
Felly, beth yw'r broblem wrth gamdrin cyffuriau - i ladd poen emosiynol neu beth bynnag?
Wel, mae cyffuriau yn debyg i rosynnau sy'n tyfu yn yr ardd. Mae nhw'n edrych yn ddeniadol ond -
Maen nhw'n pigo ! !
Dyma rai o'r pigiadau - neu'r peryglon - wrth gamdrin cyffuriau:

Perygl i ddiogelwch personol - perygl marwolaeth neu niwed drwy or-ddogni, damwain neu drais.
Niwed i iechyd - gan gynnwys niwed i'r ymennydd, methiant yr iau/afu, problemau iechyd meddwl.
Canlyniadau cyfreithiol - perygl mynd i garchar, cael dirwy al chofnod trosedd.
Ymddygiad dinistriol - all niweidio'r hunan, y teulu, cyfeillion.

Perygl arall - gwaeth fyth - wrth gamdrin cyffuriau yw:


COLLI RHEOLAETH


'Dyw hyn ddim yn digwydd i bawb. Bydd nifer yn yfed alcohol neu'n ysmygu cannabis ambell waith heb fod dan orfodaeth i yfed neu ysmygu mwy. Bydd rhai wedi trio heroin neu cocaine unwaith neu ddwy ac yn penderfynu peidio'u cymryd eto. Nhw yw'r rhai lwcus. Dy'n nhw ddim wedi colli rheolaeth.

Ond bydd llawer yn colli rheolaeth ar gamdrin cyffuriau. Mae'n nhw'n darganfod bod cyffuriau - fel rhosynnau - yn pigo. Ac yn gallu brifo . . . brifo'n arw.