Os gallwch chi ddarllen hwn 'dyw'ch chwilotwr chi ddim yn cynnal fframiau. Gallwch symud o 'ma, ond bydd raid i chi ddefnyddio BOTWM NÔL y chwilotwr bob tro fyddwch chi'n clicio rhif tudalen, er mwyn gallu dod nôl fan hyn.
CAMDRIN CYFFURIAU
Yn gyntaf - gadewch i ni fod yn glir ar ystyr "camdrin cyffuriau".
Ry'n ni'n sôn am beth a wna pobl wrth defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn rheolaidd neu wrth gamdrin cyffuriau cyfreithlon yn rheolaidd- GAN GYNNWYS ALCOHOL
Er mwyn bod yn glir, camdrin cyffuriau fyddwn ni'n galw'r ddau beth hyn
Er bod hyn yn cynnwys defnyddio sylweddau anghyfreithlon, sef heroin, cannabis, cocaine, ecstasi, ayb, mae'n bwysig iawn cofio ei fod yn cynnwys cyffuriau ar bresgripsiwn, sef tawelyddion, moddion at gysgu etc. - ac alcohol.
Yn y tudalennau nesaf, byddwn ni'n edrych ar gamdrin cyffuriau a dibyniaeth ar gyffuriau.
Ystyr camdrin cyffuriau yw camdrin cyffuriau yn wirfoddol - h.y. pan fo pobl yn dewis gwneud hynny.
Ymhellach ymlaen y daw dibyniaeth, ac ystyr hynny yw camdrin cyffuriau yn orfodol - h.y. pan fo pobl yn cael eu gyrru i'w camdrin dan orfodaeth mewnol pwerus.
Mae pob adran yn un fyr iawn. Cliciwch ar rifau'r tudalennau uchod i symud drwyddyn nhw.