Ar y dudalen hon byddwn yn rhoi cwestiynau y gallwch chi ofyn i chi'ch hunan - er mwyn eich helpu i benderfynu a y'ch chi'n dioddef anhwylder bwyta.

Ond allwn ni ddim pwysleisio hyn ormod - ceisiwch da chi fod yn onest I CHI mae hwn. Neb arall.

Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw anhwylder bwyta yn salwch 'run fath ā'r frech goch. Nid yw GENNYCH neu DDIM GENNYCH. Mae'n rhywbeth mwy graddol na hynny.

Bydd mwyafrif merched - a llawer o ddynion - yn pryderu am beth fyddan nhw'n fwyta a sut fyddan nhw'n ymddangos, ac mae hynny'n hollol naturiol ac yn gwbl iach. Ond os bydd pryder am beth fyddwn ni'n ei fwyta neu sut fyddwn ni'n ymddangos yn mynd yn annormal mewn rhyw fodd - yna gall arwain at broblemau difrifol i'n iechyd corfforol ac emosiynol. Yna, dylen ni feddwl pam ry'n ni'n gwneud beth r'yn ni yn ei wneud.

 

A oes gen i anhwylder bwyta?

Mae tair agwedd i unrhyw anhwylder bwyta. Ein MEDDYLIAU, ein TEIMLADAU a'n HYMDDYGIAD. I gael gweld a oes gennych ryw fath o anhwylder bwyta, edrychwch ar y rhain yn eich bywyd chi

MEDDYLIAU
Ystyriwch eich MEDDYLIAU am fwyd, am fwyta, am bwysau, ac am eich corff. Fyddwch chi'n meddwl am y pethau hyn drwy'r amser? Ydyn nhw'n feddyliau negyddol? Er enghraifft, fyddwch chi'n meddwl na fasech chi'n hoffi petae pobl eraill yn gwybod beth ry'ch chi'n ei fwyta neu beth wnaethoch chi i osgoi ennill pwysau? Fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd peidio meddwl am beth r'ych chi wedi ei fwyta? Yn mynd i'w fwyta? Neu 'ddylech' chi ei fwyta.

TEIMLADAU
Ystyriwch sut y'ch chi'n TEIMLO am fwyd, am bwysau, am fwyta ac am eich corff. Fyddwch chi'n teimlo llawer o euogrwydd, o bryder ac ofn? Fyddwch chi'n teimlo'n dew, er bod eich ffrindiau'n dweud nad y'ch chi'n dew? Fyddwch chi'n casau eich hunan oherwydd beth y'ch chi'n ei fwyta? Oes ofn bwyta'n normal arnoch chi? Fyddwch chi weithiau'n teimlo wedi colli rheolaeth - fel tasech chi'n gwneud popeth y byddai'n well gennych beidio eu gwneud? Fyddwch chi'n teimlo'n ddiymadferth o gwmpas bwyd? Ydy'r teimladau hyn yn rhai cryfion?

YMDDYGIAD
Ystyriwch sut mae'ch meddyliau a'ch teimladau yn eich arwain i YMDDWYN o gwmpas bwyd, bwyta, a rheoli'ch pwysau. Er enghraifft, fyddwch chi'n gwneud pethau yn y dirgel, yn chwydu prydau i fyny, neu'n gor-fwyta? Fyddwch chi'n osgoi gwisgo ambell ddilledyn oherwydd eich teimladau am eich corff? Fyddwch chi'n osgoi cwrdd ā phobl oherwydd hyn? Fyddwch chi'n pwyso'ch hunan o hyd ac o hyd? Fyddwch chi'n arbrofi gyda deiet bob amser?

Mae llawer sy'n dioddef anhwylder bwyta yn anghofio beth sy'n normal. Wedi arfer cymaint gwneud pethau mewn ffordd arbennig, d'yn nhw ddim yn cofio sut i beidio gwneud hynny. Dy'n nhw ddim yn cofio sut i ymlacio gyda bwyd. Oherwydd hyn, bydd llawer sy'n ymddwyn yn beryglus o gylch bwyd yn gwadu pa mor ddifrifol yw eu problemau.


Wrth ystyried eich meddyliau, eich teimladau a'ch ymddygiad fel hyn, gallwch gael syniad go dda a yw eich perthynas gyda bwyd, bwyta, eich pwysau a'ch corff yn iach neu beidio. Os ateboch YDY i nifer o'r cwestiynau uchod, mae'n debyg iawn eich bod chi'n dioddef o ryw fath o anhwylder bwyta.

Felly - gadewch i ni gael gweld a allwn ni ddarganfod pa fath o anhwylder bwyta sydd gennych. Eto, rhaid i ni bwysleisio bod angen i chi fod yn onest. Mae'n anodd, fe wyddon ni, - mae'n boenus cyfaddef beth sy'n digwydd - ond dyma lle gallwch chi ddangos cariad atoch chi'ch hunan. Dyma lle gallwch chi gychwyn newid pethau.

Isod, ry'n ni'n rhestru rhai o'r arwyddion neu'r symtomau a all awgrymu bod person yn dioddef anorexia, bulimia neu or-fwyta eithriadol / gor-fwyta gorfodol. Pwyllwch, a darllenwch drwy'r rhestri, i weld a allwch chi adnabod eich sefyllfa chi. Fyddwch chi ddim yn siwr o rai pethau efallai, a y'ch chi'n dangos y symtom neu beidio - ond na hidiwch. Os y'ch chi'n teimlo'n gysurus wrth ofyn, gofynnwch i eraill - ffrindiau neu aelodau teulu - a y'ch chi'n dangos y symtom hwnnw.

Mae'n bwysig i chi wybod nad yw pawb yn dangos yr un arwyddion. Bydd cymysgedd o symtomau gan ambell un, a fydd dim rhaid dangos yr arwyddion i gyd cyn bod rhywun yn dioddef anhwylder bwyta arbennig.

ANOREXIA
Bydd pobl sy'n dioddef anorexia:

 
BULIMIA
Sumtomau pobl sy'n dioddef bulimia:  
GOR-FWYTA EITHRIADOL
Bydd rhywun sy'n dioddef gor-fwyta eithriadol:

Wedi i chi ddarllen y rhestr symtomau hon; efallai byddwch chi'n teimlo'ch bod chi'n dioddef un o'r anhwylderau bwyta. Os felly, peidiwch ā digalonni mae adferiad yn bosibl, ac mae llawer iawn o bobl ar gael a all eich helpu. Darllenwch y dudalen nesaf i weld pa help a chefnogaeth sydd ar gael i chi.