Gall rhywun sy'n ddibynnol ar gyffur neu alcohol beri anhrefn iddo/iddi ac i'w d/theulu.

Gall rhywun ymddwyn yn anghyfrifol - ac achosi problemau ariannol, anhawster yn y gwaith neu yn yr ysgol.
Gall rhywun golli ymddiriedaeth teulu a chyfeillion drwy eu twyllo a thorri addewidion.
Gall rhywun ddweud celwydd neu ddwyn er mwyn cadw i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol.
Gall rhywun deimlo gwarth ac euogrwydd oherwydd methu yn yr ymdrech i reoli eu harfer.

Ac eto, fel arfer, bydd rhywun yn tyngu bod dim byd o'i le ! !

GWADU yw symtom dibyniaeth cemegol. Fel hyn y mae'n gweithio:
Bydd rhywun yn hoffi camddefnyddio cyffuriau - oherwydd y teimladau da a ddaw yn ei sgîl neu i osgoi'r teimladau anghynnes wrth fod hebddo. Bydd rhywun am gadw i ddefnyddio'r cyffur.
Ond mae'r person yn gwybod bod y cyffur yn gwneud niwed iddyn nhw, i'w teulu ac i'w ffrindiau. Ac mae'r person yn caru ei deulu a'i ffrindiau.
Mae gwrthryfel yn yr is-ymwybod na all y person ei ddatrys. Yr unig ffordd i wneud hynny yw gwadu bod problem o gwbl - neu gwadu fod y broblem yn gwneud niwed i'r person neu i rywun arall.

Efallai bod y person yn wirioneddol gredu nad oes problem, achos bod y GWADU yn yr is-ymwybod.

Dibyniaeth cemegol yw'r salwch sy'n dweud wrth y dioddefydd bod dim byd o'i le!