Bydd pobl aeth yn ddibynnol i ryw raddau, yn gorfforol neu'n seicolegol, ar eu dewis o gyffur/iau yn sylweddoli'n aml eu bod yn yfed neu'n defnyddio mwy nag arfer. Efallai wedyn byddan nhw'n gwneud rhyw ymdrech i leihau eu defnydd o'r cyffur.

Gall hyn olygu defnyddio llai bob tro, dim ond yfed neu gymryd cyffur/iau ar rai dyddiau, cyfnewid y cyffur (o wisgi i gwrw, o alcohol i gannabis, o heroin i fethadon) etc. Bydd yr ymdrechion i leihau yn digwydd ambell dro oherwydd newid yn eu bywyd, symud cartref, neu newid gwaith.

Mae'n gyffredin iawn i'r ymdrechion hyn fethu'n gyfangwbl yn y diwedd, er syndod dirfawr a siom i'r person ei hun. Fedran nhw ddim cymryd dogn llai o'r cyffur..

Nawr maen nhw'n wynebu'r ffaith bod eu camdriniaeth o gyffur/iau y tu hwnt i'w rheolaeth arno. Mae'n bwer dinistriol ynddo'i hunan. Bydd y person angen help gyda'r broblem hon.



Does neb yn gwybod pam mae rhai pobl yn mynd yn ddibynnol ar gyffuriau, tra bo eraill ddim yn mynd. Dyw'r peth ddim ynghlwm wrth rym yr ewyllys na gwendid moesol. Gall fod geneteg yn rheswm, a gall teulu rhywun neu'r gymdeithas o'i gwmpas chwarae rhan ynddo.
Ond dyw hi ddim yn bwysig gwybod pam - pwysicach fyth yw gwybod beth allwn ni wneud.