Bydd bron bawb ohonon ni wedi cymryd cemegyn sy'n newid-yr-hwyliau rywdro - h.y. beth y'n ni'n ei alw'n gyffur. Ry'n ni wedi yfed coffi neu de, neu ambell i lasiaid o win neu gwrw. Mae rhain yn ymarferion derbyniol o ran iechyd a chanlyniadau cymdeithasol.
Ond, bydd rhai ohonon ni wedi camdrin alcohol. Bydd rhai wedi smocio cannabis, wedi cymryd amffetaminau, ecstasi neu heroin. Mae hyn yn beryglus, ac eto ry'n ni'n dewis ei wneud. Pam?
Bydd pobl yn camdrin cyffuriau
am amryw resymau.
Dyma rai enghreifftiau:
I osgoi teimlo wedi 'laru,
I gydfynd gyda'n cyfoeswyr,
I gael mwy o hunan-hyder,
I berthyn i 'grwp' arbennig,
I anghofio problemau,
I ymlacio,
I deimlo'n dda.
Byddwch chi'n sylwi bod y rhesymau hyn i gyd ynghylch newid sut mae pobl yn teimlo. Sut mae osgoi bod wedi 'laru neu yn unig, sut mae teimlo'n gryf, yn rhan o grwp, wedi ymlacio, yn "dda" etc.
Bydd camdrin cyffuriau yn rhoi teimladau 'da', teimladau sydd fel arall ar goll o fywyd rhywun
Dyna pam mae pobl yn dewis camdrin cyffuriau - o leiaf i gychwyn.