Mae rhywun yn cymryd cyffur oherwydd chwilfrydedd, pwysedd cyfoedion, wedi 'laru - beth bynnag. |
Mae rhywun yn hoffi'r effaith - sy'n gwneud iddo/iddi deimlo'n hunan-hyderus, wedi ymlacio, yn bwerus. |
Felly mae rhywun yn ei gymryd eto - i geisio adennill yr un teimladau. |
Ac eto . . . ac eto . . . ac eto . . . |
Maen nhw'n mynd yn ddibynnol ar y cyffur erbyn hyn, naill ai'n gorfforol neu'n seicolegol.
Rhaid iddyn nhw ei gymryd cyn teimlo'n normal. Does dim dewis ganddyn nhw. |
Er mae'n debyg na allan nhw ddim cyfaddef hyn - hyd yn oed wrthyn nhw'u hunain.