Yn gyntaf, gallwn weld bod anorexia, bulimia a gor-fwyta yn digwydd pan fydd perthynas rhywun â bwyd yn mynd o chwith - h.y. mae'n mynd yn beth afiach - ac yn peri niwed.
Mae'r ffurfiau gwahanol y berthynas hon a aeth o chwith yn ymddangos yn y tri anhwylder.
Gwelson ni fod perthynas â bwyd a aeth o chwith wedi digwydd oherwydd bod rhywun yn dioddef rhyw fath o ofid emosiynol.
Gwelson ni hefyd bod y tri math o anhwylder ynghlwm wrth ofid emosiynol o ryw fath neu'i gilydd. Eto, gall y pryder hwn ymddangos mewn ffurfiau gwahanol.
Felly, gallwn ddweud nad am fwyd y mae'r anhwylderau bwyta hyn o gwbl - ond am ofid emosiynol mewnol, a arweiniodd at berthynas â bwyd a aeth o chwith. Mae'r berthynas hon a aeth o chwith weithiau'n cael ei gyrru gan ymdrech i ennill rheolaeth (yn achos Anorexia a Bulimia) neu geisio am ryddhad rhag pryder (yn achos Bulimia ac AGfE/GG) neu geisio am gysur (yn achos AGfE/GG).
Un ffactor gyffredin rhwng y tri anhwylder yw'r ddelwedd o'r corff a'r dymuniad i fod yn 'denau'. Gwraidd mwyafrif yr achosion anhwylderau bwyta yw'r ymgais i fod ar ddeiet.
Cred gyffredin yw mai merched ifanc yn unig sy'n dioddef anhwylderau bwyta.
Yn ddi-os, mae menywod - yn enwedig merched ifanc - o dan bwysau cymdeithasol ynghylch eu hymddangosiad ym mwyafrif ein cymdeithasau modern. Fel y dwedwyd, ystyr 'bod yn denau' yw 'bod yn brydferth' - ac ystyr 'bod yn brydferth' yw 'bod yn dda'.
O ganlyniad, bydd merched ifanc yn aml yn defnyddio'u pwysau yn ffon-fesur eu hunan-werth a pha mor ddeniadol y maen nhw. Oherwydd methu cwrdd â delfrydau afrealistig y cyfryngau, gall merch ifanc deimlo'n dew ac yn annigonol. Yna bydd y ferch yn ceisio mynd ar ddeiet er mwyn cyrraedd y 'nod' o ran ymddangosiad. Gall ymgeisio sawl gwaith, a methu cyrraedd y ddelfryd gorfforol, arwain at broblemau emosiynol a phroblemau ymddygiad, gan gynnwys gor-fwyta eithriadol, obsesiwn am fwyd ac anhwylderau bwyta anorexia neu bulimia.
Bydd y pryder emosiynol tu cefn i'r anhwylderau bwyta yn aml yn bryder ynghylch y ddelwedd sydd gan y ferch o'i chorff hi ei hunan.
Mae adferiad rhag anhwylder bwyta yn bosibl. Byddwn yn trafod adferiad yn fanylach yn nes ymlaen - ar dudalen 7 o'r adran hon. Yn gyntaf, i'r rhai ohonoch chi sy'n teimlo bod gennych chi broblem ynghylch bwyd, ar y dudalen nesaf mae nifer o gwestiynau i'ch helpu chi i ddarganfod a oes gennych anhwylder.