Fel y dwedwyd yn barod 'dyw gor-fwyta ynddo'i hun ddim yn salwch - er yn bendant nad yw'n beth iach - ond bydd ambell fath oymddygiad gor-fwyta yn cael ei gydnabod yn wir anhwylder bwyta.

Gor-fwyta Eithriadol/Gorfwyta Gorfodol

Ysgrifennwyd y dudalen hon ar gyfer pawb - pobl sy'n dioddef o anhwylder bwyta a phobl sydd ddim. Os credwch bod ganddoch CHI anhwylder gor-fwyta o ryw fath, gall darllen y dudalen hon fod yn help i chi ddeall beth sy'n digwydd.

Mae dau brif fath o anhwylder bwyta yn perthyn i or-fwyta.

Anhwylder Gor-fwyta Eithriadol (AGfE)

Fel yn achos bulimia, ni chydnabyddwyd Anhwylder Gor-fwyta Eithriadol tan y blynyddoedd diwethaf. Yn 1992 y cafodd ei gydnabod am y tro cyntaf. Mae'n debyg mewn rhai ffyrdd i bulimia, ond y prif wahaniaeth yw bod rhywun sy'n dioddef o AGfE yn gorfwyta'n eithriadol heb reolaeth, ond nid yw'n chwydu nag yn gwaredu bwyd mewn unrhyw fodd fel y bydd rhywun sy'n dioddef bulimia.

 
Gor-fwyta Gorfodol

Amrywiaeth ar AGfE yw Gor-fwyta Gorfodol, lle bydd rhywun yn bwyta hyd yn oed heb fod ganddyn nhw archwaeth am fwyd. Gall hyn ddigwydd drwy'r amser - h.y. gydol y dydd, bob dydd - neu gall fynd a dod ar adegau. Y prif wahaniaeth rhwng Gor-fwyta Gorfodol ac AGfE yw nad yw rhywun yn gor-fwyta'n eithriadol.


Beth sy'n digwydd?

Mae'n bwysig deall bod gor-fwyta eithriadol a gor-fwyta gorfodol yn wahanol iawn i or-fwyta 'normal', hynny oherwydd ffactorau megis dull o fyw, geneteg neu arferion teuluol.

Bydd cychwyn Gor-fwyta Eithriadol neu Or-fwyta Gorfodol fel arfer (ond nid bob amser) yn dilyn cyfnod o fod ar ddeiet. Yn gyffredinol iawn, bydd deiet - i geisio gwella hunan-barch - yn gallu arwain at or-fwyta, lle bydd hi'n anodd peidio bwyta hyd yn oed pan fydd rhywun yn llawn, a bydd yn profi'r ysfa am siwgwr. Er mai adwaith naturiol y corff i'r ddeiet yw hyn, mae'r ysfa hon yn cael ei hystyried yn 'ddrwg' i'r person sydd ar ddeiet, ac mae'r hunan-barch yn gostwng hyd yn oed ac yn gwneud iddi geisio rheoli ei bwyta'n fwy fyth.

Bydd Gorfwyta Eithriadol yn achosi cynnydd cyflym iawn yn lefel glwcos yn y gwaed ac mae hyn yn achosi i'r pancreas gynhyrchu mwy o inswlin - yr hormon sy'n rheoli siwgwr yn y gwaed. O ganlyniad, bydd lefel siwgr yn y gwaed yn syrthio'n ddramatig - waeth faint gafodd ei fwyta - gan roi'r neges anghywir i'r corff bod angen mwy o glwcos arno ar frys. Felly, mae'r awch am siwgwr - sef unrhyw fwyd - yn parhau.

Oherwydd methu deall beth sy' n digwydd i'w chorff, bydd rhywun ar ddeiet yn beio'i hunan am fethu rheoli'r sefyllfa. Bydd wedyn yn mynd i gylch o or-fwyta - teimlo'n euog - ymatal - gor-fwyta. Ymhen tipyn, bydd gor-fwyta gorfodol yn ffordd symbolaidd o geisio delio ag unrhyw broblemau emosiynol yn y person, stres, pryder, dicter, diffyg hunan-barch neu anhawsterau emosiynol eraill.

Mae rhywun gyda Gor-fwyta Gorfodol yn dilyn llwybr tebyg i rywun gyda Gor-fwyta Eithriadol, lle mae'r gor-fwyta yn amharu ar lefel normal y siwgwr yn y gwaed nes peri chwant parhaus am fwyd. Gall y ddau anhwylder ddatblygu'n ddull symbolaidd o geisio delio ag anhawsterau emosiynol.

Pwy sy'n ddioddef?

Credir bod llawer mwy o yn dioddef anhwylder Gor-fwyta Eithriadol nag anorexia na bulimia nervosa.

Bydd AGfE neu'r Gor-fwyta Gorfodol yn effeithio ar bobl o bob oed, dynion a merched, er bod merched yn fwy ymwybodol ohonyn nhw ac yn gofidio mwy am y canlyniadau nag y bydd dynion.

Mae mwyafrif pobl sy'n gor-fwyta'n orfodol yn rhy drwm neu'n or-dew a gallan nhw ddefnyddio'r trymder neu'r ymddangosiad i guddio'u hunain er mwyn osgoi bod yn gymdeithasol. Bydd eraill yn cuddio'r tu ôl i wyneb hapus er mwyn osgoi cydnabod bod ganddyn nhw broblemau bwyta.

Gall stres, pryder a chyflyrau eraill greu sefyllfa lle bydd rhywun yn troi at or-fwyta er mwyn ymdopi.

Canlyniadau

Oherwydd cymaint y bwyd gaiff ei fwyta, bydd llawer gydag AGfE neu Or-fwyta Gorfodol yn mynd yn or-dew. Bydd hyn yn arwain at broblemau iechyd - clefyd y galon, problemau'r stumog, clefyd y siwgwr, poen cefn, anhawsterau anadlu a chylchrediad y gwaed.

Bydd llawer o ddioddefwyr AGfE a Gor-fwyta Gorfodol yn teimlo cywilydd wrth fethu rheoli eu gorfodaeth i fwyta. Mae iselder ysbryd yn gyffredin, pyliau o banig, methu canolbwyntio, anobaith a phryder.

Mae ymddygiad gorfodol-obsesiynol ynghylch bwyd a bwyta yn gallu rheoli bywyd rhywun. Mae'n gyffredin iddyn nhw fod yn meddwl am fwyd o hyd, pwyso'u hunain yn dd-baid gydol y dydd, bwyta ar yr un amser bob dydd, trefnu bwyd mewn dull arbennig, neu fwyta yn yr un lle bob amser. Gall ymddygiad o'r fath gynyddu ymdeimlad unigolyn o ynysu ac o anobaith.

Adferiad

Mae AGfE a Gor-fwyta Gorfodol yn anhwylderau difrifol. Fodd bynnag, mae'n bosibl dychwelyd i ddull iach o fwyta, gyda chefnogaeth broffesiynol briodol. Byddwn yn trafod adferiad rhag AGfE a Gor-fwyta Gorfodol yn fwy manwl yn nes ymlaen yn yr adran hon.