Mae'r adran hon yn disgrifio anorexia mewn dull o ddiddordeb i rywun sy'n dioddef anorexia, ac i bobl sy'n 'nabod rhywun sy'n dioddef ohono. Os ych chi'n credu efallai bod ganddoch CHI anorexia, bydd darllen y dudalen hon yn help i chi ei ddeall.
Ynghylch teimladau y mae Anorexia ac ynghylch ymddygiad yn perthyn i'r ofn o fynd yn 'dew' neu 'bwyso gormod'. Bydd gan berson gydag anorexia ddelwedd anghywir (distorted), am eu cyrff, byddan nhw ofn bwyd am y gall achosi tewdra, ac ofn dychrynllyd pwyso'n normal. Mae ymddygiad person gydag anorexia yn cynnwys bwyta'r ychydig lleia o fwyd, 'llosgi' calorïau drwy ymarfer corff, osgoi prydau bwyd, neu ei waredu (purge) i leihau cyfanswm y bwyd a dreuliwyd.
Mae'n bwysig deall nad colli archwaeth at fwyd yn unig y bydd rhywun sydd ag anorexia. Gallan nhw mewn gwirionedd fod bron â llwgu. Gallan nhw fod yn meddwl am fwyd drwy'r amser, ac am fod yn agos ato hyd yn oed. Ond, er teimlo bron â llwgu, bydd person sy'n dioddef anorexia yn aml yn ofni caniatau iddyn nhw'u hunain fwyta'n normal.
Mae'n aml yn anodd i rywun sy'n dioddef anorexia - ac eraill - ddeall, nad yw ymddygiad anorexig yn ymwneud â bwyd o gwbl. Wrth wraidd anorexia mae pryder dwfn nad yw bywyd dan reolaeth - a gall person droi at reoli bwyd a phwysau er mwyn ennill rhywfaint o reolaeth dros eu bywyd, a hynny drwy reoli bwyd a bwyta. Er bod bwyd yn fater pwysig, teimladau ag emosiynau sydd bwysicaf, gyda phob anhwylder bwyta.
Efallai byddwch chi'n gofyn pam mae mwy o ferched na dynion yn dioddef anorexia? Wel, gallwn feddwl am anorexia yn symtom o ddelwedd anghywir (distorted) o'r corff. Ystyr ein 'delwedd o'r corff' yw sut y gwelwn ni'n cyrff ein hunain; am y gall hyn fod yn go wahanol i sut y gwêl eraill ni. Yn aml mae'n delwedd ni o'n corff yn wahanol i'w wir faintioli a'i siâp. Yn gyffredinol, bydd menywod dan lawer iawn mwy o bwysau cymdeithasol na dynion i ystyried sut mae eu cyrff yn edrych. Felly, gall syniad menyw am ei chorff chwarae rhan fawr yn ei hystyriaeth ohoni ei hunan.
Mewn nifer o gymdeithasau modern, mae disgwyl i ferched delfrydol fod yn denau. Y farn yw bod 'tenau yn brydferth' - a bod 'prydferth' yn 'dda'. O ganlyniad, bydd menywod - yn enwedig merched ifanc - dan ddylanwad delweddau'r cyfryngau, yn defnyddio pwysau'r merched hynny i fesur eu hunan-werth a pha mor ddeniadol y'n nhw'u hunain. Yn gyffredinol, o achos methu cyrraedd y 'ddelwedd' hon, bydd merched yn teimlo'n dew ac yn annigonol. Gall ceisio, a methu, cwrdd â chanllawiau delfrydol ymddangosiad y corff dro ar ôl tro, arwain at broblemau corfforol, seicolegol a phroblemau ymddygiad. Gall hyn gynnwys gor-fwyta eithriadol (binge), obsesiwn ynghylch bwyd ac at anhwylderau bwyta megis anorexia.
Mae'n bwysig nodi nad bwriad y person gydag anorexia i gychwyn oedd llwgu. Efallai iddi deimlo y byddai ei bywyd yn gwella petae hi'n colli ambell i bwys - sydd efallai'n wir am dipyn. Ond gydag anorexia, ar ryw adeg yn y deiet, bydd newid seicolegol bychan yn digwydd - profiad gwahanol i'r mwyafrif sydd ar ddeiet - a bydd y ddeiet yn mynd yn fwy dwys wrth fynd yn ei blaen.
Bydd ymddygiad y ddeiet wedyn yn mynd yn beth preifat, cyfrinachol, a bydd y ferch yn ceisio argyhoeddi eraill ei bod hi'n bwyta, pan na fydd mewn gwirionedd. Daw ymddygiad twyllodrus wedyn, taflu bwyd i ffwrdd efallai, symud bwyd o'i phlât adeg prydau bwyd, neu esgus ei bod wedi bwyta yn rhywle arall.
Bydd rhywun sy'n datblygu anorexia yn aml yn datblygu defodau ynghylch bwyd. Ymhlith rhain mae bwyta tameidiau bychain o fwyd ar adegau penodol o'r dydd, bwyta crystyn y frechdan yn unig, torri bwyd yn ddarnau bychain a'u bwyta'n araf, araf. Un o brif ddefodau rheolaidd anorexia yw pwyso'n ddi-baid. Gall rhai wneud hynny nifer o weithiau bob dydd, gan ofni cynyddu'r un owns neu gram.
Wrth i'r anhwylder ddatblygu, bydd pobl gydag anorexia dan orfodaeth i ymarfer. Enghreifftiau o hyn yw ymarfer i'r eithaf, codi'n gynnar i wneud ymarfer corff neu redeg pum milltir. Bydd yn arbenigo ar faint o galoriau sy'n llosgi mewn awr o ymarfer.
Gyda datblygiad anorexia, bydd y dioddefydd yn ei hynysu ei hun. Gall ei hwyliau amrywio'n eithafol. Ni fydd ganddi/ddo fywyd cymdeithasol yn aml, oherwydd blinder, iselder ysbryd neu ofn sefyllfaoedd lle mae gorfodaeth i fwyta. Canolbwynt ei meddyliau a'i theimladau fydd bwyd a phwysau. Mae mewn sefyllfa lle na all ennill, y naill ffordd na'r llall. Pa mor denau bynnag y bydd - ni fydd byth yn ddigon - ac os yn methu colli pwysau, bydd yn teimlo ei bod hi'n ei ennill.
Wrth wadu'r anhwylder, bydd dioddefydd anorexia yn ei wadu iddi'i hunan. Dim ond iddi fedru ei reoli, does dim o'i le. Bydd yn osgoi triniaeth - i raddau eithafol - am iddi gredu mai cynllwyn yw hynny i'w gwneud yn 'dew'.
Mae'n bwysig deall mai yn yr is-ymwybod y mae'r gwadu. Nid dweud anwiredd yn fwriadol y bydd - mae hi'n gwir gredu nad oes problem ganddi. 'Dyw hi ddim yn gweld y broblem.
Effeithiau ffisegol anorexia ar y corff yw effeithiau llwgfa, sef methiant i wrthwynebu salwch, gwendid corfforol, sensitifrwydd i oerni a gwres a'r duedd i gleisio'n hawdd. Bydd dioddefwyr anorexia yn cael problemau treulio bwyd am fod y broses honno'n arafu, yn teimlo'n gwynt yn eu bol wedi bwyta, a'u coluddion yn rhwym. Bydd treuliad bwyd gwael yn gallu arwain at fethu goddef bwyta rhai bwydydd a bydd y stumog, yr wyneb, neu'r bigyrnau yn chwyddo.
Gall osteoporosis yr esgyrn ddilyn diffyg maeth yng nghamau cynnar anorexia. Gall yr organau cenhedlu dynion a merched fynd yn llai, a gall niwed ddigwydd i ran yr ymennydd sy'n cynhyrchu endocrinau.
Wrth golli pwysau, gall y person ddioddef iselder ysbryd, teimlo euogrwydd a dicter eithafol. Dyma'r cylch di-ddarfod. Bydd afresymu yn arwain at golli pwysau, a hynny'n llwgu'r ymennydd ac yn cynhyrchu gwaeth afresymu. Bydd y gallu i feddwl yn ddiriaethol, a methu canolbwyntio yn lleihau. Gall hyn ei gwneud yn anodd i berson ag anorexia ddarllen llyfr neu gynnal sgwrs. Os collir llawer iawn o bwysau, tuedd y person fydd ymddwyn yn blentynnaidd.
Yna, bydd rhieni'n dechrau sylwi bod y person yn colli pwysau'n ddramatig, yn sylwi ar ei defodau neu bod ei dull o fwyta wedi newid. Bydd y pryder i ddechrau yn troi'n ofn wrth i rieni'r plentyn sylweddoli ei bod fel petae hi'n benderfynol o ddistrywio'i hunan.
Bydd dadleuon yn datblygu yn y teulu - rhain i gyd yn canolbwyntio ar y person ag anorexia. Os mai hi fydd hi'n cael y sylw pennaf yn y teulu, gall hyn effeithio'n andwyol ar y berthynas rhwng yr aelodau eraill. Mae dioddefydd anorexia yn dda iawn am reoli a gorfodi ymddygiad aelodau eraill o'r teulu. Bydd yn torri addewidion neu'n dweud celwyddau wrthi'i hun ac wrth eraill am faint y mae, neu y bydd, yn ei fwyta. Bydd hyn yn peri mwy o ymrafael yn y teulu.
Bydd aelodau teuluoedd yn aml yn teimlo dicter, ofn, pryder a methiant, am na allan nhw reoli ymddygiad y person ag anorexia. Gall cythrwfl ddigwydd rhwng rhieni pan fyddan nhw'n cyhuddo'i gilydd ac yn anghytuno ar sut i ddelio ag ymddygiad afresymol eu plentyn. Bydd y plentyn ag anorexia fel arfer yn ddig wrth ymdrechion ei rhieni i'w helpu.