Madarch 'Hud' Psilocybe
 
Beth yw madarch 'hud'?
Mae llawer math o ffwng ag effeithiau seicedelig iddyn nhw ac mae tua dwsin o fathau yn tyfu'n wyllt ym Mhyrdain. Y mwyaf cyffredin yw'r 'Liberty Cap' - Psilocibe semlanceata - (gweler y llun uchod), a rhain sy'n cael eu galw'n 'fadarch hud'.

Ond y 'madarch hud' gwreiddiol oedd math arall - mwy anghyffredin ym Mhrydain - y ffwng rhithbair 'Fly Agaric' (Amanita muscaria). Mae'n hawdd ei adnabod, caws llyffant coch â smotiau gwynion arno, y math ciwt yn y cartwnau o stori 'Alice in Wonderland'.

 
Defnydd meddygol
Does dim defnydd i'r madarch mewn meddygaeth fodern, er i wahanol fathau gael eu defnyddio yn y gorffennol ac at bwrpasau seremonïol/ysbrydol mewn diwylliannau ledled y byd ers miloedd o flynyddoedd.

 
Defnyddio/camddefnyddio madarch
Bydd y madarch math psilocybe yn tyfu wedi'r glaw ar ddiwedd yr haf neu ddechrau'r hydref ym Mhrydain. Fe'u gwelir ar ddom lle bu gwartheg yn pori - felly pwy a wyr beth yw eu gwerth 'hudol'?
Mae'r Fly Agaric yn tyfu mewn coedwigoedd neu gerllaw iddyn nhw.
Madarch psilocybe wedi'u sychu
Madarch psilocybe wedi'u sychu

Bydd rhai sy'n dewis bwyta madarch yn eu bwyta'n ffres - ar unwaith wedi eu pigo - neu'n eu cadw gan eu sychu wedyn. Bydd rhai yn gwneud 'te' ohonyn nhw neu eu defnyddio wrth goginio.

Byddai madarch yn boblogaidd yn gyffur cwsg yn niwylliant 'hippie' y 1960au hwyr a'r 1970au. Dydyn nhw ddim mor boblogaidd erbyn hyn, efallai am fod iddyn nhw uchelfan 'naturiol' ac nad oes raid talu amdanyn nhw.

 
Sut maen nhw'n gweithio?
Prif gynhwysion gweithredol madarch Psilcybe yw psilocybin a psilocin - ac i raddau llai, baeocystin a norbaeocystin. Mae'r cemegau hyn yn debyg iawn i'r niwrodrosglwyddydd serotonin ac mae effaith rhithbeiriol madarch yn dod wrth darfu ar weithrediad arferol serotonin yn yr ymennydd.
Mae'n debyg bod LSD (wedi'i syntheseiddio o ergot - ffwng sy'n tyfu ar rawn) yn gweithio mewn modd tebyg.

Mae Fly Agaric yn cynnwys mycoatropine a muscarine, a'r ddau sylwedd llai gwenwynig muscimol ac asid ibotenig. Cemegau gwir echrydus yw rhain sy'n tarfu ar yr ymennydd ac yn achosi rhithweledigaethau. Maen nhw'n achosi i bobl chwysu hefyd ac mae'n bosibl i deliriwm a coma ddilyn.

 
Beth yw eu heffeithiau?
 
Psilocybe
Mae effeithiau madarch Psilocybe yn debyg i 'trip' wedi cymryd LSD, ond bod yr effaith yn llai, h.y. maen nhw'n newid dealltwriaeth wrth weld, clywed etc ac yn newid teimladau a meddyliau rhywun. Mae'r effaith i'w deimlo ymhen 30-45 munud, yn mynd i uchelfan wedi rhyw deirawr, ac yn para rhwng 4 a 5 awr i gyd.

Gyda dognau isel, bydd ewfforia, teimladau da a theimladau ymddatod yn digwydd, ynghyd â rhywfaint o wyrdroi dealltwriaeth. Mae'r ymddatod llai nag a deimlir wedi cymryd LSD ac felly mae llai o berygl cael 'trip gwael' gan fod rhywun yn gallu rheoli proses ei m/feddyliau i raddau. Ond eto, mae effaith madarch math psilocybe yn un anodd ei ragweld, ac mae'n dibynnu ar yr amgylchiadau a stad feddyliol ac emosiynol rhywun.

Gyda dognau uchel, gall gwyrdroadau gweledol a rhithweledigaethau llachar ddigwydd.

Bydd mwyafrif madarch sy'n cynnwys psilocybin yn achosi peth nausea a symtomau corfforol eraill cyn i'r effeithiau meddyliol ddigwydd.

Fly Agaric
Mae'r sylwedd rhithbeiriol sydd yn y ffwng hwn yn fwy gwenwynig na'r math psilocybe ac mae'r teimlad o ganlyniad yn fwy dwys. Wedi bwyta'r madarch, bydd pobl yn taflu i fynu yn aml ac yn dioddef cur pen am ychydig. Bydd curiad y galon yn cyflymu a channwyll y llygaid yn lledaenu.

Mae effeithiau ymenyddol yn debyg i feddwi'n chwil ulw, gydag ychwanegiad cymhleth y rhithweledigaethau llachar. Mae ymddygiad bizarre yn gyffredin, yn amrywio o siarad yn ddi-stop neu weiddi i fod yn gwbl anymwybodol o'r sefyllfa.
Mae parhad y profiad rhithbeiriol yn dibynnu ar faint o fadarch gafodd eu bwyta a gall amrywio rhwng 7-8 awr i ddau ddiwrnod. Bydd y person wedyn yn syrthio i drwmgwsg fel arfer ac wrth ddeffro, yn cofio dim am yr ymddygiad pan oedd yn yr 'uchelfan'.


Lledrith yr 'hud'
Does dim 'hud' yn perthyn i 'fadarch hud'! Yn wir, mae eu heffeithiau ofnadwy yn ddychrynllyd - ddim bob amser yn fyr - ac oherwydd ymyrraeth gemegol yn system nerfol y corff.

 
Canlyniadau defnyddio madarch
Mae'r syniad - am fod ffwng yn bethau byw - eu bod yn gallu creu 'uchelfan naturiol' yn syniad gwallgo'. Cemegau peryglus yw'r sylweddau gweithredol yn y madarch hyn. Sylwedd naturiol yw opiwm - ond mae'n denu caethiwed enbyd iddo. Sylwedd naturiol yw belladonna (mochlys duon/deadly nightshade) - ond gall ladd.

Dyw naturiol ddim yn gyfwerth â diniwed.

Perygl i iechyd corfforol

Psilocybe
Dyw madarch math psilocybe ddim yn wenwynig yn yr ystyr eu bod yn lladd ac ni wyr neb faint yw dogn ddeifiol. Ond bydd rhai yn ymateb iddyn nhw drwy chwydu, dioddef nausea a phoen stumog. Ni chafodd niwed iechyd hirdymor ei adrodd, er bod rhaid nodi na fu ymchwil i asesu effeithiau defnyddio madarch yn aml.

Prif berygl iechyd o fwyta madarch Psilocybe yw eu cam-adnabod - casglu a bwyta mathau gwenwynig yn lle'r rhai sy'n cynnwys y deunyddiau rhithbeiriol a ddymunir. Gall rhai o'r madarch eraill hyn achosi marwolaeth neu niwed parhaol i'r afu o fewn oriau wedi eu cymryd. Gall gwahaniaethu rhwng madarch rhithbeiriol a madarch gwenwynig fod yn anodd iawn ac weithiau bron yn amhosibl.

Gall peryglon i'w diogelwch corfforol ddilyn ymddygiad rhywun tra tan ddylanwad psilocybin. Gall hyn gynnwys ymddygiad anghyfrifol a allai arwain at ddamwain neu niwed

Fly Agaric
Mae Fly Agaric yn wenwynig ac yn rhithbeiriol. Ei wenwyn yn bennaf yw'r cynhwysyn mycoatropine sy'n achosi anhwylderau yng ngweithrediad yr ymennydd. Mae'r cynhwysyn muscarine, er yn fychan ynddo, yn wenwynig hefyd. Gall niwed corfforol parhaus a hyd yn oed farwolaeth ddigwydd yn dilyn eu bwyta.

Cymedrol wenwynig yw Fly Agaric ei hun, ond dylid cofio bod mai'r math/genus Amanita sy'n achosi 95% o'r marwolaethau yn dilyn gwenwyniadau gan fadarch. Perthnasau agosaf Fly Agaric yw Amanita virosa (Angel Distryw) ac Amanita phalloides (Death Cap/Capan y Meirw) - mae'r enwau yn dweud y cyfan.

Felly, bydd bwyta Fly Agaric yn gallu bod yn beryglus iawn i ddiogelwch corfforol rhywun, am fod cymaint yn dibynnu ar adnabod y ffwng yn iawn. Os bydd rhywun yn casglu madarch i'w bwyta er mwyn eu helfennau rhithbeiriol, efallai mai'r camgymeriad cyntaf fydd y camgymeriad olaf. Adroddir bod marwolaeth drwy wenwyn yr Amanita yn farwolaeth echrydus. Gwaeth fyth yw nad yw'r symtomau'n cychwyn hyd 2-3 diwrnod wedi bwyta'r madarch - ac erbyn hynny mae'n rhy hwyr.

Eu goddef a dibynnu arnyn nhw

Un union fel LSD, mae dod i oddef y sylweddau gweithredol mewn madarch rhithbeiriol yn datblygu'n gyflym. Ddiwrnod wedi'r 'trip' madarch cyntaf, gall gymryd dwywaith y ddogn wreiddiol i gynhyrchu'r un effaith.

Does dim symtomau sylweddol wrth ymatal rhag madarch rhithbeiriol ac ni fydd dibyniaeth corfforol yn digwydd. Gall fod y dymuniad yn gryf i'w hail-brofi, sy'n awgrymu bod rhywfaint o ddibyniaeth seicolegol yn gallu dilyn.

Canlyniadau cyfreithiol

Dyw bod ym meddiant madarch rhithbeiriol yn eu ffurf naturiol ddim yng anghyfreithlon ym Mhrydain. Ond os paratoir nhw mewn unrhyw ffordd, h.y. eu sychu, eu malu, eu coginio neu wneud te ohonyn nhw, yna maen nhw'n cael eu hystyried yn gyffuriau Dosbarth A. Mae'r dirwyon am feddu neu gyflenwi cyffur Dosbarth A yn rhai difrifol.