Er mwyn bod yn glir, camdrin cyffuriau fyddwn ni'n galw'r ddau beth hyn
Er bod hyn yn cynnwys defnyddio sylweddau anghyfreithlon, sef heroin, cannabis, cocaine, ecstasi, ayb, mae'n bwysig iawn cofio ei fod yn cynnwys cyffuriau ar bresgripsiwn, sef tawelyddion, moddion at gysgu etc. - ac alcohol.
Yn y tudalennau nesaf, byddwn ni'n edrych ar gamdrin cyffuriau a dibyniaeth ar gyffuriau.
Ystyr camdrin cyffuriau yw camdrin cyffuriau yn wirfoddol - h.y. pan fo pobl yn dewis gwneud hynny.
Ymhellach ymlaen y daw dibyniaeth, ac ystyr hynny yw camdrin cyffuriau yn orfodol - h.y. pan fo pobl yn cael eu gyrru i'w camdrin dan orfodaeth mewnol pwerus.
Mae pob adran yn un fyr iawn. Cliciwch ar rifau'r tudalennau uchod i symud drwyddyn nhw.