
Mae llawer ry'ch chi wedi'i ddarllen yn y tudalennau diwethaf wedi disgrifo'r peryglon naill ai wrth gamdrin cyffuriau neu alcohol yn rheolaidd, neu wrth fynd yn ddibynnol arnyn nhw - h.y. datblygu rhyw fath o broblem gyda'r sylweddau hyn.
Efallai'ch bod chi'n meddwl eich bod chi'n nabod pobl sy'n meddwi nawr ac yn y man - neu'n ysmygu cannabis ar brydiau - a dyw hynny'n ddim yn broblem iddyn nhw.

Wel, byddwn ni'n rhybuddio unrhyw un sy'n credu bod camdrin cyffuriau ar adegau ddim yn beryglus, yn ein profiad ni, y gall camdrin cyffuriau a dibyniaeth ar gyffuriau waethygu.
Gall ddechrau'n ddi-ddrwg . . a mynd yn waeth . . ac yn waeth . . ac yn waeth . .
Mae'n hawdd iawn symud o gannabis i amffetaminau i heroin - neu o yfed unwaith yr wythnos i yfed unwaith y dydd i fod wedi meddwi o hyd - h.y. cymryd cyffuriau mwy pwerus neu fwy o swm rhyw gyffur. Cofiwch y gall ddatblygu'n araf - dros nifer o flynyddoedd.

Fyddech chi'n hoffi i 'rhywun sy'n defnyddio cyffur ar adegau' yrru'ch tacsi neu'ch trên? Edrych ar eich ôl mewn ysbyty? Gosod gwifrau trydan yn eich ty? Trwsio brêcs eich car? Gyrru ar y ffordd pan fo chi'n ei chroesi?
Does dim o'r fath beth â lefel ddiogel wrth gamdrin cyffuriau.