| Methadone |
|
| Beth yw methadone? |
| Defnydd meddygol |
Mae methadon yn dynwared llawer o effeithiau cyffuriau cwsg, rhai fel heroin. Bwriad rhaglenni cynnal pobl ar methadone yw lleihau'r risg sy'n gysylltiedig â chaethiwed i heroin a'i ffynnonellau anghyfreithlon. Credir bod y risgiau hyn - gor-ddogni ar heroin, heintiad HIV neu hepatitis yn dilyn rhannu chwistrelli, a throseddu er mwyn cyllido defnydd anghyfreithlon - yn lleihau os bydd pobl sy'n gaeth i heroin yn derbyn cyflenwad dyddiol methadone yn lle'r heroin anghyfreithlon. Credir hefyd wrth roi cyflenwad rheolaidd o gyffur ar bresgripsiwn, y bydd pwy bynnag sy'n ei dderbyn yn arwain bywyd mwy sefydlog heb ddioddef y symtomau ymatal rhag heroin.
Bydd effeithiau methadone yn para llawer hwy na rhai heroin neu morffin, weithiau hyd at 24 awr, sy'n galluogi rhywun i gymryd methadone unwaith y dydd yn unig yn y rhaglen gynhaliaeth heb brofi symtomau ymatal.
Cwestiynwyd effeithlonrwydd rhaglenni cynhaliaeth methadone yn y blynyddoedd diwethaf ac mae'r arfer yn dal yn un ddadleuol. Mae materion canolog ddadl hon i'w gweld isod yn y dudalen hon.
Gall methadone gael ei ddefnyddio am gyfnod byr er mwyn helpu'r bobl sy'n gaeth i gyffuriau cwsg fynd drwy'r trawma corfforol a seicolegol wrth ymatal rhagddyn nhw, mewn rhaglen ddadwenwyno.
| Pa effaith sydd ganddo? |
Er bod methadon yn cynhyrchu ymdeimlad cymedrol o esmwythyd ac ymwared â stres, tebyg i effaith heroin, dyw hyn ddim yn golygu bod methadone yn gyffur gwannach nac amgenach. Er mwyn iddo weithio'n effeithiol, rhaid i methadone fod mor bwerus â heroin, a dwedodd sawl person a'i profodd fod ymatal rhagddo yn waeth.
| Camddefnyddio methadone |
Problem ddifrifol gyda methadone ar bresgripsiwn yn y gorffennol oedd bod y sawl a oedd yn gaeth i heroin yn cael digon o methadone weithiau i bara am wythnos - neu fis hyd yn oed. O ganlyniad, roedd pobl a oedd yn gaeth iddo yn ei werthu ar y farchnad anghyfreithlon. Cafwyd bod plant ysgol yn ei feddiant a bu farw amryw ohonyn nhw. Arfer mwy cyffredin heddiw yw gofyn i bobl sy'n gaeth ac ar raglen gynhaliaeth i gasglu eu presgripsiwn o glinic neu fferyllfa yn ddyddiol - ac i'w lyncu yng ngwydd rhywun. Gwneir hyn er mwyn ei arbed rhag mynd i'r farchnad anghyfreithlon.
Yn 1996, bu fwy na dwywaith cymaint o bobl farw ym Mhrydain am resymau yn ymwneud â methadone nag a fu farw oherwydd heroin. Mae hyn yn ei gwneud yn amheus a yw rhaglenni cynhaliaeth methadone yn ddefnyddiol, ac mae'n dangos bod perygl wrth ei gamddefnyddio.
| Canlyniadau defnyddio a chamddefnyddio methadone |
Bydd cymryd methadone ychwanegol i'r ddogn â argymhellir neu ei gymysgu gyda thawelyddion eraill, temazepam, alcohol neu hyd yn oed heroin, yn beth peryglus iawn. Gall hyn - ac y mae - yn gyffredin yn achosi gor-ddogni a marwolaeth.
Bydd symtomau ymatal yn digwydd pan rwystrir y ddogn methadone arferol. Er bod rhain yn datblygu'n arafach a'u bod yn llai difrifol nag wrth ymatal rhag morffin a heroin, maen nhw'n para mwy ac yn fwy annymunol.
Dibyniaeth
Wrth ddod i oddef methadon - lle bo'n rhaid cymryd mwy a mwy o'r cyffur er mwyn cyflawni'r un effaith - gall dibyniaeth corfforol/seicolegol ddigwydd. Mae tystiolaeth ambell un yn tueddu awgrymu bod methadon cynddrwg â heroin am gaethiwo, er nad yw'r teimlad deniadol wrth chwistrelli'r 'fix' (rhan fawr o'r caethiwed seicolegol) yn bresennol.
Pen-dedfryd meddiant anghyfreithlon methadon yw 7 mlynedd o garchar a dirwy heb gyfyngiad arni. Pen-dedfryd cyflenwi methadone (gan gynnwys ei rannu gyda ffrind) yw carchar am oes a dirwy heb gyfyngiad arni.
| Rhaglenni cynhaliaeth gyda methadone |
Y feddylfryd y tu ôl i gynhaliaeth gyda methadone yw, gan fod cleifion yn derbyn methadon, fyddan nhw'n tueddu peidio chwilio am na phrynu cyffuriau anghyfreithlon ar y stryd, nag yn troseddu er mwyn cyllido defnydd anghyfreithlon. Hefyd, mae'n rhwystro'r peryglon iechyd sydd wrth chwistrellu cyffuriau anghyfreithlon.
Yn aml, enwir y dull hwn o ddelio â chaethiwed i heroin yn 'lleihau niwed' neu 'minimeiddio niwed' am mai ei brif nod yw nid annog pobl sy'n gaeth i beidio â defnyddio cyffuriau ond, yn syml, ceisio lleihau'r niwed y gall y defnydd ei wneud i bobl sy'n gaeth ac i gymdeithas.
Dangoswyd bod y tebygrwydd bod rhaglenni cynhaliaeth methadone yn helpu pobl sy'n gaeth i heroin i ymwrthod â phob cyffur - neu o leiaf i gael bywyd mwy sefydlog - yn gwella os bydd help o fath arall, e.e. cwnsela, cynghori a chefnogaeth, hefyd yn cael eu derbyn.
Yn ystod y driniaeth yn erbyn caethiwed, tra bo'n rhaid cael methadon ar bresgripsiwn am gyfnod byr er mwyn gwrthweithio symtomau ymatal rhag heroin, gall ehangu ei ddefnydd olygu cynnydd yn nifer y bobl sy'n ddibynnol ar gemegau.
Mae camddefnyddio rhaglenni cynhaliaeth gyda methadon yn gyffredin, yn enwedig wrth roi cyflenwad y cyffur yn wythnosol yn hytrach nag yn ddyddiol. Gwelir methadone a gafwyd ar bresgripsiwn yn aml ar y farchnad anghyfreithlon ac yn ddiweddar bu'n fwy o reswm dros gynnydd yn nifer y marwolaethau oherwydd gor-ddogni, na heroin. Fel y dywedwyd eisoes, dywedodd aml i berson a fu'n gaeth, ei bod yn fwy anodd yn gorfforol ymatal rhag defnyddio methadone nag yw ymatal rhag defnyddio heroin.
| Ein profiad ni - bobl a fu'n gaeth i gyffuriau ac sydd wedi cwnsela pobl sy'n gaeth i gyffuriau - bod methadone llawn mor beryglus a niweidiol â heroin. Tra bo cynhaliaeth gyda methadon yn un ffordd rad o drin pobl sy'n gaeth i gyffuriau cwsg (ac efallai mai dyma'i brif atyniad), ychydig os nad dim ysgogiad y mae'n ei gynnig i rywun beidio cymryd cyffuriau. |