Ysgogyddion
Ysgogyddion yw cyffuriau sy'n ysgogi'r System Nerfol Ganolog. Dyma'r sylweddau sy'n tueddu helpu cadw pobl ar ddihun ac i weithredu'n gorfforol. Maen nhw'n cynnwys amffetaminau, cocaine, crac a rhai anadlyddion, amyl neu butyl nitrad.
Mae caffin (mewn te, coffi a diodydd ysgafn) hefyd yn gyffur ysgogiant cymedrol.
Pa ysgogyddion sy'n cael eu camdrin?
Yr ysgogyddion sy'n cael eu camdrin amlaf yw cocaine, crac (ffurf pur cocaine) ac amffetaminau.
Defnydd masnachol cyfyngedig sydd i cocaine ac mae ei werthiant a'i feddiant dan reolaeth dynn. Ond er hynny mae rhwydwaith anghyfreithlon fydeang sy'n ei weithgynhyrchu a'i gyflenwi yn ei amrywiol ffurfiau.
Rhoir amffetaminau fferyllfaol weithiau ar bresgripsiwn gan feddygon a gall rhain gael eu camdrin ond powdwr amffetamin, o labordai anghyfreithlon yw'r sylwedd a gamdrinir fwyaf cyffredin ym Mhrydain.
Mae'r anadlyddion, amyl neu butyl nitrad, yn gyfreithlon ar hyn o bryd. Oherwydd mai dim ond am amser byr maen nhw'n gweithredu, rhyw 1-2 funud - dim ond mewn ambell sefyllfa y byddan nhw'n cael eu camdrin, mewn partďon etc.
Sut maen nhw'n ymddangos?
Mae ysgogyddion i'w gweld mewn amryw ffurfiau. Mewn tabledi neu gapsiwlau y bydd amffetaminau o fferyllfa, ond gall amffetamin ar stryd fod ar ffurf powdwr mâl, gwyn di-liw. Gall anadlyddion fod ar bresgripsiwn neu ar werth mewn llestri gwydr bychain neu boteli, a rhaid eu malu i ryddhau'r hylif anweddol y tu mewn. Powdwr gweddol fân, gwyn, grisial yw cocaine. Grisialau gwyn afreolaidd eu maint gweddol fawr (maint pysen) yw crac.
Beth yw effeithiau ysgogyddion?
Mae ysgogyddion gwahanol yn gweithredu ar y corff mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, bydd anadlydd nitrad yn achosi i'r gwaedlestri ymestyn, bydd cocaine a crac yn ymyrryd â'r niwrodrosglwyddydd serotonin; bydd amffetaminau yn rhyddhau adrenalin. Ond, yn gyffredinol, effaith debyg sydd i'r holl ysgogyddion hyn, sef ysgogi rhywun yn feddyliol neu'n gorrfforol. Y teimlad fel petae yw cynyddu egni corfforol a'r meddwl fel petae'n cyflymu ac yn clirio.
Nodyn am caffin
Ysogydd cymedrol yw caffin gyda'r effaith bod rhywun yn fwy effro ac ymwybodol. Prif ffynnonellau caffin yw te, coffi a diodydd ysgafn, er y gellir ei brynu ar ffurf tabledi. Gall pob cwpanaid o goffi gynnwys rhwng 65 a 115mg caffin, te rhyw 60mg, a diod ysgafn rhwng 30 a 60mg.
Gall gormod o gaffin achosi pryder, cur pen, y 'jitters' a gall rwystro cwsg. Gall caffin hefyd ddenu caethiwed iddo, a gall rhywun fydd yn peidio'i yfed yn sydyn brofi symtomau ymwrthod rhagddo.
Cliciwch ar y dolenni hyn i gael gwybodaeth benodol am Amffetaminau, Cocain, Crac neu Anadlyddion.