sy'n defnyddio LSD yn mynd yn seicolegol-ddibynnol arno ac yn gorfod ei gymryd.

Canlyniadau cyfreithiol

Cyffur Dosbarth A yw LSD o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. Mae'n anghyfreithlon ei gynhyrchu, ei gyflenwi, na bod yn ei feddiant. Trosedd gyflenwi - yn ôl y gyfraith - yw rhoi dogn sengl i berson arall.