| Tybaco |
|
| Beth yw tybaco? |
| Defnydd meddygol |
| Defnyddio tybaco |
Hyd at y blynyddoedd diweddaraf hyn, byddai gweithgynhyrchwyr tybaco yn hysbysebu cynhyrchion tybaco gan ganmol delwedd ysmygu, ei bod yn rhywbeth 'cwl' oedd yn annog pobl i brynu eu cynhyrchion. Byddai'r mwyafrif oedd yn ysmygu tybaco wedi cychwyn yn eu harddegau, am fod pobl ifanc yn cael eu harwain i gredu bod ysmygu yn rhywbeth y byddai 'oedolyn' yn ei wneud.
Erbyn hyn, tua thraean o boblogaeth Prydain dros 16 oed sy'n ysmygu sigarets. Mae nifer y bobl sy'n ysmygu wedi gostwng yn araf o'r 50% fyddai'n gwneud hynny'n gynharach yn yr 20fed ganrif. Credir bod un o bob pump o ddynion ac un o bob deg o fenywod heddiw yn ysmygu'n drwm (mwy nag 20 sigaret y dydd).
![]() Person ifanc yn ysmygu
|
Y ffaith fwyaf bryderus - gan ystyried canlyniadau iechyd wrth gymryd y cyffur hwn - yw bod 26 y cant o fechgyn 15 oed a 30 y cant o ferched 15 oed yn ysmygu'n rheolaidd ar hyn o bryd.
Mae 12 y cant o blant rhwng 11 a 15 oed yn ysmygu'n rheolaidd.
Yn y blynyddoedd diweddaraf, bu gweithredu gwleidyddol sylweddol yn annog peidio ysmygu tybaco. Yn 1998 pleidleisiodd llywodraeth Ewrop dros rwystro hysbysebion tybaco ledled yr Undeb Ewropeaidd. Bwriad hyn oedd gostwng y cymhelliad i bobl gychwyn - neu barhau - i ddefnyddio'r cyffur hwn.
Iwerddon oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i orfodi peidio ysmygu yn y gweithle, ym mis Mawrth 2004,. Roedd cyfraith Iwerddon yn gwneud ysmygu yn y gweithle yn drosedd, ac effaith hyn oedd ei rwystro mewn tafarndai a thai bwyta. Fis Mehefin 2004, gwnaeth Norwy yr un peth ag Iwerddon, gan wahardd ysmygu ledled y wlad.
Mae Prydain hefyd wedi cymeryd camau i wahardd ysmygu. Mae llwyodraeth genedlaethol Prydain wedi creu deddfau i wahardd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus. Prin y byddai llawer o fannau - sinemau a thrafnidiaeth cyhoeddus e.e. - yn ei ganiatau dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae'r deddfau newydd yn effeithio ar lefydd fel tafarndai, tai bwyta, clybiau nos a chlybiau aelodaeth breifat.
Daeth y gwaharddiad ysmygu mewn mannau cyhoeddus i rym ar wahanol ddyddiadau yng ngwahanol rannau o Brydain, yn Yr Alban fis Mawrth 2006, yng Nghymru fis Ebrill 2007 - ac yn olaf yn Lloegr fis Gorffennaf 2007.
| Beth yw effaith tybaco? |
Effeithiau corfforol nicotin yw cynyddu curiad y galon, ac felly codi pwysedd y gwaed, a gostwng yr archwaeth at fwyd. Mae ei effaith meddyliol yn ysgogi fel petae ac yn gwneud rhywun yn fwy effro.
Am fod nicotin yn sylwedd sy'n caethiwo rhywun iddo, bydd rhaid defnyddio'r un lefel ohono i'w gynnal yng nghylchrediad y gwaed, er mwyn osgoi symtomau ymatal. Pan fydd swm y nicotin yn y gwaed yn gostwng - ar ôl y mwgyn olaf - bydd rhywun sy'n ysmygu yn mynd i deimlo'n fwy anghysurus. Fydd hi ddim yn bosibl lleddfu'r symtomau ymatal ond drwy gymryd mwy o nicotin - cymryd mwgyn arall.
Ac felly ymlaen - y cylchdro caethiwo erchyll.
| Canlyniadau defnyddio tybaco |
Mae salwch o fathau gwahanol, cancr, wlser y stumog, emffysema a chlefyd y galon, i gyd yn ganlyniad ysmygu.
Mae'r tar sydd mewn mwg tybaco yn achosi cancr. Mae nifer o gemegau eraill mewn mwg tybaco hefyd a all achosi cancr. Bydd pobl sy'n ysmygu mewn mwy o berygl diodddef cancr yr ysgyfaint na phobl sydd ddim yn ysmygu.
Mae ysmygu yn achosi anadl fer, ac yn cyfrannu at lawer o anhwylderau'r system anadlu.
Ysmygu sy'n gyfrifol am fwyafrif marwolaethau oherwydd emffysema (lle bydd sachau-dal-yr-anadl yn yr ysgyfaint yn chwyddo). Dynion yn unig gai eu heffeithio ar un adeg, ond mae llawer o fenywod yn marw ohono erbyn hyn.
Ysmygu yw'r peth mwyaf peryglus all niweidio'r gwaedlestri. Mae'r gwythiennau sy'n cario gwaed i'r coesau, y breichiau a chyhyrau'r galon yn culhau, ac os bydd rhwystr yn digwydd ynddyn nhw, bydd y celloedd yn marw. Gall hyn niweidio'r cyhyrau, peri colli coes neu fraich, neu gael trawiad ar y galon.
Mae naw o bob deg sy'n ysmygu yn dweud eu bod am beidio ond yn cael anhawster gwneud hynny.
Mae pobl sy'n ysmygu ac wedyn yn peidio yn profi symtomau ymatal annymunol iawn, yn cynnwys teimladau rhwystredigaeth, dicter a phryder, yn methu canolbwyntio na sefyll yn llonydd.