Tawelyddion
Tawelyddion
 
Beth yw tawelyddion?
Tawelyddion yw cyffuriau synthetig â'r bwriad i dawelu pryder a helpu pobl i gysgu. Benzodiazepinau yw'r rhai mwyaf cyffredin ar bresgripsiwn, yn cynnwys yr enwog Valium a Temazepam.

 
Defnydd meddygol
Rhoir benzodiazepinau yn aml ar bresgripsiwn i drin pryder a diffyg cwsg. Fe'u defnyddir yn dawelyddion hefyd cyn llawdriniaeth a thriniaethau meddygol eraill ac i drin rhai anhwylderau wedi trawiadau ac wrth ymwrthod ag alcohol.

Am eu bod yn cael eu hystyried yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol, bydd benzodiazepinau yn cael eu defnyddio yn lle barbitwradau i drin pryder a diffyg cwsg.

Y benzodiazepin cyntaf a gynhyrchwyd oedd chlodiazepoxide, o dan yr enw cyffredin Librium. Diazepam (Valium) oedd y nesaf i gael ei ddatblygu, a hyd yr 1980au cynnar, dyma'r tawelydd mwyaf cyffredin yn y byd ar bresgripsiwn. Erbyn hyn, benzodiazepinau newydd, Lorazepam (Ativan) sy'n cael eu rhoi amlaf ar bresgripsiwn.

 
Defnydd a chamddefnydd tawelyddion
Benzodiazepinau yw'r cyffuriau sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn amlaf ym Mhrydain. Mae dwywaith nifer menywod yn ei gymryd na dynion, ac wedi amser hir, aeth llawer o gleifion yn ddibynnol arnynt.

Am eu bod yn hawdd eu cael, bydd tawelyddion yn cael eu camddefnyddio'n aml hefyd. Bydd rhai pobl sy'n camddefnyddio cyffuriau yn cymryd tawelyddion i'w gostwng i lawr wedi defnyddio'r ysgogyddion ecstasi neu cocaine. Bydd eraill yn eu cymryd i 'gynyddu' effaith alcohol. Bydd pobl sy'n gaeth i'w dewis gyffur - megis heroin - yn eu defnyddio yn lle hwnnw pan na fydd ar gael.

Ni fydd tawelyddion yn cael eu chwistrellu fel arfer ond aeth capsiwlau Temazepam, a elwir yn 'jellies' neu 'wyau' yn boblogaidd i'w chwistrellu yn yr 1980au hwyr a'r 1990au cynnar. Oherwydd hyn fe'u gwaharddwyd yn 1996, er eu bod ar gael o hyd ar ffurf tabledi.

 
Beth yw effeithiau tawelyddion?
Mae tawelyddion yn cael eu defnyddio i ostwng pryder ac i annog cwsg. Mae'r ddwy effaith hon gan rai, llonyddu ar ddogn isel tra'n hypnoteiddio ar ddogn uwch.

Bydd dogn geir ar bresgripsiwn yn achosi llonyddu cymedrol. Bydd dognau uwch yn gwneud rhywun yn gysglyd, yn ddiog, yn benysgafn ac yn methu cydlynu'r corff.
Gall unrhyw benzodiazepine ar ddogn digon uchel hypnoteiddio rhywun a'i d/danfon i gysgu. Gall yr effeithiau hypnotig barhau rhwng 3 a 6 awr ond mae hyn yn dibynnu ar y math o gyffur.

Wrth gymysgu tawelyddion gyda chyffuriau llonyddu eraill, mae'r effaith yn cynyddu. Er enghraifft, bydd pobl sy'n camddefnyddio cyffuriau yn aml yn cymryd tawelyddion gydag alcohol am eu bod yn cynyddu effaith y ddiod. Bydd cyfuniad o'r fath yn gallu achosi ymddygiad afresymol neu dreisiol ac mae'n gyffredin yn achos niwed neu farwolaeth.

 
Canlyniadau camddefnyddio tawelyddion

Canlyniadau iechyd

Yn gyffredin, bydd dogn isel tawelydd ar bresgripsiwn dros gyfnod byr yn annhebyg o achosi gwaeth perygl i iechyd na'r symtomau pryder a diffyg cwsg y bwriadwyd iddyn nhw eu lleddfu.

Gellir goddef tawelydd ar bresgripsiwn yn eithaf da ar y cyfan, ac mae'n eithaf diogel, felly anaml y bydd gor-ddogni ar y cyffuriau hyn. Ond gall gor-ddogni ddigwydd - naill ai'n ddamweiniol neu'n fwriadol. Er nad yw'n debyg y bydd marwolaeth yn dilyn gor-ddogni â thawelyddion yn unig, gall y cyffuriau hyn fod yn angeuol os defnyddir nhw gydag alcohol, heroin neu gyffuriau llonyddu eraill.

Bydd tawelyddion yn rhwystro gweithrediad yr ymennydd a bod ar effro ac yn rhwystr hefyd i yrru a sgiliau tebyg sydd angen canolbwyntio. Gall marwolaeth neu niwed ddigwydd yn hawdd wrth gymysgu tawelyddion a chyffuriau eraill heb sylweddoli'r peryglon. Er enghraiff, gall alcohol 'gynyddu' effaith tawelyddion ddwywaith neu deirgwaith. Byddai gyrru cerbyd yn beryglus eithriadol felly, hyd yn oed os yw'r dognau'n rhai isel iawn.

Gall tawelyddion weithiau ryddhau dicter rhywun drwy leihau ymatal yn y defnyddiwr/ddefnyddwraig. Gall hyn achosi ymddygiad treisgar neu afresymol a all beryglu bywyd neu niweidio'r person neu arall.

Dibyniaeth

Awgrymodd ymchwil bod dibyniaeth corfforol ar dawelyddion yn digwydd hyd yn oed gyda dogn feddygol ar bresgripsiwn, wrth i gorff y claf addasu i bresenoldeb y moddion. Dangosir hyn pan fydd claf yn sydyn yn peidio cymryd y tawelydd - yn arbennig ar ddogn uchel - pryd bydd symtomau ymatal yn digwydd. Gall rhain fod yn amhleserus a phara'n hir. Maen nhw'n cynnwys methu cysgu, chwysu, pryderu, diffyg archwaeth at fwyd, nausea ac weithiau ffitiau a chymysgwch meddyliol.

Mae perygl mynd yn gaeth i dawelyddion yn cynyddu wrth eu cymryd yn rheolaidd, mwy nag ychydig fisoedd, yn enwedig gyda dognau uwch nag arfer. Ond adroddwyd bod problemau wrth eu defnyddio am amserau byrrach hefyd.

Gall meddyg benderfynu gostwng dognau yn raddol dros gyfnod er mwyn i'r claf ymwrthod â'r tawelydd heb ddioddef symtomau ymatal yn ormodol. Gall hyn fod yn angenrheidiol lle bu claf yn eu cymryd am gyfnod hir.

Mae dibyniaeth seicolegol yn gyffredin os bydd pobl wedi eu defnyddio ar bresgripsiwn am amser hir. Gall pobl ofni byw heb y cyffur. Wedi peidio â'i gymryd, gall rhywun fynd yn gymysglyd, yn flin a phryderus a methu dilyn trefn arferol bywyd.

Lle bydd tawelyddion yn cael eu camdrin yn anghyfreithlon - h.y. gan bobl a brynodd y cyffur o'r farchnad anghyfreithlon - mae perygl dibyniaeth yn uchel am eu bod yn debyg o gymryd dogn llawer uwch na'r un gyffredin ar bresgripsiwn.

Canlyniadau cyfreithiol

Mae'r holl dawelyddion yn gyfreithlon i bobl â'u cafodd ar bresgripsiwn gan feddyg.

Cyffuriau Dosbarth C yw benzodiazepinau (e.e. Temazepam) yn Neddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971. Mae'n drosedd bod yn eu meddiant heblaw ar bresgripsiwn gan feddyg. Mae'n drosedd eu cyflenwi i arall. Os paratoir Temazepam yn anghyfreithlon yn barod i'w chwistrellu, yna bydd yn perthyn i Ddosbarth A yn Neddf 1971. Mae'r dirwyon am feddu a/neu gyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn uchel iawn.


 
Cliciwch yma i gael gwybodaeth ar ddibyniaeth gemegol, gan gynnwys dibyniaeth ar dawelyddion.