Dy'n ni ddim yn sôn am ddibyniaeth ar heroin yn unig, nac am yr alcoholigion yn eistedd ar sedd yn y parc. Mae amrywiaeth eang o ddibyniaeth ar gyffuriau a gall effeithio ar unrhywun. Gall hyn fod yn:
Rhywun sy angen diod neu gyffur i deimlo'n hyderus wrth gymdeithasu gydag eraill.
Rhywun sy angen cymryd diod neu gyffur bob dydd i osgoi symtomau bod-hebddo/ynt.
Rhywun sy angen defnyddio diod neu gyffuriau er mwyn anghofio problemau personol.
Rhywun sy angen cymryd diod neu gyffur cyn medru ymdopi â stres bywyd bob dydd.
Dyw'r orfodaeth i yfed ddim yn wahanol i chwistrelliad heroin. Gall cryfder y chwant fod yn go debyg.