Mae yna sawl math o anhwylder bwyta. Y mwyaf enwog yw Anorexia Nervosa (a elwir yn fyr yn anorexia) a Bulimia. Ry'ch chi wedi clywed yr enwau hyn o'r blaen mae'n debyg.
Bydd rhai pobl yn bwyta llawer mwy nag sy'n iach ac yn mynd yn or-dew. Weithiau, mae ymddygiad o'r fath yn un gorfodol (compulsive). Anhwylder Gor-Fwyta Eithriadol neu Gor-Fwyta Gorfodol yw hyn.
Yn y tudalennau sy'n dilyn, byddwn yn edrych ar y tri math o anhwylder, i weld beth sy'n gyffredin rhyngddyn nhw a pha ddewisiadau sydd er mwyn cael adferiad. Mae hunan-brawf yn gynwysedig, felly gallwch chi'ch hunan benderfynu a oes ganddoch chi anhwylder bwyta.
Gall anhwylder bwyta ddigwydd pan fydd perthynas normal rhywun â'i fwyd yn mynd o chwith rywsut. Gadewch i ni edrych ar y mathau gwahanol yn eu tro - i weld beth allwn ni ddarganfod amdanyn nhw.