Yr ail fath o anhwyder bwyta yw Bulimia, gadewch i ni weld beth yw hwnnw.

Bulimia

Mae'r adran hon yn disgrifio bulimia mewn ffordd sy'n ystyrlon i bobl sy'n dioddef neu sydd ddim yn dioddef ohono. Os credwch eich bod CHI efallai yn dioddef bulimia, bydd darllen y dudalen hon yn help i chi ddeall yr anhwylder yn well.

Beth yw bulimia?

Cafodd bulimia nervosa ei gydnabod am y tro cyntaf gan feddygon yn 1979. Yn llythrennol, 'llwgu fel ych' yw ei ystyr. Nid rheswm corfforol sydd am y 'llwgu', ond mynegiant angen emosiynol neu ofid.
Fel arfer, bydd dioddefydd bulimia yn gor-fwyta'n eithriadol llwyth o fwyd i ddiwallu'r llwgu hwn. Yna, bydd yn gwaredu'r bwyd ar unwaith drwy chwydu neu gymryd moddion gweithio'r corff. Wedi gor-fwyta, gall wedyn fynd heb fwyd, fwyta llai, neu yn ymarfer yn ormodol, mewn ymdrech i beidio ennill pwysau.

Bydd dioddefydd bulimia yn teimlo'i bod wedi colli rheolaeth yn ystod y cyfnodau gor-fwyta eithriadol, ac yn gwneud hynny bron bob amser ar ei phen ei hun, am fod cywilydd arni am ei hymddygiad.

Bydd dioddefwyr bulimia yn gaeth i gylch, gor-fwyta'n eithriadol. yna gwaredu'r bwyd drwy chwydu neu gymryd moddion. Wedyn, teimlo cywilydd a hunan-gasineb, ac addo peidio gwneud hynny eto. Yna, mynd heb fwyd eto am gyfnod, yn barod am y gor-fwyta eithriadol nesa' - ac felly bydd y cylch yn mynd ei flaen.

Fel arfer, wrth or-fwyta'n eithriadol, dewis bwydydd sy'n tewhau fydd y dioddefydd - rhai gaiff eu 'gwahardd'. Bwydydd megis bisgedi, siocled, creision tatws, grawnfwyd brecwast, tost a menyn, sglodion tatws, teisenni, hufen ia, etc. Wrth ddal i'w bwyta nes i'r awch amdanyn nhw fynd heibio, bydd y tensiwn yn gostwng, a'r person yn teimlo wedi llenwi neu rhywun yn dod ar ei thraws (er iddi teimlo poen wrth wneud). Bydd ambell waith yn mwynhau'r bwyd, ond ei fwyta'n gyflym y bydd, heb ei flasu. Wedyn daw pryder, euogrwydd ac edifeirwch.

Sut mae'r peth yn dechrau?

Gyda mwyafrif dioddefwyr bulimia, mae gor-fwyta yn canlyn yn uniongyrchol bod ar ddeiet. Dangosodd astudiaethau bod pobl, ar ôl bod ar ddeiet, yn dew neu'n denau, yn methu stopio bwyta er yn llawn, a'u bod yn datblygu hoffter o fwydydd melys a seimllyd - yr union fwydydd y bydd rhywun sy'n pryderu am ei gorff yn awyddus i'w hosgoi.

Felly, i fwyafrif dioddefwyr bulimia, gor-fwyta yw colli rheolaeth. Teimlir hyn yn waeth gan bobl a lwyddodd gyda deiet yn y gorffennol neu a fu'n dioddef anorexia ar un adeg - pobl oedd yn teimlo'u bod yn gallu rheoli bwyd. Siom i lawer yw colli rheolaeth, ac felly byddan nhw'n chwydu wedi gor-fwyta'n eithriadol. Weithiau, byddan nhw'n chwydu am iddyn nhw glywed am hynny yn y cyfryngau. Gall leihau'r euogrwydd wedi'r gor-fwyta - gall ddelio â'r person cyfrinachol awchus y tu mewn, heb ei dangos ar y tu allan.

I ddechrau, ar ddamwain y bydd rhywun yn chwydu ar ôl gor-fwyta eithriadol, ond yn ddiweddarach, bydd yn digwydd yn amlach. Caiff rhywun fwyta nes bron byrstio - heb ennill pwysau. Yn y diwedd, bydd yr ymddygiad yn cael ei gynllunio ymlaen llaw, neu daw'n rhan o fywyd bob dydd, gydag amserau penodol ar gyfer y ddefod bwyta a chwydu.

Bydd gor-fwyta eithriadol bulimia yn rhyddhau tensiwn i ddechrau. Bydd y pwysedd ar rywun yn lleihau wrth fwyta - a daw hyn yn arferiad anodd ei dorri. Am fod chwydu wedi'r gor-fwyta eithriadol yn lleihau pryder hefyd, yn nes ymlaen, bydd dioddefydd bulimia yn teimo'r awydd i chwydu pan yn flinedig, yn ddig, neu wedi ypsetio. Bydd yn mynd yn 'gaeth' i'r gor-fwyta a chwydu. Bydd ymddygiad bulimia yn digwydd yn lle ymddygiad arferol.

Mae bulimia, a'r holl wahanol anhwylderau bwyta, yn gymhleth ac nid oes 'rheswm' penodol amdano. Fodd bynnag, gall ambell sefyllfa arwain ato. Dyma rai:

Felly, er mwyn deall bulimia, ddylen ni ddim ei weld yn ofn eithriadol o fynd yn dew yn unig. Ddylen ni ddim ei ystyried chwaith yn wendid neu'n ddiffyg ewyllys. Nid dyna beth yw. Dyna pam mae addewidion i stopio gor-fwyta'n eithriadol yn methu mor aml. Mae agweddau gwahanol bulimia - awchu am fwyd, gor-fwyta, chwydu, hunan-gasineb ac euogrwydd - ar y cyfan yn dangos anhawster emosiynol gyda'r sefyllfa bresennol neu a ddigwyddodd yn y gorffennol. Gall bulimia fynegi anhapusrwydd a diffyg diwallu anghenion emosiynol, teimladau o fethu bod yn ddigon da/inadequacy, hunan-barch isel, neu ddiffyg rheolaeth dros ryw agwedd o fywyd.

Pwy sy'n dioddef?

Merched ifanc tua 18 oed sy'n dioddef bulimia fel rheol, yn enwedig rhai a dderbyniodd addysg dda, er y gall eu hoed amrywio o'r arddegau i'r 60au hwyr. Dim ond 5% o ddynion a gofnodir yn swyddogol yn dioddef.

Mae'r mwyafrif benywaidd sy'n dioddef bulimia yn adlewyrchu - fel gydag anorexia - bod mwy o bwysedd ar fenywod yn ein cymdeithas ni i reoli eu pwysau. Bydd menyw a gafodd addysg dda yn tueddu rhoi gwerth ar fod yn 'denau', gall fod yn berffeithydd, a bydd yn barnu ei hunan- ymddangosiad yn fwy. Yn ambell i achos, bydd perthynas rhwng rhieni a merch yn arwain at ddiffyg mynegiant anghenion, gwadu teimladau (yn enwedig dicter) ac ansicrwydd am eu cyrff - hyn i gyd yn cael mynegiant drwy bulimia.

Mae bulimia ymhlith dynion yn fwy tebyg o gael ei gysylltu ag amheuon am rywioldeb. Bydd dynion ifanc, ansicr eu rhywioldeb, yn aml yn ceisio adlewyrchu modelau 'gwryw' o fyd chwaraeon, seiclwyr neu athletwyr.

Bydd diffyg hunan-barch gan ddioddefwyr bulimia yn aml, ofni nad y'n nhw'n ddigon da, a'r angen i gael eu canmol ganeraill. Eu barn amdanyn nhw'u hunain yw eu bod yn garedig, yn brin eu hyder ac yn amhendant.

Cyfrinachedd

Gallech alw bulimia yn 'salwch cyfrinachedd'. Mae'n gyffredin i rywun efo bulimia deimlo cymaint o gywilydd am eu hymddygiad nes ei guddio rhag eraill. Am eu bod yn chwydu neu'n gwaredu bwyd yn dilyn eu gor-fwyta eithriadol, neu'n ymarfer yn ormodol er mwyn osgoi ennill pwysau, ni fydd pwysau eu cyrff yn amrywio rhyw lawer, a gall hynny ei gwneud yn anodd barnu a yw rhywun yn dioddef bulimia.

Canlyniadau bulimia

Gall bulimia achosi problemau meddygol difrifol. Mae rhai o'r rhain yn beryg bywyd ac yn cynnwys:

Bydd gan rai pobl sy'n dioddef anhwylder bwyta symtomau bulimia ac anorexia. Gall hyn fod yn beryglus iawn oherwydd effeithiau dwbl y llwgu a'r gwaredu.

Adferiad

Gall unrhywun sy'n dioddef bulimia fwyta'n iach unwaith eto, waeth pa mor hir y buon nhw'n ymddwyn fel hyn. Bydd effeithiau corfforol y salwch yn diflannu unwaith iddyn nhw ddechrau bwyta'n normal unwaith eto. Trafodwn adferiad rhag bulimia - ac anhwylderau bwyta eraill - yn fanylach yn nes ymlaen yn yr adran hon.