Steroidau
Anabolig
Steroidau
 
 
Beth yw Steroidau Anabolig?
Steroidau yw cyffuriau yn tarddu o hormonau. Steroidau anabolig yw un grwp ymhith amryw o'r cyffuriau hyn.

Mae steroidau anabolig - neu yn fwy manwl, steroidau anabolig/androgenig - yn perthyn i grwp y rhai ergogenig, neu'r cyffuriau i 'wella perfformiad' tybiedig. Maen nhw'n tarddu'n synthetig o testosterone, yr hormon gwryw naturiol. Ystyr 'anabolig' yw tyfu neu adeiladu. Ystyr 'androgenig' yw gwrywdod neu'n ddangos elfennau rhywiol gwrywaidd.

 
Defnydd meddygol
Defnyddir steroidau anabolig mewn meintiau bychain gan ffisegwyr i drin rhai mathau o anaemia, thrombosis, rhai mathau o gancr y fron, osteoporosis, endometriosis ac angioedaema, math o afiechyd sy'n achosi i rai rhannau o'r corff chwyddo.

 
Sut maen nhw'n gweithio?
Dylunir steroidau anabolig i ddynwared dylanwadau testosterone i gryfhau-corff - drwy gynyddu cynhyrchiad protin yn y celloedd - tra'n gostwng ei elfen adrogenaidd. Mae nifer o wahanol fathau, a chyfuniadau amrywiol o elfennau anabolig ac androgenaidd.
Mae'r cyffuriau hyn hefyd fel petaen nhw'n cynyddu swm y gwaed ei hun yn y corff a swm y siwgr yn y gwaed (glycogen), ac yn rhwystro'r broses naturiol, sef pan nad oes angen celloedd-cyhyrau maen nhw'n cael eu gwaredu.

 
Camddefnydd steroidau anabolig
Mae camddefnyddio steroidau anabolig gan isafswm bychan o athletwyr yn rhywbeth gweddol newydd. Datblygwyd y steroidau hyn yn gyntaf yn 1958 ac er i bobl sylweddoli'n fuan bod sgil-effeithiau annymunol iddyn nhw, roedd yn rhy hwyr i rwystro'u gwasgariad i'r byd chwaraeon.

Pobl oedd yn eu defnyddio i gychwyn oedd rhai yn adeiladu-corff, codwyr pwysau, taflwyr discus, shot neu waywffon - pawb oedd yn cystadlu drwy ddibynnu'n drwm ar bwysau a maint y corff. Yn ystod y 1970au cynyddodd y galw am fod athletwyr mewn chwaraeon eraill yn ceisio bod yn fwy cystadleuol a bod dylanwad steroidau anabolig yn ymddangos fel petae'n nhw'n gallu helpu hyn.

Nid dynion yn unig oedd yn camddefnyddio steroidau anabolig. Byddai athletwyr benywaidd proffesiynol ac amatur, cystadlewyr trac a maes, nofwyr ac adeiladwyr-corff yn eu camddefnyddio hefyd.

Erbyn yr 1980au, pan sylweddolodd rhywrai nad oedd yn athletwyr, y gallai'r cyffuriau wella'u cyrff, cychwynnodd marchnad ddu lewyrchu i'w cynhyrchu a'u gwerthu.

Nid athletwyr yn unig sy'n debyg o ddefnyddio steroidau anabolig. Gallai dyn ifanc 18 oed a oedd yn casau ei gorff tenau wneud hynny, neu rywun 15 oed mewn ymgais i gyrraedd ei lawn dwf, neu rywun oedd angen mwy o nerth braich wrth ei waith.
Mae nifer cynyddol o bobl yn eu harddegau yn troi at steroidau am resymau cosmetig.


Mewn tabledi y bydd steroidau anabolig yn cael eu llyncu fel arfer. Bydd y steroidau na fydd yn weithredol wrth eu cymryd felly yn cael eu chwistrellu. Dogn ddyddiol arferol i bwrpas meddygol ar gyfartaledd yw rhwng 1 a 5 ml. Bydd rhai athletwyr yn cymryd hyd at gannoedd ml yn ddyddiol, llawer mwy nag a argymhellir yn feddygol.

Hyd yn ddiweddar, roedd mwyafrif steroidau anabolig a gamddefnyddid yn cael eu gweithgynhrychu yn gyfreithiol ond yn lliifo i'r farchnad ddu drwy gael eu dwyn a'u cael trwy dwyll ar bresgripsiwn.

Erbyn hyn mae steroidau anabolig o dramor naill ai'n cael eu smyglo i Brydain neu'n cael eu cynhyrchu mewn labordai anghyfreithlon yma. Mae'r twyll-gyffuriau hyn yn fwy peryglus achos does dim rheolaeth ar eu cynhyrchu ac felly gallan nhw fod yn amhur, wedi'u cam-labelu neu'n rhai twyll.

Gwerthir steroidau anabolig mewn canolfannau hamdden, clybiau ymarfer corff etc neu drwy'r post o dramor. Gall eu cyflenwyr fod yn delio mewn cyffuriau eraill neu yn hyfforddwyr, yn feddygon, yn fferyllwyr neu'n ffrindiau iddyn nhw.

 
Beth yw effeithiau steroidau?
Bydd athletwyr a ddefnyddiodd steroidau anabolig yn adrodd am gynnydd sylweddol ym maint eu cyhyrau, eu cryfder a'u dyfalbarhad, ond ni chafwyd astudiaethau i ddangos bod y cyffuriau hyn yn gwella perfformiad.

 
Canlyniadau defnyddio steroidau

Dynion

Bydd dynion sy'n cymryd dognau uchel steroidau anabolig fel arfer yn profi newidiadau rhywiol. Er eu bod yn tarddu o'r hormon gwrywaidd, gall y cyffur achosi i'r corff beidio cynhyrchu'r system genhedlu gwrywaidd. Rhai sgîl-effeithiau posibl yw:

Menywod

Gall menywod fynd yn fwy 'gwrywaidd' a gall fod problemau eraill e.e.

Dynion a menywod

I ddynion a menywod, gall dal i gymryd steroidau anabolig arwain at afiechydon, rhai sy'n boen a rhai sy'n bygwth bywyd. Dyma rai ohonyn nhw: Bydd llawer o athletwyr yn adrodd am eu 'teimladau da' wrth gymryd steroidau. Eto bydd amrywiaeth mawr yn yr hwyliau wrth stopio cymryd y cyffuriau, o fod yn dreisgar i iselder.

Caethiwed

Bydd pobl sy'n cymryd steroidau am amser hir yn profi llawer o symtomau clasurol caethiwed i gyffuriau: ysu amdanyn nhw, anhawster wrth beidio'u cymryd ac wrth ymwrthod â nhw.

Mae'n ymddangos bod pobl sy'n defnyddio steroidau anabolig yn datblygu caethiwed seicolegol os nad corfforol. Symtom clasurol hyn yw bod pobl yn tueddu peidio talu sylw neu'n diystyru peryglon corfforol a moesol wrth gymryd sylweddau anghyfreithlon.

Gall ymddygiad rhithweledigaethiol ddigwydd, tebyg i fod yn gaeth. Ni fydd rhai athletwyr sy'n adeiladu eu cyrff trwy gymorth steroidau anabolig yn sylwi ar y newidiadau i'w cyrff sy'n amlwg i eraill, gan ddioddef beth a elwir weithiau yn wrthwyneb i anorexia.

Canlyniadau cyfreithiol

Ar hyn o bryd ym Mhrydain, mae'n gyfreithlon bod ym meddiant steroidau anabolig. Ond mae'n drosedd yn y Ddeddf Camdrin Cyffuriau i gyflenwi steroidau anabolig i berson arall. Mae cyfraith Prydain ar hyn o bryd yn gosod dirwyon r'un fath â chyflenwi unrhyw sylwedd yn Nosbarth B.

Ers 1975 mae'r Pwyllgor Rhyngwladol Olympaidd wedi gwahardd steroidau rhag cael eu defnyddio gan athletwyr sy'n aelodau o'i fudiadau. Ers hynny, gosododd mudiadau athletau amatur a phroffesiynol y cyffuriau mwyaf eu maint steroidau ar eu rhestr o sylweddau gwaharddedig. Dyw'r gwaharddiadau ddim yn haeddu unrhyw ddirwyon cyfreithiol.