Perygl yr hyn sy'n cael ei alw'n 'gamdrin cyffuriau ar adegau' yw fod ynddo risg y gall gynyddu - dros amser - yn arfer camdrin cyffuriau. Gall hyn fod yn gynsail dibyniaeth ar gyffuriau.

Sut gall hyn ddigwydd?

Os bydd rhywun yn camdrin cyffuriau er mwyn teimlo'n well neu er mwyn medru ymdopi â phroblemau, yna mae siawns go dda na fydd byth yn dysgu sgiliau hanfodol bywyd, sef teimlo'n dda yn naturiol, ymdopi â sefyllfaoedd anodd. Yn lle hynny, bydd bob amser yn dewis osgoi teimladau neu sefyllfaoedd anghysurus drwy feddwi neu fod yn 'stoned' etc.

Dyma enghraifft ddychmygol:

Mae bachgen ysgol yn methu arholiad. Mae'n teimlo'n wael ac yn smocio tipyn o gannabis i osgoi teimlo gwarth a siom. Mae'n dechrau gwneud hyn yn rheolaidd pan fydd yn teimlo'n ddigalon.
Mae'r bachgen yn tyfu'n hyn. Mae'n colli ei swydd. Mae'n ddig am hynny, ond dyw lefel cynt y camdriniaeth cyffuriau ddim yn lleddfu ei emosiynau. Mae'n cael tawelyddion gan ei feddyg - ac yn fuan yn dechrau eu camdrin. Dyma newyddbeth i leddfu ei boen emosiynol.
Mae'n mynd yn hyn eto. Mae aelod o'i deulu agos yn marw. Mae'n galaru. Dyw'r hen ffyrdd o ladd poen ddim yn ddigon. Mae angen mwy. Mae'n cychwyn meddwi bob dydd.

Gallwn osod alcohol neu ryw gyffuriau eraill yn y stori - ond yr un stori yw hi.

Dyw'r dyn ddim wedi dysgu unrhyw ffordd arall o ymdopi â theimladau anghysurus